Perfformwyr sy’n Graddio o PCYDDS yn Cael y Prif Sylw yn eu Cynhyrchiad Arddangos , Alice By Heart
Aeth myfyrwyr sy’n graddio o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) â’u cynulleidfaoedd ar daith hudolus, deimladwy a dychmygol wrth iddyn nhw gyflwyno cynhyrchiad arddangos eu blwyddyn olaf, Alice By Heart.
Gan gynnwys myfyrwyr o BA Perfformio, BA Theatr Gerddorol a BA Musical Theatre, rhoddodd y cynhyrchiad y cyfle i fyfyrwyr ddangos eu sgiliau perfformio a chreadigol i gynulleidfaoedd a gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant.
Cyfunodd Alice By Heart a ysbrydolwyd gan Alice’s Adventures in Wonderland, sgôr gyfoes uchelgeisiol gyda stori deimladwy o gyfeillgarwch, gwydnwch, dychymyg a gobaith yn wyneb adfyd. Cynigiodd y cynhyrchiad brofiad theatrig unigryw i’r cynulleidfaoedd trwy ei themâu pwerus a’i ddulliau adrodd stori dyfeisgar, gan arddangos talent eithriadol y perfformwyr sy’n graddio o PCYDDS eleni.
Cyfarwyddwyd y cynhyrchiad gan y gwneuthurwr theatr o Gymru, Dan Phillips, gyda’r Cyfarwyddwr Cerdd Iestyn Griffiths yn arwain y cast trwy sgôr atgofus ac emosiynol gyfoethog Duncan Sheik a Steven Sater. Mae’r myfyrwyr wedi mwynhau gweithio gyda Chyfarwyddwr Cerdd Cymreig o fri y mae ei waith yn rhychwantu theatr, teledu, ffilm, radio a chyngherddau byw. Mae ei gredydau helaeth yn cynnwys Bat Out of Hell, The Wizard of Ox, Grease: The immersive Movie Musical ac A Night With Janis Joplin.
Datblygodd y coreograffydd Eddie Ladd iaith symudiad unigryw ar gyfer y cynhyrchiad, gan greu coreograffi a oedd yn emosiynol atseiniol ac yn ddychmygus chwareus.
Meddai Arweinydd Dawns PCYDDS, Tori Johns:
“Roedd yn wych cael y coreograffydd Eddie Ladd yn gweithio gyda’n myfyrwyr, gan annog arloesi, cydweithio a chymryd risgiau creadigol trwy’r broses ymarfer. Mae ei hymagwedd unigryw at symudiad ac adrodd straeon wedi herio’r cast i feddwl y tu hwnt i goreograffi traddodiadol, gan ddatblygu gwaith a oedd yn ddychmygol, dilys ac wedi’i gysylltu â’r naratif, gan adlewyrchu’r diwydiant heddiw.”
I lawer o fyfyrwyr, rhoddodd y cynhyrchiad gyfleoedd gwerthfawr i weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol y diwydiant wrth greu ymagweddau creadigol.
Meddai’r fyfyrwraig Emily Couper:
“Roedd y broses yn hynod werth chweil, ac roeddwn i wrth fy modd yn cydweithio â phobl greadigol sy’n gweithio’n weithredol yn y diwydiant. Roedd perfformio ar lwyfan groes yn brofiad newydd i mi, ac roedd archwilio theatr gorfforol fel offeryn adrodd straeon yn hytrach na dibynnu ar ddawns yn unig wedi fy herio mewn ffyrdd cyffrous. Roedd wedi fy ngwthio i feddwl yn wahanol fel perfformiwr ac agorodd ymagwedd ffres a diddorol at greu cymeriad a naratif.”
Tynnodd y cynhyrchiad arddangos sylw at ymrwymiad PCYDDS at ddarparu hyfforddiant sy’n canolbwyntio ar y diwydiant a chysylltiadau ystyrlon proffesiynol i fyfyrwyr.
Meddai Rheolwr Rhaglen PCYDDS ar gyfer BA Perfformio a BA Theatr Gerddorol, Angharad Lee:
“Roedden ni’n hynod falch o’r cyfle i gydweithio â thîm creadigol craidd o ymarferwyr o Gymru sy’n gweithio’n broffesiynol ar lefel uchaf y diwydiant. Mae’r perthnasoedd hyn yn hanfodol i’n myfyrwyr, gan gynnig profiad byd go iawn, ysbrydoliaeth a mentora, gan greu cysylltiadau pwysig a all gefnogi eu newid o hyfforddiant i arfer proffesiynol.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476