Sioeau Haf PCYDDS yn Dathlu Egin Dalent Greadigol ac Enillwyr Gwobrau
Mae Sioeau Haf blynyddol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) unwaith eto wedi arddangos creadigrwydd, arloesedd a thalent eithriadol myfyrwyr ledled Cymru a thu hwnt, gydag arddangosfeydd a pherfformiadau yn cael eu cynnal ledled Abertawe, Caerfyrddin, Caerdydd, Llundain ac mewn lleoliadau cenedlaethol o fri.
Cynhaliwyd yr arddangosfeydd trwy gydol mis Mai gan barhau i mewn i’r haf. Tynnodd yr arddangosfeydd sylw at brosiectau terfynol gan fyfyrwyr ar draws y Celfyddydau Cain, Dylunio Graffig, Patrymau Arwyneb a Thecstilau, Ffotograffiaeth, Darlunio, Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth, Actio, Gwneud Ffilmiau Antur a rhagor. Cynhaliwyd rhan fawr o’r dathliadau yn adeiladau Dinefwr ac Alex yn Abertawe, ochr yn ochr â pherfformiadau yn Yr Egin yng Nghaerfyrddin ac arddangosfeydd i ddilyn yn Llundain.
Un o uchafbwyntiau Sioeau Haf Coleg Celf Abertawe oedd y seremoni wobrwyo flynyddol a gynhaliwyd yn Ninefwr, gan gydnabod cyflawniad rhagorol myfyrwyr ar draws ystod o ddisgyblaethau.
Ymhlith enillwyr y gwobrau mawr roedd Aimiee Brown a Branwen Jones, a dderbyniodd Wobr Cerfluniau Elysium, a dwy wobr gwerth £500 yn cael eu cyflwyno i gydnabod rhagoriaeth mewn ymarfer cerfluniol.
Dan wobr John James Hayden dyfarnwyd gwobrau o £1,000 i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig, a’r myfyriwr IR Tilly Lewis a’r myfyriwr OR Andrew T Gardiner yn cael eu cydnabod am eu gwaith eithriadol.
Derbyniodd Samantha McGrath, myfyrwraig Patrymau Arwyneb, Wobr Elizabeth Jeffries, a dyfarnwyd Gwobr Josef Herman Carolyn Davies i Cel Hopkins, wedi’i chyflwyno gan Sefydliad Josef Herman.
Derbyniodd y myfyriwr darlunio Morgan Stevens Wobr Darlunio Rhys Bevan Jones, a chafodd Seren Trodden ei gydnabod ddwywaith yn ystod y noson, gan dderbyn Gwobr Llywydd Cymdeithas Cyn-ddisgyblion Ysgol ramadeg Dinefwr a Gwobr Gwneuthurwyr Oriel Mission mewn cydweithrediad â Gwobr Jane Phillips.
Cydnabu Gwobrau Llywydd Cymdeithas Cyn-ddisgyblion Dinefwr hefyd Bella Watkins, Rhiannon Hughes, Adam Mayhew, Emi Joy, a Becca May am eu cyflawniadau creadigol.
Derbyniodd y fyfyrwraig gemwaith Jessica Theobald Wobr Gemwaith Coleg ACJ, gan ddyfarnu aelodaeth i’r Gymdeithas Gemwaith Cyfoes, tra derbyniodd y fyfyrwraig Ffotograffiaeth Carys Bristowe-Davies Wobr Sarah Tierney, sy’n cynnwys cyfleoedd mentora a mynediad i weithdai yng Ngholeg Celf Abertawe.
Meddai Dr Mark Cocks, Deon Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru PCYDDS: “Mae arddangosfeydd gradd yr haf yn dathlu doniau creadigol ysbrydoledig ein myfyrwyr. Mae arloesedd ac amrywiaeth gwaith y myfyrwyr yn dyst i’w hymroddiad a’u dull o gymhwyso eu hymarfer personol. Mae’r sioeau hyn yn benllanw astudiaeth academaidd, ond hefyd yn ddechrau teithiau creadigol proffesiynol.”
Ychwanegodd Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd (Celf a’r Cyfryngau) yng Ngholeg Celf Abertawe PCYDDS: “Mae cynnal Sioeau’r Haf yn rhan hanfodol o’n cenhadaeth yn PCYDDS. Mae’n rhoi llwyfan proffesiynol i’n myfyrwyr rannu eu creadigrwydd â’r byd, yn dathlu eu gwaith caled, ac yn eu cysylltu â’r diwydiannau maen nhw ar fin ymuno â nhw.”
Dywedodd Lynne Seymour, Cyfarwyddwr Academaidd: Diwydiannau Dylunio a Pherfformio: “Mae Sioeau’r Haf bob amser yn foment hynod gyffrous yn y flwyddyn academaidd, gan roi’r cyfle inni ddathlu creadigrwydd, ymroddiad a datblygiad rhyfeddol ein myfyrwyr ar draws portffolio’r Diwydiannau Dylunio a Pherfformio. Mae’r arddangosfeydd a’r perfformiadau hyn nid yn unig yn cynrychioli uchafbwynt blynyddoedd o waith caled, cydweithio ac archwilio artistig, ond hefyd yn ddechrau llawer o deithiau creadigol proffesiynol.
“Mae’r flwyddyn hon yn teimlo’n arbennig o arbennig wrth i ni hefyd ddathlu 25 mlynedd ers y graddedigion cyntaf o’n cwrs Dylunio a Chynhyrchu Setiau, carreg filltir sy’n adlewyrchu cryfder ac effaith barhaus addysg greadigol yn Y Drindod Dewi Sant. Mae hefyd yn hyfryd gweld dau o gynyrchiadau BA Actio eleni yn cael eu cyfarwyddo gan gyn-fyfyrwyr a ddechreuodd eu gyrfaoedd creadigol eu hunain gyda ni ac sydd wedi mynd ymlaen i adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus o fewn y diwydiant ers hynny.
“Mae gweld ein graddedigion yn dychwelyd fel ymarferwyr proffesiynol i gefnogi ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr yn hynod ystyrlon. Mae’n tynnu sylw at gryfder ein cymuned greadigol ac yn caniatáu inni nid yn unig ddathlu gwaith rhagorol ein myfyrwyr presennol, ond hefyd i gydnabod a hyrwyddo cyflawniadau ein cyn-fyfyrwyr gwych.”
Mae Sioeau Haf eleni yn parhau drwy gydol y tymor, gan gynnwys arddangosfeydd Pensaernïaeth, Peirianneg a Chyfrifiadura ar gampws Glannau Abertawe PCYDDS, perfformiadau gan fyfyrwyr WAVDA yn Yr Egin yng Nghaerfyrddin ac yng Nghaerdydd, arddangosfeydd yn New Designers ac Oriel Copeland yn Llundain, ac arddangosfeydd Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth yng Ngŵyl Cyflymder Goodwood ym mis Gorffennaf.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071