Rheolwr Bluestone yn rhoi Hwb i Sgiliau Arwain drwy Astudiaethau PCYDDS
Mae rheolwr lletygarwch o Sir Benfro yn dathlu dilyniant gyrfa ar ôl cwblhau’r rhaglen CIPD Lefel 3 ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).
Dewisodd Jared Watts, wyth ar hugain oed, o Arberth, ymgymryd â’r cymhwyster fel rhan o’i ddatblygiad proffesiynol wrth weithio ym Man Gwyliau Parc Cenedlaethol Bluestone.
Pan oedd yn astudio, roedd Jared yn rheoli tîm mawr ac roedd yn awyddus i gryfhau ei wybodaeth a’i hyder o ran rheoli pobl. Wedi’i annog gan ei gyflogwr fel rhan o’i gynllun datblygu personol, penderfynodd ddychwelyd i addysg er gwaethaf rhai nerfau cychwynnol ynglŷn ag astudio eto.
Meddai Jared: “Daeth y rhaglen CIPD Lefel 3 ar yr adeg berffaith yn fy ngyrfa. Er fy mod yn bryderus ar y cychwyn am ddychwelyd i astudio, roedd yn benderfyniad gwych yn y pendraw ac fe ddysgais lwythi.
“Un o’r uchafbwyntiau oedd y sesiynau yn yr ystafell ddosbarth a thrafodaethau agored. Roedd rhannu profiadau, gwybodaeth a barn gyda dysgwyr eraill yn hynod werthfawr ac yn helpu i ddod â’r pwnc yn fyw.”
Roedd Jared yn credu bod y cwrs yn arbennig o fuddiol wrth ddatblygu ei ddealltwriaeth o reoli newid, gan ganiatáu iddo gymhwyso gwybodaeth newydd yn uniongyrchol i’w rôl arferol.
“Roedd llawer o’r hyn a ddysgais yn berthnasol iawn i’m hamgylchiadau presennol yn y gwaith, yn arbennig mewn perthynas â rheoli newid. Roeddwn yn gallu rhoi’r hyn a ddysgais ar waith bron yn syth,” meddai.
Ers cwblhau’r rhaglen, mae Jared wedi cael dyrchafiad i rôl Rheolwr Profiad Gwesteion yn Bluestone, gan gymryd cyfrifoldeb am dîm sylweddol mwy ac ystod ehangach o gyfrifoldebau gweithredol.
Gan adfyfyrio ar ei astudiaethau, mae Jared yn credu bod y cymhwyster wedi ei helpu i dyfu’n broffesiynol ac yn bersonol, gan roi iddo well hyder fel arweinydd a chefnogi ei ddatblygiad gyrfa parhaus.
Mae’r rhaglen CIPD Lefel 3 yn PCYDDS wedi’i gynllunio i roi i weithwyr proffesiynol y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi rheoli pobl, datblygu gweithwyr, a llwyddiant cyfundrefnol ar draws ystod o sectorau.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071