Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn dathlu yn seremonïau graddio'r Gaeaf yn Neuadd y Brangwyn Abertawe
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (UWTSD) yn dathlu diwrnod arbennig o gyflawniad wrth i raddedigion ymgynnull yn Neuadd Brangwyn, Abertawe, ar gyfer seremonïau Graddio Gaeaf y Brifysgol.
Mae digwyddiadau heddiw (24 Tachwedd) yn nodi carreg filltir bwysig i’n myfyrwyr, gan gydnabod eu gwaith caled, eu hymroddiad a’u hymrwymiad drwy gydol eu hastudiaethau.
Tynnodd yr Athro Elwen Evans KC, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, sylw at arwyddocâd y diwrnod:
“Mae graddio yn rhoi cyfle inni ddod at ein gilydd fel cymuned academaidd i ddathlu llwyddiant ein graddedigion ac i rannu’r llwyddiant hwnnw gyda theulu a ffrindiau.
“Mae ein graddedigion wedi dangos gwydnwch, penderfyniad ac ysbryd gwych drwy gydol eich astudiaethau. Gobeithio eu bod yr un mor falch o’u cyflawniadau ag yr ydym ni ohonyn nhw.”
Mae dwy seremoni yn digwydd heddiw yn Neuadd Brangwyn:
Seremoni 1 – 2:00pm
Ffrydio byw: Seremonïau Graddio’r Gaeaf 2026 - Seremoni 1
Seremoni 2 – 6:30pm
Ffrydio byw: Seremonïau Graddio’r Gaeaf 2026 - Seremon1 2
I’r rhai sy’n methu ymuno yn bersonol, mae’r ddwy seremoni yn cael eu ffrydio’n fyw fel y gall teulu a ffrindiau rannu yn y dathliadau o unrhyw le yn y byd.
Mae’r Brifysgol yn estyn ei llongyfarchiadau cynhesaf i’r holl raddedigion ac yn dymuno pob llwyddiant iddynt yn y bennod nesaf o’u teithiau.
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467076