Skip page header and navigation

Mae rhaglen Bêl-droed Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi dathlu blwyddyn lwyddiannus arall, gyda thîm cyntaf y dynion yn cyflawni dwbl nodedig ar draws y gynghrair a’r cwpan.

UWTSD Mens Football team

Sicrhaodd y tîm deitl Cynghrair BUCS Haen 5 y Gorllewin, gan ennill dyrchafiad i Haen 4 yn dilyn ymgyrch gref yn erbyn Prifysgol Gorllewin Lloegr (UWE), Myfyrwyr Meddygol Caerdydd, Prifysgol Caerdydd a dau dîm o Brifysgol Bryste. Drwy gydol y tymor, dangosodd PCYDDS ansawdd technegol cyson, disgyblaeth dactegol a phenderfyniad i orffen yn bencampwyr y gynghrair.

Parhaodd y llwyddiant yng Nghwpan Cynhadledd BUCS, lle cadwodd PCYDDS y tlws am yr ail flwyddyn yn olynol. Gorchfygodd y tîm Brifysgol Bath Spa, Prifysgol Marjon Plymouth a dau dîm o Brifysgol Southampton ar eu ffordd i’r rownd derfynol, lle wynebon nhw dîm Myfyrwyr Meddygol Caerdydd.

Yn y rownd derfynol, cynhyrchodd PCYDDS berfformiad cofiadwy i sicrhau buddugoliaeth o 5-1 a chyflawni’r dwbl ar draws y gynghrair a’r cwpan.

Roedd eu llwyddiant yn seiliedig ar gyfraniadau o bob rhan o’r garfan, gyda’r capten a’r amddiffynnwr canol Mathew Francis, sy’n astudio Therapi Chwaraeon; yr asgellwr a’r chwaraewr canol cae Jaden Rees, sy’n astudio Addysg Gynradd; y canolwr Lucian Evans, sy’n astudio Addysg Gorfforol; a’r chwaraewr canol cae ymosodol Kenzi Vickers, sy’n astudio Rheolaeth Chwaraeon, i gyd yn chwarae rhan allweddol trwy gydol yr ymgyrch.

Ochr yn ochr â llwyddiant y tîm mewn cystadlaethau prifysgol, mae nifer o chwaraewyr PCYDDS wedi parhau i symud ymlaen o fewn strwythur cynghrair domestig pêl-droed Cymru.

Mae’r gôl-geidwad Ifan Knott, myfyriwr Addysg Gorfforol, wedi llofnodi contract llawn amser gyda chlwb Sir Hwlffordd yn ddiweddar. Ar ôl ymddangos yn rheolaidd ar y fainc i’r clwb pan ymunodd â PCYDDS gyntaf, mae Ifan wedi elwa o hyfforddi a chwarae gemau’n rheolaidd trwy raglen y Brifysgol ac mae ar fin dechrau’r tymor newydd fel prif gôl-geidwad y clwb.

Mae Roan Piper, myfyriwr Rheolaeth Chwaraeon sy’n chwarae i Glwb Pêl-droed Trefelin, ac Owain Davies, myfyriwr Hyfforddi Chwaraeon yng Nghlwb Pêl-droed Rhydaman, hefyd wedi cael llwyddiant sylweddol. Mae’r ddau wedi cynrychioli PCYDDS ochr yn ochr â’u hymrwymiadau clwb ac wedi cael dyrchafiad i Uwch Gynghrair Cymru, y lefel uchaf o bêl-droed yng Nghymru.

Mae Pêl-droed PCYDDS hefyd yn parhau i fuddsoddi mewn rhagoriaeth hyfforddi. Ar hyn o bryd mae’r Rheolwr Cynorthwyol Dan Kivi yn cwblhau Trwydded A UEFA, un o’r cymwysterau hyfforddi uchaf ym mhêl-droed y byd. Mae hyn yn adlewyrchu ymrwymiad y Brifysgol i gynnal safonau hyfforddi elît a sicrhau bod chwaraewyr yn elwa o fethodolegau hyfforddi cyfredol, lefel uchel.

Datblygiad cyffrous arall eleni yw cyflwyno gwersylloedd hyfforddi hanner tymor, dan arweiniad chwaraewyr yr academi. Mae’r gwersylloedd hyn yn darparu profiad ymarferol gwerthfawr i ddarpar hyfforddwyr wrth ymgysylltu â chyfranogwyr ifanc o’r gymuned leol. Mae’r rhaglen hefyd wedi croesawu ysgolion cynradd lleol i gemau, gan helpu i adeiladu perthnasoedd cymunedol cryfach ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr.

Dywedodd Pennaeth Pêl-droed PCYDDS, Rob Thomas:

“Rwy’n falch iawn o berfformiadau’r chwaraewyr ar y cae eleni. Mae cyflawni’r dwbl ar draws y gynghrair a’r cwpan yn adlewyrchu’r ansawdd a’r ymroddiad sydd gennym i’n gwaith yn y Brifysgol.

“Rwy’r un mor falch o gynnydd y chwaraewyr o fewn eu clybiau eu hunain yng nghynghreiriau CBDC, ac o’r ffordd maen nhw wedi cydbwyso gofynion eu hymrwymiadau pêl-droed ochr yn ochr â’u hastudiaethau.

“Rydym eisoes yn edrych ymlaen at her y flwyddyn nesaf o gystadlu mewn cynghrair uwch.”

Mae cyflawniadau’r tymor yn atgyfnerthu enw da cynyddol Pêl-droed PCYDDS fel amgylchedd pêl-droed prifysgol perfformiad uchel, gan gefnogi myfyrwyr i lwyddo’n academaidd, datblygu fel chwaraewyr a symud ymlaen yn y gêm ehangach.


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon