Skip page header and navigation

Mae Dr Gareth Collett, CBE, uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), wedi derbyn Cymrodoriaeth Er Anrhydedd gan Sefydliad Peirianwyr Ffrwydron (IExpE). Mae’n cydnabod ei gyfraniad eithriadol i’r sector ffrwydron, ei ymrwymiad diwyro i’w werthoedd craidd, a’i arweinyddiaeth wrth hyrwyddo prentisiaethau, gwasanaeth dyngarol ac ymchwil iechyd galwedigaethol. 

Two men shaking hands and one is holding a framed certificate.

Cyflwynwyd y wobr gan Lywydd IExpE, Martin Sime mewn seremoni a gynhaliwyd ar gampws Glannau Abertawe’r Brifysgol, gan anrhydeddu gyrfa eithriadol a gwasanaeth parhaus Dr Collet i’r sector. 

Llwyddodd Dr Collet sy’n gyn-Frigadydd y Fyddin Brydeinig a chyn Pennaeth Gwaredu Bomiau’r DU, i wneud mwy na 75,000 o ddyfeisiau ffrwydrol yn ddiogel yn ystod gyrfa filwrol 30 mlynedd nodedig.  Gwasanaethodd yng Ngogledd Iwerddon, Y Balcanau, Iraq, Afghanistan a theatrau byd-eang eraill, lle arweiniodd weithrediadau Gwaredu Ordnans Ffrwydrol (EOD) a achubodd fywydau o dan yr amodau mwyaf heriol. 

Meddai Dr Collett: Mae’r wobr hon ar gyfer pob un o’r unigolion sydd wedi gweithio gyda fi dros y degawdau diwethaf i amddiffyn ein cenedl, lleihau effaith trais ffrwydrol a grymuso’r dioddefwyr.”

Ychwanegodd Martyn Sime:  “Mae bob amser yn fraint ac yn anrhydedd cyflwyno gwobrau i aelodau, ond i mi, y Gymrodoriaeth Er Anrhydedd yw’r bwysicaf efallai.  Mae’n gydnabyddiaeth cyfraniad diddiwedd a pharhaus person i’r sector oddi wrth y sector.  Heb amheuaeth, mae Gareth yn deilwng iawn o’r wobr.  Mae ei waith ar draws y sector a’i uniondeb bron yn ddigyffelyb, ac mae ei gyfraniad at ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr ffrwydron yn paratoi nhw a ni i lwyddo wrth i ni geisio adfywio’r diwydiant.”

Mae cyfraniadau Dr Collet yn ymestyn ymhell y tu hwnt i faes y gad.  Mae wedi chwarae rôl hanfodol wrth: 

  • Glirio ordnans heb ei ffrwydro mewn parthau ôl-wrthdaro, gan amddiffyn poblogaethau sifil. 
  • Lliniaru’r risg o ffrwydradau ar danceri olew wedi’u difrodi mewn rhanbarthau bygythiad uchel, fel Gwlff Aden. 
  • Cefnogi diwydiant y Du wrth ddatblygu galluoedd technegol uwch sy’n hanfodol i ddiogelwch cenedlaethol. 
  • Hyrwyddo safonau proffesiynol, prentisiaethau, ac arweinyddiaeth foesegol ar draws y sector peirianneg ffrwydron. 

Yn y blynyddoedd diweddar, mae Dr Collett wedi canolbwyntio ar ymdrechion dyngarol a gwyddonol er mwyn deall yn well effeithiau iechyd hirdymor o ganlyniad i amlygiad i ffrwydron.  Ar hyn o bryd, mae’n Gyfarwyddwr Gweithredol yr Academi Galluoedd Arbenigol Sofran a Dyngarol (SHSCA) ac yn uwch ddarlithydd yn Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru (WISA) PCYDDS. Mae ei ymchwil wedi tynnu sylw rhyngwladol at y cysylltiad posibl rhwng amlygiad at ordnans ffrwydrol a chanserau wroleg ymhlith gweithwyr proffesiynol EOD. 

Yn dilyn ei ddiagnosis ei hun o ganser y bledren yn 2023, arweiniodd Dr Collett, ymchwil arloesol a gyhoeddwyd yn y Cyfnodolyn Meddygol Rhyngwladol BJU ac a gyflwynwyd yng Nghyngres Flynyddol Cymdeithas Wroleg Ewrop ym Madrid.  Mae’r astudiaeth yn awgrymu y gallai cyn-swyddogion gwaredu bomiau Fyddin Brydain o dan 70 oed fod â risg sylweddol uwch o ganser y bledren o’i gymharu â’r boblogaeth gyffredinol. 

Gan weithio ar y cyd ag ymchwilwyr o Brifysgol Birmingham, Coleg y Brenin Llundain, Prifysgol Glasgow ac Ymddiriedolaeth GIG De Cymru, mae’r ymchwil wedi ysgogi galwadau am ymchwiliad pellach ar raddfa fawr, gwell raglenni sgrinio, a gwell ymwybyddiaeth ymhlith gweithwyr proffesiynol gofal iechyd sy’n trin cyn-filwyr.

Ochr yn ochr â’i ymchwil a’i gyfrifoldebau arwain gweithredol, mae Dr Collett yn parhau i lywio’r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr drwy ei addysgu yn PCYDDS.  Mae ei feysydd arbenigedd yn cynnwys amgylcheddau risg uchel, ordnans ffrwydrol a ffactorau dynol.  Mae’n cyflwyno modylau mewn Egwyddorion Ordnans, Arfau a Ffrwydron (OME); Egwyddorion Gwyddonol OME; Awduro Technegol; Diogelwch Niwclear; a Ffactorau Dynol mewn Amgylcheddau Perygl Uchel. 

Dywedodd Dr Mark Cocks, Deon Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru: Mae Dr Collet yn llawn haeddu’r Gymrodoriaeth Er Anrhydedd hon.  Mae ei yrfa yn enghraifft o’r gwerthoedd rydym yn ceisio eu meithrin yn PCYDDS, proffesiynoldeb, uniondeb, gwasanaeth, ac ymrwymiad dwfn i amddiffyn eraill.  Yr hyn sy’n gwneud cyfraniad Gareth yn arbennig o bwerus yw’r ffordd mae wedi trosi profiad gweithredol eithriadol i ymchwil ac addysgu effeithiol.  

“Mae ei waith, nid yn unig, yn gwella dealltwriaeth yn y sector ffrwydron, ond mae hefyd yn gwella iechyd a llesiant hirdymor y rheiny sydd wedi gwasanaethu ynddo.  Rydym yn hynod falch i’w gael yn gydweithiwr.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon