Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi sicrhau cyllid o £83,560 i arwain prosiect ymchwil arloesol sy’n archwilio sut mae preswylwyr yn profi technolegau carbon isel yn eu cartrefi a’u defnyddio. 

Two University staff sat at a white desk looking at technology.

Mae’r cyllid a ddyfarnwyd trwy EPSRC Switch to Net Zero Buildings Place Based Impact Acceleration Account (PBIAA), yn cefnogi’r prosiect Human-Centred Net Zero: Building User Experience Evidence to Improve Procurement of Low Carbon Home Technologies in the Swansea Bay City Region (SBCR). Bydd yr ymchwil yn archwilio manteision a heriau yn y byd go iawn sy’n gysylltiedig â thechnolegau fel pympiau gwres a rheolyddion ynni clyfar. 

Mae’r prosiect a arweinir gan PCYDDS mewn partneriaeth â Grŵp CODI, y landlord cymdeithasol cofrestredig mwyaf yng Nghymru, yn dwyn ynghyd arbenigedd o dri chanolfan arbenigol yn y Brifysgol; Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC), UNESCO MOST BRIDGES a Chanolfan Arloesi Adeiladu Cymru (CWiC). 

Bydd ymchwilwyr yn  gweithio’n uniongyrchol gyda phreswylwyr i ddeall yn well sut mae technolegau carbon isel yn cael eu defnyddio ym mywydau pobl bod dydd, nodi ffactorau sy’n cefnogi eu mabwysiadu llwyddiannus a’u defnydd hirdymor yn ogystal ag archwilio sut y gall aelwydydd wneud y mwyaf o arbedion posibl. 

Mae’r fenter yn adeiladu ar rwydweithiau cydweithredol a dulliau seiliedig ar le a sefydlwyd trwy brosiect REPAIR a ariannwyd gan AHRC, sy’n archwilio atebion seiliedig ar natur ar gyfer addasu i’r hinsawdd a dylunio bioffilig yn yr amgylchedd adeiledig. Tra bod REPAIR yn canolbwyntio ar addasu i’r amgylchedd, bydd y prosiect newydd yn canolbwyntio’n benodol ar brofiad preswylwyr o dechnolegau carbon isel sydd wedi’u gosod yn eu cartrefi. 

Bydd gweithgaredd ymchwil yn cynnwys cyfweliadau, ymweliadau â chartrefi, a gweithdai cydweithredol gyda phreswylwyr. Disgwylir y bydd darganfyddiadau yn helpu i lywio’r gwaith o ddylunio cartrefi yn y dyfodol, caffael technoleg, strategaethau gweithredu, a chyfathrebu â chwsmeriaid, gan sicrhau bod uchelgeisiau sero net yn cyd-fynd ag anghenion a phrofiadau byw preswylwyr. 

Meddai Yolanda Rendón Guerrero, Cymrawd Ymchwil ATiC ac Arweinydd y Prosiect: 

 “Mae’r cyllid hwn yn cynrychioli cyfle cyffrous i gryfhau ein rôl fel sefydliad dinesig a phartner arloesi wrth greu dyfodol ar y cyd. Trwy weithio’n agos gyda sefydliadau tai cymdeithasol, rhwydweithiau a chymunedau y tu allan i’r byd academaidd, gallem greu atebion ar y cyd sy’n ymateb yn uniongyrchol i anghenion pobl a chynhyrchu effaith ystyrlon ar sut rydym yn byw a gweithredu dulliau arloesi. Gan adeiladu ar bartneriaethau a dysgu a ddatblygwyd trwy brosiectau megis REPAIR, mae’r gwaith hwn yn ein galluogi i ddyfnhau ein dealltwriaeth o sut mae pobl yn profi newid yn yr amgylchedd adeiledig a throsi’r wybodaeth honno i weithredu ymarferol sy’n cefnogi cymunedau a nodau cynaliadwyedd.”

Ychwanegodd Shelley Doolan, Rheolwr Prosiect yn ATiC: “Mae’r prosiect hwn yn adlewyrchu’r hyn mae ATiC yn ei wneud orau: dod ag ymchwilwyr, partneriaid diwylliant, sefydliadau sector cyhoeddus, a chymunedau ynghyd er mwyn deall profiadau pobl yn well a throsi’r mewnwelediadau hynny’n dulliau arloesi ystyrlon. Trwy gyfuno arbenigedd o sectorau gwahanol, gallem helpu i sicrhau bod technolegau newydd yn cael eu llunio o gwmpas anghenion y bobl sy’n eu defnyddio. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’n partneriaid ar y prosiect hwn a datblygu cydweithrediadau pellach sy’n gosod pobl wrth wraidd arloesi.”

Meddai Luci Attala, Athro Cysylltiol Anthropoleg a Dirprwy Cyfarwyddwr Gweithredol UNESCO-MOST BRIDGES:  “Nid her dechnegol yn unig yw’r trawsnewidiad i sero net, mae’n drawsnewidiad cymdeithasol, diwylliannol a moesegol. Trwy UNESCO MOST BRIDGES, rydym wedi ymrwymo i ddod â gwahanol ffurfiau o wybodaeth i’r drafodaeth er mwyn deall yn well sut mae pobl yn profi newid amgylcheddol yn eu bywydau bob dydd. Mae’r prosiect hwn yn cydnabod bod arloesi llwyddiannus yn dibynnu nid yn unig ar berfformiad technolegau carbon isel, ond yn hytrach, sut maent yn ffitio o fewn cartrefi, cymunedau, a gwerthoedd pobl. Trwy osod profiad byw wrth wraidd ymchwil a gwneud penderfyniadau, gallem helpu i lunio llwybrau mwy cynhwysol, cynaliadwy tuag at ddatgarboneiddio y gellir ymddiried ynddynt.

Meddai Gareth Evans, Pennaeth CWiC: “Mae’r prosiect hwn yn darparu cyfle pwysig i gysylltu ymchwil, arloesi ym maes tai, a datblygu’r gweithlu. Trwy gynhyrchu tystiolaeth gryfach ar sut mae technolegau carbon isel yn perfformio yng nghartrefi pobl, gallem helpu i lunio penderfyniadau gwell ynghylch caffael, gweithredu a sgiliau ar draws ein rhanbarthau, gan ddatblygu llwybrau addysgol sy’n paratoi dysgwyr a gweithwyr proffesiynol i gefnogi trawsnewidiad ehangach Cymru tuag at stoc tai sero net.”

Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar themâu allweddol gan gynnwys profiad byw, mewnwelediadau ymddygiadol, defnyddioldeb technoleg, dylunio cydweithredol, a chanlyniadau perfformiad. Bydd partneriaid yn cydweithio er mwyn nodi’r ffactorau sy’n cyfrannu at ddefnydd llwyddiannus o dechnolegau carbon isel, gan helpu i wella dulliau caffael a gweithredu yn y dyfodol ar draws y sector tai. 

Meddai Cymrawd Arloesi Ymchwil ATiC a Chyd-arweinydd y Prosiect, Dr Fatma Layas: “Mae cyflawni sero nid yn unig yn ymwneud â defnyddio technolegau arloesol - mae’n ymwneud â sicrhau eu bod yn gweithio i’r bobl sy’n eu defnyddio bob dydd. Bydd y prosiect hwn yn cynhyrchu tystiolaeth werthfawr am brofiadau preswylwyr o dechnolegau carbon isel yn y cartref, gan ein helpu i ddeall y ffactorau ymarferol, ymddygiadol a hygyrchedd sy’n dylanwadu ar eu defnydd llwyddiannus. Trwy osod profiad y defnyddiwr wrth wraidd y penderfyniadau caffael a dylunio, gallem helpu darparwyr tai i ddewis technolegau sydd nid yn unig yn effeithiol yn dechnegol, ond sy’n reddfol, cynhwysol, ac yn gallu darparu buddion parhaol i drigolion a chymunedau.”

Yn ogystal â hyrwyddo arloesi ym maes tai a chynaliadwyedd, bydd y prosiect yn creu cyfleoedd i fyfyrwyr ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfaoedd weithio ochr yn ochr â darparwyr tai, cymunedau, a thimau ymchwil amlddisgyblaethol, gan ennill profiad ymarferol gwerthfawr i ategu eu datblygiad academaidd a phroffesiynol. 

Bydd y prosiect yn dechrau ym mis Hydref 2026 a bydd yn para am 12 mis. 

Meddai’r Athro Mark Cocks, Deon Cyfadran Gwyddoniaeth a Chelf Cymru yn PCYDDS:  “Mae’r cyllid hwn yn cryfhau ymhellach ymrwymiad PCYDDS i gyflawni ymchwil ac arloesi effeithiol, gan gefnogi datblygu cynaliadwy yn ogystal â chreu partneriaethau ystyrlon sy’n cynhyrchu buddion i gymunedau ar draws Cymru a’r tu hwnt. “ 

Meddai Becky Cole, Pennaeth  Adfywio CODI: “Rydym yn falch i weithio gyda chydweithwyr yn PCYDDS ar y prosiect hwn. Trwy’r bartneriaeth hon, rydym eisiau deall yn well sut mae technolegau carbon isel yn cael eu defnyddio ym mywydau pobl bob dydd a pha gymorth y gallai fod ei angen i sicrhau eu  bod yn cael y gorau o’r technolegau hyn. Bydd yr ymchwil yn darparu mewnwelediadau gwerthfawr, gan ein helpu i nodi cyfleoedd i lywio caffael, gwella gwasanaethau, gwella profiad y cwsmer, a gwneud y mwyaf o arbedion posibl i aelwydydd. Yng Ngrŵp Codi, rydym am sicrhau bod arloesi yn cael ei lunio gan y bobl sy’n ei ddefnyddio, ac rydym yn awyddus i rannu mewnwelediadau gyda’n partneriaid net sero ar draws y sector.”

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect a chyfleoedd i gymryd rhan, cysylltwch ag atic@uwtsd.ac.uk. 


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon