Profiadau Byd-eang yn Ysbrydoli Dyfodol Disglair i Un o Raddedigion Twristiaeth PCYDDS
Mae myfyrwraig sydd wedi symud i Gymru o Wlad Pwyl heb unrhyw wybodaeth o Saesneg yn dathlu graddio o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), gan drawsnewid ei hangerdd dros dwristiaeth i brofiad diwydiant gwerthfawr ac atgofion gydol oes.
Cafodd Wiktoria Kuciarska, 21 ei geni yng Ngwlad Pwyl a symudodd i Ferthyr Tydfil gyda’i theulu 10 mlynedd yn ôl. Ar ôl addasu i ddiwylliant newydd a dysgu Saesneg, dewisodd astudio Rheolaeth Hamdden a Thwristiaeth Rhyngwladol yn PCYDDS, penderfyniad a ysbrydolwyd gan sgwrs gyda Chyfarwyddwr y Rhaglen Jacqui Jones yn ystod ymweliad coleg.
“Cyn siarad â Jacqui, doeddwn i ddim yn meddwl mai prifysgol oedd y llwybr i mi,” meddai Wiktoria. “Roedd ei hanogaeth a’i brwdfrydedd am y cwrs wedi newid fy mhersbectif yn llwyr, ac roeddwn i’n gwybod ei fod yn rhywbeth yr oeddwn i eisiau ei ddilyn.”
Cofleidiodd Wiktoria gyfleoedd yn ystod ei hastudiaethau er mwyn ennill profiad ymarferol, gan wirfoddoli mewn digwyddiadau trwy bartneriaeth y brifysgol gydag Arena Cymdeithas Adeiladu Abertawe a chwblhau lleoliad haf yn Volcano Bay yn Florida, un o gyrchfannau gwyliau Universal Orlando.
Daeth ei chyflawniad mwyaf yn ystod ei blwyddyn olaf pan oedd hi a phum cyd-fyfyriwr wedi cynllunio a chyflwyno Cynhadledd Sefydliad Teithio a Thwristiaeth (ITT) yn Arena Cymdeithas Adeiladu Abertawe. Croesawodd y digwyddiad 670 o fynychwyr a darparodd gyfle i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol twristiaeth.
“Roedd trefnu digwyddiad ar raddfa mor fawr yn brofiad anhygoel,” meddai. “Roedd gweithio fel rhan o’r tîm wedi fy nysgu pwysigrwydd cyfathrebu, addasrwydd, ac aros yn bwyllog o dan bwysau. Roedd yn anhygoel hefyd gweithio ochr yn ochr â’m ffrindiau agos ar gyfer y digwyddiad achos ni fyddai wedi bod mor hawdd heb y gefnogaeth roedden ni’n gallu rhoi i’n gilydd.”
Dywedodd Wiktoria fod y cwrs wedi ei helpu i dyfu’n broffesiynol ac yn bersonol.
“Mae’r cyfleoedd ymarferol, cysylltiadau â diwydiant a phrofiadau ar leoliad wedi rhoi i mi’r hyder, yr annibyniaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa mewn twristiaeth. Roedd byw a gweithio yn yr Unol Daleithiau yn brofiad a newidiodd fy mywyd a’m gwthiodd y tu hwnt i’r ffiniau a oedd yn gyffyrddus i mi ac a’m helpodd i ddatblygu mewn cymaint o ffyrdd.”
Mae Wiktoria bellach yn edrych ymlaen at ddechrau ei gyrfa yn y diwydiant twristiaeth ac yn gobeithio parhau i adeiladu ei phrofiad ochr yn ochr â datblygu’n broffesiynol o fewn y sector.
“Byddwn yn argymell y cwrs hwn yn uchel i unrhyw un sydd â diddordeb mewn twristiaeth,” meddai. “Mae’n cynnig cymaint yn fwy na dysgu yn yr ystafell ddosbarth, gan roi profiad yn y byd go iawn, cysylltiadau gwerthfawr â diwydiant a’r hyder i lwyddo i fyfyrwyr.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071