Skip page header and navigation

Yn ddiweddar, cyflwynodd Alison Rees Edwards, darlithydd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), sesiwn hyfforddiant datblygiad proffesiynol ar “Y Paradeim Niwrowahaniaeth” i staff Cam wrth Gam, cynllun hyfforddiant cenedlaethol y Mudiad Meithrin i gefnogi datblygiad gweithlu gofal plant cyfrwng Cymraeg cymwys.

Lecturer, Alison Rees-Edwards

Mynychwyd y sesiwn gan aseswyr Lefel 3 a Lefel 5, ochr yn ochr â chydweithwyr sy’n rhan o ddarparu’r cymhwyster GChDDP: Ymarfer a Theori mewn ysgolion uwchradd a lleoliadau blynyddoedd cynnar. Roedd yn archwilio dealltwriaeth gyfoes o niwroamrywiaeth ac ystyried sut y gall ymarferwyr greu amgylcheddau dysgu mwy cynhwysol ar gyfer dysgwyr niwrowahanol.

Dechreuodd yr hyfforddiant drwy gyflwyno terminoleg allweddol sy’n gysylltiedig â niwroamrywiaeth, gan gynnwys niwronodweddiadol, niwrowahanol, niwroamrywiol a gweithredu niwrowybyddol. Ystyriodd y cyfranogion bwysigrwydd iaith gan adfyfyrio’n feirniadol ar sut gall gwahanol derminoleg ddylanwadu ar ganfyddiadau, cynhwysiant ac ymdeimlad dysgwyr o hunaniaeth.

Archwiliwyd ystod o gyflyrau a phrofiadau niwrowahanol, gan gynnwys ADHD, Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD), dyslecsia, dyscalcwlia, anhwylder datblygu iaith, dyspracsia, gwahaniaethau prosesu synhwyraidd a syndrom Tourette. Pwysleisiodd y sesiwn yr amrywiaeth sylweddol sydd rhwng  ac o fewn grwpiau niwrowahanol, gan amlygu na fydd gan ddau ddysgwr yn union yr un cryfderau, heriau neu anghenion o ran cymorth.

Un o brif ffocysau’r sesiwn oedd y berthynas rhwng y model meddygol, y model cymdeithasol a’r Paradeim Niwroamrywiaeth. Trwy drafod a gweithgareddau astudiaeth achos, ystyriodd y cyfranogion sut y gellir cyferbynnu ymagweddau sy’n canolbwyntio ar ddiffyg â safbwyntiau sy’n seiliedig ar gryfderau sy’n adnabod ac yn ymdrin â rhwystrau o fewn amgylcheddau dysgu yn hytrach na lleoli anawsterau o fewn unigolion yn unig.

Trwy weithgareddau rhyngweithiol bu’r cyfranogion yn archwilio effaith bosibl rhwystrau amgylcheddol, gofynion prosesu ac elfennau synhwyraidd sy’n tynnu sylw ar ddysgu a pherfformiad. Anogodd yr ymarferion ymarferol hyn adfyfyrio ar sut mae ffactorau fel cyfarwyddiadau’n newid, gwybodaeth ormodol, gorlwytho synhwyraidd ac amser prosesu annigonol greu heriau ar gyfer dysgwyr niwrowahanol.

Cynhyrchodd y gweithgareddau drafodaeth werthfawr am orbryder, hyder, llesiant a chyfranogiad mewn lleoliadau addysgol. Hefyd, archwiliodd y sesiwn ymchwil cyfredol yn ymwneud â niwroamrywiaeth ar draws ysgolion, addysg uwch a gweithleoedd, gan dalu sylw arbennig i effaith emosiynol profiadau addysgol.Ystyriodd y cyfranogion sut y gall rhwystredigaeth, gorbryder, ynysu, gorlethu a diffyg hyder godi pan nad yw amgylcheddau dysgu’n bodloni anghenion unigol yn ddigonol.

Canolbwyntiodd adran olaf yr hyfforddiant ar strategaethau ymarferol ar gyfer cefnogi dysgwyr niwrowahanol. Archwiliodd y cyfranogion wahanol ymagweddau gan gynnwys cyfathrebu clir a chyson, amser prosesu ychwanegol, cymhorthion gweledol, lleihau elfennau synhwyraidd sy’n tynnu sylw, ymagweddau hyblyg at gymryd rhan ac asesu, seibiannau symud, adnoddau dysgu hygyrch ac addasiadau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Daeth y sesiwn i ben gyda chyfle i gyfranogion adfyfyrio ar eu harfer cyfredol ac ystyried sut mae addysgu, asesu ac amgylcheddau dysgu yn gallu cael eu haddasu i gefnogi dysgwyr niwrowahanol yn well. Atgyfnerthodd yr hyfforddiant bwysigrwydd adnabod cryfderau unigol, lleihau rhwystrau at gyfranogiad a mewnosod arfer cynhwysol ar draws cyd-destunau addysgol a hyfforddi.

Wrth adfyfyrio ar y sesiwn, dywedodd Alison:

 “Roedd cael adborth mor gadarnhaol ar sesiwn hyfforddi sydd wedi’i gwreiddio yn fy niddordeb personol a phroffesiynol mewn niwroamrywiaeth wedi rhoi boddhad mawr i mi. Roedd yn hyfryd gweld lefel yr ymgysylltu yn ystod y diwrnod, gyda chyfranogion yn cyfrannu’n feddylgar at drafodaethau a gweithgareddau.

 “Roedd yn arbennig o galonogol clywed nifer o gyfranogion yn lleisio diddordeb mewn datblygu eu gwybodaeth ymhellach ac efallai dilyn astudiaeth yn y dyfodol ym meysydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a niwroamrywiaeth.

 “Roedd gweld ymarferwyr yn adfyfyrio’n feirniadol ar eu harfer eu hunain ac ystyried sut y gallant gefnogi dysgwyr niwrowahanol yn well yn ganlyniad cadarnhaol iawn i’r hyfforddiant.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon