PCYDDS yn penodi academydd ac ymarferydd nodedig yn Athro Ymarfer
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch i gyhoeddi penodiad yr Athro Peter Herbert yn Athro Ymarfer, gan gydnabod gyrfa eithriadol sy’n rhychwantu chwaraeon elitaidd, ffisioleg chwaraeon, cydweithredu clinigol, ymchwil a chyflawniad athletaidd gydol oes.
Mae’r Athro Herbert yn enwog yn rhyngwladol am ei gyfraniad i ffisioleg ymarfer corff a pherfformiad dynol, gyda ffocws penodol ar heneiddio, iechyd a gallu corfforol. Bydd ei benodiad yn cryfhau addysgu, ymchwil, arloesi ac ymgysylltu cyhoeddus PCYDDS, gan greu cyfleoedd newydd i fyfyrwyr a staff gysylltu ag arbenigedd arloesol ar draws chwaraeon, iechyd a pherfformiad dynol.
Mae gyrfa nodedig Peter mewn chwaraeon elitaidd yn cynnwys gwasanaethu fel Hyfforddwr Cyflyru Ffitrwydd i Scarlets Llanelli o 1985 i 2000, cyn dod yn Bennaeth Ffitrwydd a Chyflyru yn Undeb Rygbi Cymru, gyda chyfrifoldeb llawn dros Dîm Cenedlaethol Cymru. Wedi hynny, gwasanaethodd fel Cyfarwyddwr Labordy Ffisioleg Ymarfer Corff URC, gan oruchwylio’r broses gysyniadol a’r datblygiad gweithredol.
Mae ei waith wedi canolbwyntio’n gyson ar drosi tystiolaeth wyddonol yn ddulliau ymarferol a all wella iechyd, ffitrwydd a pherfformiad. Mae ei ymchwil i ymarfer corff a heneiddio wedi dangos potensial sylweddol rhaglenni ymarfer corff strwythuredig, hygyrch i wella gallu corfforol yn ddiweddarach mewn bywyd, gyda oedolion hŷn yn cyflawni lefelau o berfformiad tebyg i unigolion sy’n llawer iau.
Dywed yr Athro Cysylltiol, Dr Nalda Wainwright, Cyfarwyddwr Academi Cymru ar gyfer Iechyd a LLythrennedd Corfforol:
“Mae’n brin dod o hyd i hyd oes o ymarfer proffesiynol ar y lefel uchaf ynghyd ag ymchwil arloesol ac ymrwymiad parhaus i gymhwyso’r wybodaeth honno er mwyn trawsnewid dulliau o ymdrin â ffitrwydd a gweithgarwch corfforol yn ystod henaint. Mae gyrfa’r Athro Herbert yn dwyn â’r llinynnau hyn ynghyd yn unigryw, gan ddarparu pont eithriadol rhwng perfformiad elitaidd, ymchwil academaidd a hyrwyddo iechyd a llesiant gydol oes.
“Yn ogystal, mae’r Athro Herbert wedi archwilio dulliau effeithlon amser-effeithiol o gryfder a chyflyru, gan ddangos y gall ymyriadau hyfforddi cymharol fyr, ddarparu manteision sylweddol. Mae ei waith wedi helpu i lywio’r broses o ddylunio rhaglenni, ymyriadau cymunedol ac arfer clinigol, gan gyfrannu at ddealltwriaeth ehangach y cyhoedd o bwysigrwydd ymarfer corff trwy gydol oes unigolyn.
Ochr yn ochr â’i gyflawniadau academaidd a phroffesiynol, mae’r Athro Herbert yn parhau i fod yn enghraifft ryfeddol o weithgarwch a pherfformiad corfforol gydol oes.”
Yn athletwr trwy gydol ei fywyd, mae’n rhwyfwr Concept2 sy’n dal record y byd ac yn ddiweddar torrodd y record rhwyfo 100m ar ei ben-blwydd yn 80 oed. Mae’n parhau i gystadlu’n rhyngwladol mewn seiclo ac enillodd wobr Efydd yn y sbrint 500m ym Mhencampwriaethau Meistri y Byd UCI. Yn ogystal, yn 2025 yn 80oed, paratôdd i gystadlu yn y digwyddiad ffitrwydd byd-eang HYROX yng Nghaerdydd, gan ddod yn un o’r cystadleuwyr hynaf i gwblhau’r her lawn.
Mae ei ymrwymiad parhaus i berfformiad, llesiant a dysgu gydol oes yn cyd-fynd yn agos â gwerthoedd PCYDDS.
Wrth sôn am ei benodiad, meddai’r Athro Peter Herbert:
“Rwy’n falch iawn i ymuno PCYDDS fel Athro Ymarfer. Mae’r Brifysgol yn darparu amgylchedd cyffrous lle gall gwybodaeth academaidd, profiad ymarferol ac arloesi ddod ynghyd. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda myfyrwyr a chydweithwyr, gan gyfrannu at ymchwil a helpu i ddatblygu mentrau sy’n dangos pwysigrwydd ymarfer corff, iechyd a pherfformiad trwy gydol oes unigolyn.
“Rwy’n arbennig o awyddus i ddefnyddio fy mhrofiad a’m proffil rhyngwladol i gefnogi gwaith PCYDDS a helpu i arddangos addysgu, ymchwil a dulliau arloesi’ Brifysgol i gynulleidfaoedd ehangach.”
Meddai Dr Dylan Blain, Cyfarwyddwr Academaidd Chwaraeon a Byw’n Iach yn PCYDDS:
“Rydym yn falch i groesawu Peter yn Athro Ymarfer yn PCYDDS ac yn edrych ymlaen at ein cydweithrediadau parhaus mewn amrywiaeth o feysydd. Mae hyn yn cynrychioli cydnabyddiaeth briodol o’i gyfraniad i feysydd chwaraeon, ymarfer corff, ffitrwydd ac iechyd. Mae gwaith a phrofiad Peter yn rhychwantu ehangder llawn y cyrsiau a gynigir yn yr Ysgol Chwaraeon a Byw’n Iach yn PCYDDS ac rydym yn ddiolchgar am ei gymorth a’i arweiniad ym mhopeth a wnawn. Rydym yn edrych ymlaen at ein gwaith parhaus gyda’r Athro Herbert a dyfodol cyffrous i’r ysgol.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476