Skip page header and navigation

Mae’r radd  MSc Trawsnewid Digidol ar gyfer y Proffesiynau Iechyd a Gofal ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cael ei hail-achredu gan Ffederasiwn Gwybodeg Feddygol Ewrop (EFMI) am gyfnod arall o bum mlynedd, rhwng 2026 a 2031.

Philip Scott from UWTSD on stage at the conference in Genoa being presented with a certificate

Gwnaed y cyhoeddiad yng  nghynhadledd Gwybodeg Feddygol Ewrop (MIE) 2026 yn Genoa, yr Eidal, ar 25 Mai 2026, gan gydnabod rhagoriaeth barhaus y rhaglen mewn addysg iechyd digidol a datblygu’r gweithlu.

Wedi’i sefydlu yn 2021, cafodd yr MSc ei hachredu gyntaf gan EFMI yn 2023 gan ddefnyddio’r safonau addysgol a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas Gwybodeg Feddygol Ryngwladol (IMIA). Yn dilyn adolygiad cynhwysfawr a chraffu pellach gan banel rhyngwladol o arbenigwyr, mae’r rhaglen bellach wedi llwyddo i sicrhau ail-achrediad am ail dymor.

Yr MSc Trawsnewid Digidol ar gyfer y Proffesiynau Iechyd a Gofal yw’r unig gwrs iechyd digidol o hyd yn y Deyrnas Unedig i gael y lefel hon o achrediad rhyngwladol. Mae’r rhaglen hefyd yn cael ei dilysu gan Ffederasiwn y DU ar gyfer Gwybodeg Proffesiynol (FEDIP), gan gadarnhau ei bod yn bodloni’r cymwyseddau a ddisgwylir gan Ymarferydd Uwch mewn gwybodeg iechyd a gofal.

Wedi’i chynllunio ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, mae’r rhaglen dysgu o bell ran-amser yn rhoi i fyfyrwyr y wybodaeth, y dulliau a’r dystiolaeth sydd eu hangen i arwain mentrau trawsnewid digidol llwyddiannus ar draws lleoliadau iechyd a gofal. Gan dynnu ar brofiad ymarferol yn y GIG a’r diwydiant, mae’r cwrs yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu arbenigedd mewn strategaeth ddigidol, trawsnewid gwasanaethau, gwybodeg glinigol, dadansoddeg data, gwyddor gwerthuso a gweithredu.

Meddai’r Athro Philip Scott, Cyfarwyddwr Rhaglen yr MSc Trawsnewid Digidol ar gyfer y Proffesiynau Iechyd a Gofal:

“Rydym wrth ein bodd bod Ffederasiwn Gwybodeg Feddygol Ewrop wedi adnewyddu ei achrediad o’n rhaglen MSc yn dilyn adolygiad rhyngwladol trylwyr. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu ansawdd, perthnasedd ac effaith y cwrs, yn ogystal ag ymroddiad ein tîm academaidd, ein myfyrwyr a’n graddedigion. Mae trawsnewid digidol yn hanfodol i ddyfodol iechyd a gofal cymdeithasol, ac rydym yn falch o gynnig unig raglen meistr y DU mewn iechyd digidol sy’n dal yr achrediad hwn a gydnabyddir yn rhyngwladol.Mae ein graddedigion yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol trwy brosiectau arloesi digidol ar draws y GIG a gofal cymdeithasol, ac mae’r ail-achrediad hwn yn rhoi sicrwydd pellach o ragoriaeth a pherthnasedd parhaus y rhaglen.”

Mae myfyrwyr, graddedigion a chyflogwyr yn canmol y rhaglen yn gyson am ei chymhwysiad ymarferol a’i pherthnasedd uniongyrchol i heriau iechyd a gofal digidol cyfoes. Mae’r cwricwlwm wedi’i ddatblygu yn unol â’r canllawiau rhyngwladol diweddaraf ac mae’n parhau i esblygu i ddiwallu anghenion tirwedd gofal iechyd sy’n newid yn gyflym.

I gael rhagor o wybodaeth am yr MSc Trawsnewid Digidol ar gyfer y Proffesiynau Iechyd a Gofal, ewch i wefan PCYDDS.


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon