Skip page header and navigation

Mae Yr Egin, canolfan greadigol a digidol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar gampws Caerfyrddin yn falch o adrodd am lwyddiant cynnar Gwd Thing: Sir Benfro! - menter newydd a gynlluniwyd i hyfforddi crewyr cynnwys ifanc tra’n dogfennu straeon, pobl a threftadaeth Sir Benfro. Mae’r prosiect, sy’n rhoi profiad ymarferol i bobl ifanc 18–22 oed o ymchwilio, ffilmio a chynhyrchu cynnwys digidol dilys, eisoes wedi cael effaith sylweddol o fewn ei ychydig fisoedd cyntaf.

image of Manon John standing in front of yr Egin's reception

Cafodd y prosiect £49,952 o gyllid gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Rhannu Llesiant y DU, a ddosbarthwyd gan Gyngor Sir Benfro. Mewn dim ond 6 mis, mae Gwd Thing: Sir Benfro! wedi ymgysylltu â 49 o fusnesau a grwpiau cymunedol, wedi gweithio ochr yn ochr â 10 o weithwyr creadigol llawrydd ac arbenigwyr cyfryngau cymdeithasol, ac wedi hyfforddi chwe chrëwr cynnwys ifanc i greu fideos am straeon a threftadaeth y sir.

Wrth galon y prosiect roedd ymrwymiad i roi profiad ymarferol, go iawn i bobl ifanc ymchwilio, ffilmio a denu cynulleidfaoedd drwy greu cynnwys digidol dilys. 

Cafodd Gwd Thing: Sir Benfro! ei gyflwyno trwy blatfform Instagram Gwd Thing:Sir Benfro! gan atynnu 134,714 o olygiadau cynnwys ers lansio ym mis Awst; gyda phob crëwr cynnwys yn datblygu eu steil eu hunain, wrth greu cysylltiadau ar gyfer gwaith pellach. 

Gwnaeth Manon John, o Grymych sydd newydd raddio o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant gymryd rhan yn y prosiect fel crëwr cynnwys, a dywedodd hi: 

“Mae bod yn rhan o Gwd Thing: Sir Benfro wedi newid fy ffordd o weld fy hun. Ar ôl astudio BA Perfformio yn The Wales Academy of Voice and Dramatic Arts, roeddwn yn sicr mai o flaen y camera fyddwn i. Ond ers y prosiect, rwyf bellach yn sylweddoli fy mod yr un mor angerddol am gynhyrchu a gweithio y tu ôl i’r lens.

“Wnes i fwynhau darganfod straeon difyr ledled Sir Benfro, fel yr ymdrechion codi arian cymunedol ar gyfer Eisteddfod y Garreg Las 2026, a’r gwaith sy’n digwydd yn y grŵp amrywioldeb Llwy Gariad. Mae cymaint o leisiau a straeon yn ein cymunedau i ddathlu, ac rwy’n teimlo anrhydedd i helpu rhoi platfform cyhoeddus iddynt. 

“Wrth i’r prosiect ddod i ben, rwyf bellach mor falch o fod wedi sicrhau rôl yn Yr Egin, lle gallaf barhau i ddatblygu fy sgiliau a meithrin cysylltiadau gyda’r nifer o fusnesau creadigol sy’n gweithio yn yr adeilad. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb y cyfleoedd a gynigiwyd gan Gwd Thing: Sir Benfro.”

Wrth siarad am wella’r sector creadigol a busnesau Gorllewin Cymru, dywedodd Carys Ifan, Cyfarwyddwr Yr Egin:

“Nid rhannu straeon oedd diben Gwd Thing: Sir Benfro yn unig, roedd yn ymwneud â sicrhau dyfodol creadigol i bobl ifanc y rhanbarth. 

“Mae prosiectau fel hyn yn hanfodol i ddiogelu dyfodol y sector creadigol yng Ngorllewin Cymru. Mae’r Egin yn anelu at greu manteision ieithyddol, diwylliannol, economaidd a chymdeithasol i’n rhanbarth, ac mae’r prosiect hwn yn gwneud yr union hyn. Trwy roi hyfforddiant ymarferol i bobl ifanc gyda chyfleoedd go iawn, rydym yn helpu i adeiladu’r genhedlaeth nesaf o greuwyr Cymraeg. Ar yr un pryd, mae’r straeon a rannwyd trwy’r prosiect, wedi helpu i newid persbectif am y sir a chodi ymwybyddiaeth o’r nifer o fusnesau bach, grwpiau cymunedol ac artistiaid talentog sy’n gwneud Sir Benfro yn lle mor arbennig i fyw, gweithio a mwynhau.”

Mae effaith y prosiect wedi ymestyn y tu hwnt i gyfryngau cymdeithasol, gyda Molara Awen, sefydlydd grŵp diogel wythnosol ar gyfer pobl ifanc ddu a brown yng nghefn gwlad Sir Benfro, Llwy Gariad, wedi gweld effaith ddofn trwy ei chynnwys yn y prosiect. Dywedodd Molara:

“Un o agweddau mwyaf pwerus Gwd Thing: Sir Benfro yw sut y gwnaeth codi lleisiau sydd wedi’u tangynrychioli yn draddodiadol.

“Mae Gwd Thing wedi helpu i godi proffil Llwy Gariad mewn ffordd anferth. I’n pobl ifanc, mae’r lle hwn yn fwy na phwynt cyfarfod, mae’n lle i gysylltu, archwilio eu hunaniaethau, ac i deimlo eu bod wedi’u gweld a’u clywed. Mae cael ein grŵp yn rhan o’r prosiect wedi bod yn wych i godi ymwybyddiaeth o’n haelodau a’r heriau y gallant eu hwynebu weithiau wrth fyw yng Nghymru wledig”. 

O ganlyniad i Gwd Thing: Sir Benfro, wnaeth redeg o Fehefin i Dachwedd 2025, mae’r Egin yn disgwyl i’w effeithiau ymledu y tu hwnt i’r cyfnod. Bydd yr hyfforddiant, y cynnwys, a’r cysylltiadau a wnaed yn parhau fel rhan o dreftadaeth hirdymor; gan feithrin talent, cynyddu capasiti digidol, ac atgyfnerthu isadeiledd diwylliannol Gorllewin Cymru.


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon