Prentisiaid Peirianneg Ffrwydron yn Profi Hyfforddiant o'r Radd Flaenaf yn Alford Technologies
Bydd yr Athro Sue Williams, Rheolwr Rhaglen Celf Gain: Stiwdio, Safle a Chyd-destun yng Ngholeg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn arddangos ei gwaith fel rhan o ‘Portreadau a Phŵer’, arddangosfa fawr sy’n agor yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru o 1 Tachwedd 2025 tan 30 Mai 2026.
Mae ‘Portreadau a Phŵer’ yn ailfeddwl beth yw portread, a phwy sy’n cael ei weld. Mae’r arddangosfa yn archwilio sut y mae hunaniaeth, edrychiad a phŵer yn llifo drwy bortreadau, gan ddatgelu sut mae artistiaid wedi defnyddio’r weithred o sylliad i gwestiynu pwy sydd ag awdurdod a phwy sy’n cael ei esgeuluso. Mae’r arddangosfa yn gwahodd cynulleidfaoedd i gwestiynu rolau traddodiadol, herio confensiwn, ac ystyried sut y gall portreadau adlewyrchu, gwrthsefyll, ac ail-lunio’r straeon rydym yn eu hadrodd am hunaniaeth, rhywedd, hil, dosbarth a pherthyn drwy weithiau hanesyddol a chyfoes.
Meddai’r Athro Williams: “Mae’n wych cael y cyfle i arddangos fy ngwaith mewn arddangosfa mor bwysig. Mae pwysigrwydd cwestiynu rolau traddodiadol a herio confensiynau’n ysgogiad yn fy arfer, yn enwedig fel menyw sy’n byw mewn byd o lif lle mae’r cyfryngau cymdeithasol yn cymylu’r ffiniau rhwng celwyddau a gwirioneddau.
Mae’r Athro Williams sy’n un o brif artistiaid benywaidd Cymru, wedi byw a gweithio yng Nghymru ers dros ugain mlynedd. Wedi’i geni yng Nghernyw, mae wedi adeiladu enw da yn rhyngwladol drwy hanes arddangos cyfoethog sy’n rhychwantu pum cyfandir, gan gynnwys sioeau unigol a grŵp. Mae ei harfer, sydd wedi’i wreiddio yn awtoethnograffeg, yn defnyddio lluniadu a thestun i gyfathrebu cymhlethdodau perthnasoedd dynol o fewn diwylliant cyfoes. Boed yn weledol neu’n destunol, mae ei gwaith yn aml yn datgelu bregusrwydd trawiadol sy’n ysgogi adfyfyrio ar wleidyddiaeth rhywioldeb, agosatrwydd a phrofiadau emosiynol.
Mae gyrfa’r Athro Williams wedi’i nodi gan gydnabyddiaeth sylweddol. Derbyniodd y Fedal Aur am Gelf Gain yn yr Eisteddfod Genedlaethol a Gwobr Sylfaen Rooststein Hopkins am Beintio yn 2000, ac yn 2006, roedd ar restr fer Gwobr fawreddog Artes Mundi. Mae ei harchwiliad parhaus o gysyniadau newydd a dulliau amlddisgyblaethol yn cynnig ymateb diysgog i gymhlethdodau breuder dynol, gan ei gosod fel un o’r lleisiau mwyaf ysgogol mewn celf gyfoes heddiw.
Manylion yr Arddangosfa
Teitl: Portreadau a Phŵer
Lleoliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
Dyddiadau: 1 Tachwedd 2025 – 30 Mai 2026
Gwefan: www.llyfrgell.cymru
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071