Ras Gyfnewid y Fflam Tîm Cymru i Ymweld â Champws Glannau Abertawe PCYDDS
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn croesawu Ras Gyfnewid y Fflam Tîm Cymru i’w Champws SA1 ar Lannau Abertawe heddiw (Medi 23) fel rhan o ddathliad cenedlaethol sy’n cydnabod y 124 o bobl ifanc a ddewiswyd i gynrychioli Cymru yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK 2026.
Dan arweiniad Llywodraeth Cymru drwy’r rhaglen Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, mae’r ras gyfnewid yn teithio ledled y wlad i ddathlu dysgwyr a phrentisiaid sydd wedi ennill lleoedd yng nghystadleuaeth fwyaf y DU am sgiliau galwedigaethol a thechnegol.
PCYDDS fydd un o brif arosfannau y ras gyfnewid, a bydd yn cynnal rhaglen o weithgareddau a chystadlaethau rhwng 18 a 20 Tachwedd, gan ddarparu cyfleoedd i ddysgwyr arddangos eu doniau wrth annog eraill i archwilio addysg alwedigaethol, hyfforddiant technegol a phrentisiaethau.
Yn Bartner Trefnu swyddogol WorldSkills UK ar gyfer Melino CNC a Gweithgynhyrchu Ychwanegion, mae’r ymweliad yn adlewyrchu ymrwymiad PCYDDS ers tro i ddatblygu sgiliau a chefnogi cyfranogiad yn y mudiad WorldSkills. Mae’r Brifysgol yn cynnal cystadlaethau rhanbarthol a chenedlaethol yn rheolaidd ar Gampws Abertawe ac yn cefnogi dysgwyr i symud ymlaen i gystadleuaeth ar y lefelau uchaf.
Bydd y Rowndiau Terfynol Cenedlaethol eleni yn cynnwys prentisiaid o TT Electronics, a sicrhaodd eu lleoedd ar ôl llwyddiant yn y camau rhagbrofol ac sy’n cael eu cefnogi gan y Brifysgol. Mae eu cyflawniad yn tynnu sylw at gryfder partneriaethau PCYDDS â chyflogwyr wrth ddatblygu talent sy’n barod i’r diwydiant a chreu llwybrau at gydnabyddiaeth genedlaethol.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae cystadlaethau a gynhelir gan PCYDDS wedi darparu cyfleoedd i fyfyrwyr a phrentisiaid gan gyflogwyr gan gynnwys Safran Seats ac Aston Martin ddatblygu ac arddangos sgiliau technegol uwch.
Mae cystadlaethau sgiliau yn chwarae rhan bwysig wrth gysylltu addysg a diwydiant, gan alluogi cyfranogwyr i’w meincnodi eu hunain yn ôl safonau cenedlaethol, ennill profiad gwerthfawr a magu hyder mewn amgylcheddau proffesiynol. Trwy ei phartneriaethau â chyflogwyr, mae PCYDDS yn parhau i helpu dysgwyr i symud ymlaen o gystadlaethau rhanbarthol i Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK a thu hwnt.
Bydd Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK yn dod â dysgwyr a phrentisiaid mwyaf talentog y DU ynghyd i gystadlu ar draws disgyblaethau gan gynnwys peirianneg, technolegau digidol, gweithgynhyrchu uwch, lletygarwch, adeiladu a’r diwydiannau creadigol.
Meddai Lee Pratt, Rheolwr yr Academi Sgiliau Gweithgynhyrchu Uwch a Llysgennad Sgiliau yn PCYDDS: “Rydyn ni’n yn falch o groesawu Ras Gyfnewid y Fflam Tîm Cymru i’n Campws yn Abertawe ac i ddathlu ymroddiad, uchelgais a chyflawniadau’r cystadleuwyr a fydd yn cynrychioli Cymru yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK.
“Yn PCYDDS, rydyn ni wedi gweld yn uniongyrchol yr effaith drawsnewidiol y gall cystadlaethau sgiliau ei chael. Maen nhw’n helpu cyfranogwyr i ddatblygu arbenigedd technegol, meithrin hyder, cryfhau cyflogadwyedd, ac ennill profiad amhrisiadwy trwy weithio i safonau sy’n arwain y diwydiant.
“Mae llawer o’r dysgwyr a’r prentisiaid rydyn ni’n eu cefnogi, gan gynnwys y rhai o’n partneriaid yn y diwydiant, wedi defnyddio cystadlaethau yn sbardun i lwyddiant cenedlaethol. Mae eu taith i lwyfan WorldSkills UK yn dangos beth y gellir ei gyflawni pan fydd addysg a diwydiant yn gweithio gyda’i gilydd i feithrin talent.
“Mae cynnal y ras gyfnewid y fflam, ochr yn ochr ag ystod o weithgareddau ar y campws, yn gyfle gwych i ddathlu rhagoriaeth, ysbrydoli cystadleuwyr y dyfodol ac arddangos y dalent sy’n datblygu ledled Abertawe, Cymru a’r DU ehangach.
“Edrychwn ymlaen at groesawu dysgwyr, staff, cyflogwyr ac aelodau’r gymuned i ymuno â ni i ddathlu Tîm Cymru wrth i ni greu cyffro tuag at y Rowndiau Terfynol Cenedlaethol eleni.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071