Skip page header and navigation

Mae prosiect podlediadau newydd, creadigol a chyffrous wedi’i lansio gan Yr Egin, gan gynnig cyfle unigryw i oedolion dros 18 oed ddysgu sut i gynllunio, recordio a golygu podlediadau, yn ogystal â chreu a chyflwyno sioe radio fyw – oll o fewn eu cymunedau lleol.

group of people sitting inside studio

Nod y prosiect hwn sy’n rhan o waith tîm Ehangu Mynediad y Brifysgol yw tynnu sylw at y cyfleoedd creadigol ac ymarferol sydd ar gael drwy Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, gyda tîm Yr Egin yn pontio’r bwlch rhwng y brifysgol a’r gymuned leol, drwy gyfrwng y Gymraeg.  Mae’n gyfle i ddatblygu sgiliau newydd, ac i gefnogi oedolion i ystyried camau pellach mewn addysg a dysgu. Mae’r cynllun hefyd yn adeiladu ar y berthynas gref sydd eisoes yn bodoli rhwng y Brifysgol a phobl Caerfyrddin a’r ardal gyfagos.

Meddai Llinos Jones, Rheolwr Ymgysylltu’r Egin:

“Mae’r Brifysgol yn rhan annatod o gymuned Caerfyrddin, ac rydym yn falch iawn o allu cynnig profiadau o’r fath sy’n cefnogi datblygiad sgiliau ymarferol, yn annog creadigrwydd, ac yn agor drysau newydd i bobl leol weld beth all addysg uwch ei gynnig iddynt.”

Dros gyfnod o bedair wythnos, bydd 15 aelod yn ymweld ag Yr Egin i gymryd rhan mewn sesiynau hwyliog, ymarferol a chreadigol. Yn ystod y sesiynau hyn, byddant yn datblygu sgiliau cynhyrchu sain, adrodd straeon a chyflwyno cynnwys radio a phodlediadau. Bydd y profiad dysgu’n cael ei siapio gan ddiddordebau’r cyfranogwyr eu hunain, gan sicrhau bod y cynnwys yn berthnasol, yn ysbrydoledig ac yn ymgysylltiol.

Mae’r sesiynau’n cael eu harwain gan Marc Griffiths, Perchennog Stiwdio Box ac un o denantiaid Yr Egin. Dywedodd:

“Drwy arwain sesiynau ar greu, cyflwyno a golygu podlediadau a rhaglenni radio o dan gynllun ehangu mynediad y Brifysgol, rwy’n gweld yn uniongyrchol pa mor drawsnewidiol yw rhoi llais i bobl o’n cymunedau. Mae’r cyfleoedd hyn nid yn unig yn datblygu sgiliau creadigol a hyder, ond hefyd yn dangos i bobl fod eu straeon, eu profiadau a’u safbwyntiau yn werthfawr ac yn perthyn ym myd addysg uwch. Mae’r gwaith hwn yn gam pwysig tuag at greu mynediad tecach, mwy cynhwysol, ac at gryfhau’r berthynas rhwng y Brifysgol a’r gymuned ehangach.”

Marc Griffiths speaking with group members

Gan fod nifer o’r mynychwyr yn ymddiddori mewn ralïo, penderfynwyd defnyddio ralïo fel thema ganolog ar gyfer y prosiect. Ar hyn o bryd, nid oes podlediad Cymraeg sy’n canolbwyntio ar ralïo yn bodoli, ac felly mae’r cynllun hwn yn llenwi bwlch amlwg, a’r galw am gyfrannu a datblygu cynnwys Cymraeg newydd a pherthnasol.

Un sy’n mynychu’r sesiynau yw Ceris Mair. Meddai:

“Rwy’n gyffrous i ddysgu sut gall podlediad dyfu o syniad syml i ddarllediad gorffenedig sy’n gwasanethu cymuned.

“Mae gweld y broses hon yn digwydd o fewn amgylchedd Gymraeg dan arweiniad Marc, y gymuned a’r Drindod Dewi Sant, yn rhywbeth rwy’n edrych ymlaen ato’n fawr”

Un arall sydd wedi buddio o’r profiad yw Euros Evans. Dywedodd:

“Mae’r sesiynau hyd yn hyn wedi bod yn ddiddorol dros ben. Ma’r sesiynau yn eglur iawn yn nhermau cyfarwyddo gyda technoleg, ac yn pwysleisio pwy mor bwysig ydy sain, gan neud defnydd o’r wahanol mathau o feicroffonau.

“Dwi’n disgwyl mlan i’r sesiynau sydd i ddod gan bod na gyfle i ddysgu golygu ein cyfweliadau er mwyn creu sianel youtube – a fi hefyd yn edrych mlan at gyfweld gyrrwyr rali lleol, a gobeitho cael cyfle i neud cyfweliadau i’r podlediad gyda ein arwyr yn yr hen Motoring News championship.”

Yn ogystal â meithrin sgiliau creadigol a thechnegol, mae’r prosiect sydd wedi’i hariannu gan MEDR, a’i gefnogi gan gynllun Ehangu Mynediad y Brifysgol hefyd yn cynnig cyfle i’r cyfranogwyr ddod i adnabod y Brifysgol. Byddant yn cael cyflwyniad i’r campws ac yn dysgu mwy am y cyrsiau sydd ar gael, gan gynnwys cyrsiau rhan-amser, graddau BA ac MA.


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon