Skip page header and navigation

Mae myfyrwraig BA Darlunio ail flwyddyn, Chloe Duggan o Goleg Celf Abertawe, wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol fawr ar ôl ennill Pensil, sef cydnabyddiaeth y mae llawer yn ei chwennych, yng Ngwobrau Gwaed Newydd mawreddog D&AD.

A student in a dark red top sitting at a white desk, with green plants and pots on it.

Mae’r rhaglen wobrwyo fyd-eang, a drefnir gan D&AD, yn denu mwy na 6,000 o geisiadau bob blwyddyn gan sefydliadau celf a dylunio blaenllaw ledled y byd. Hwn yw’r tro cyntaf i fyfyrwyr o gwrs BA Darlunio Coleg Celf Abertawe gymryd rhan yn y gystadleuaeth, sy’n golygu bod llwyddiant Chloe yn garreg filltir eithriadol i’r myfyriwr a’r cwrs.

Yn rhan o’i modwl Darlunio ar gyfer Hysbysebu, ymatebodd Chloe i friff creadigol byw yn dathlu 10 mlwyddiant y fenter War Child x Secret 7. Mae’r prosiect elusennol yn codi arian ar gyfer War Child trwy ocsiwn o waith celf llewys recordiau pwrpasol a grëwyd ar gyfer rhyddhau cerddoriaeth gyfoes.

Ar gyfer ei chyflwyniad arobryn, o’r enw “Paper World Celebration”, creodd Chloe animeiddiad stop-symud un funud gan ddefnyddio toriadau papur wedi’u gwneud â llaw. Roedd ansawdd cyffyrddol, analog yr animeiddiad yn adlewyrchu natur ffisegol recordiau finyl ac ysbryd gwaith llaw’r artistiaid a oedd wedi cyfrannu iddyn nhw.

Gan ddefnyddio dwylo yn unig o fewn yr animeiddiad i symboleiddio anhysbysrwydd yr artistiaid a gymerodd ran, ymgorfforodd Chloe adar hefyd yn drosiad cynnil ar gyfer y plant a gefnogir gan War Child, gan gynrychioli gobaith, rhyddid a heddwch.

Meddai Chloe Duggan: “Rydw i wrth fy modd fy mod i wedi ennill Pensil D&AD; allwn i ddim credu’r peth pan weles i fy mod i ar dudalen yr enillwyr ar eu gwefan nhw! Roedd fy mhrosiect yn rhywbeth hollol newydd i mi a braidd y tu allan i’m parth cysur, ond ces i gymaint o hwyl wrth ei greu ac roeddwn i wrth fy modd â’r dechneg ymarferol.

“Mae cael y cyfle i astudio ar y cwrs darlunio wedi rhoi’r hyder i mi gael fy ngwaith allan yna a deall beth mae’n ei olygu i weithio yn y diwydiant hwn. Mae’r amser un-i-un gyda fy nhiwtoriaid yn cael ei adlewyrchu yn fy ngwaith. Maen nhw bob amser yno i helpu gyda phrosiectau, gweithio trwy syniadau gyda’i gilydd, a gwneud yn siŵr fy mod i bob amser ar y llwybr cywir neu’n fy arwain i un hollol newydd.”

Canmolodd Rheolwr Rhaglen BA Darlunio, Martin Bush, gamp Chloe:

“Rwy’n hynod falch o lwyddiant Chloe. Mae’n bluen yn ei het hi a’r cwrs. Mae ennill Pensil y mae cynifer yn ei chwnnych, a hynny ar ôl rhoi cynnig ar gystadleuaeth Gwaed Newydd D&AD am y tro cyntaf, yn dyst rhyfeddol i’r sgiliau proffesiynol y mae ein myfyrwyr yn eu datblygu ar ein cwrs ni. Mae dull creadigol a chysyniadol Chloe, ynghyd â’i sgiliau crefft enfawr, wedi denu’r gydnabyddiaeth y mae’n ei haeddu mewn gwirionedd.”

Cynhelir Seremoni Wobrwyo Gwaed Newydd D&AD yn Llundain ddydd Mawrth 30 Mehefin 2026, lle bydd Chloe yn darganfod lefel y Pensil a ddyfarnwyd iddi. Yn rhan o’i llwyddiant, mae hi hefyd wedi cael gwahoddiad i ymuno â Bŵt-camp Hyfforddi arbennig Academi Gwaed Newydd, gan ddarparu cyfleoedd i ddatblygu ei hymarfer creadigol ochr yn ochr â mentoriaid blaenllaw yn y diwydiant.

Gellir gweld cyflwyniad buddugol Chloe yma.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon