Staff PCYDDS yn cefnogi dathlu Diwrnod Mamiaith Rhyngwladol 2026 yn Abertawe
Roedd pleser gan gydweithwyr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) gefnogi dathliad bywiog o Ddiwrnod Mamiaith Rhyngwladol 20216, o dan arweiniad Pencampwyr Cydraddoldeb Abertawe sydd newydd ei sefydlu mewn partneriaeth â Chymdeithas Bangladesh Bae Abertawe.
Chwaraeodd Dr Moutushi Tanha, Darlithydd Peirianneg yn PCYDDS ac aelod o grŵp Pencampwyr Cydraddoldeb Abertawe rôl allweddol wrth gyflwyno’r digwyddiad a ddaeth â chymunedau ynghyd i ddathlu amrywiaeth ieithyddol, treftadaeth ddiwylliannol, a phŵer iaith i feithrin yr ymdeimlad o berthyn. Cefnogwyd Dr Tanha yn y trefniadau gan fyfyrwyr PCYDDS: Rakib, Shah Paran a Suamiya Minnat ac roedd eu cyfraniadau wedi helpu i sicrhau llwyddiant y digwyddiad.
Meddai Dr Tanha:
“Rwyf wrth fy modd gyda lefel y gefnogaeth a ddangoswyd gan gydweithwyr a’r gymuned ehangach. Mae Diwrnod Mamiaith Rhyngwladol yn atgof pwerus o bwysigrwydd gwarchod a dathlu ein mamieithoedd, sy’n cario ein hanesion, ein hunaniaeth a’n synnwyr o berthyn. Mae digwyddiadau fel hyn yn dangos sut y gall iaith ddod â phobl ynghyd a chryfhau dealltwriaeth ar draws diwylliannau.”
Mae Diwrnod Mamiaith Rhyngwladol wedi’i gydnabod gan UNESCO ers 1999 a gan Gynhadledd Gyffredinol y Cenhedloedd Unedig ers 2002. Mae’r diwrnod yn nodi’r Symudiad Iaith 1952 ym Mangladesh, pan oedd Bengaliaid yn Nwyrain Bengal (sydd bellach ym Mangladesh) wedi ymgyrchu dros gydnabod Bengali yn iaith swyddogol y wladwriaeth - eiliad dyngedfennol yn hanes y wlad a symbol byd-eang o hawliau ieithyddol.
Tynnodd sylw’r dathliadau yn Abertawe at dreftadaeth Bengali gyfoethog y ddinas a’i hamrywiaeth ieithyddol ehangach. Perfformiodd plant o Abertawe ganeuon a cherddi yn eu mamieithoedd. Rhannodd menywod gerddi pwerus ac ysgogol yn adfyfyrio ar gadw mamieithoedd, ochr yn ochr â darlleniadau yn Bengali, Pwyleg, Urdu, a Tsieinëeg Mandarin.
Perfformiodd Dr Jessica Pitman, Arweinydd Rhaglen ar gyfer MA Cydraddoldeb ac Amrywiaeth mewn Cymdeithas a darlithydd yn BA Blynyddoedd Cynnar Addysg a Gofal yr hwiangerdd Gymraeg Suo Gân, sy’n atseinio’n atgof bod y weithred o gysuro plentyn yn gyffredin ym mhob cymdeithas, a bod cerddoriaeth yn gallu cysylltu cymunedau ar draws diwylliannau heb fod angen ei chyfieithu. Gan adfyfyrio ar ei chyfranogiad, meddai:
“Roedd bod yn rhan o’r digwyddiad hwn yn gymaint o bleser. Roedd y perfformiadau yn deimladwy iawn ac yn ein hatgoffa bod iaith, cerddoriaeth a gofal yn brofiadau cyffredinol sy’n ein cysylltu ar draws diwylliannau.”
Ymhlith y cyfranogwyr eraill o PCYDDS, perfformiodd Yiying Jiao, Darlithydd mewn MA Addysg, Tsieinëeg, ac Ymgysylltu Diwylliannol y gân Tsieinëeg Alaw Ddŵr (水调歌头/明月几时有), gan fynegi dymuniadau o’r galon i anwyliaid a golwg optimistaidd ar fywyd. Adroddodd Min Liu, graddedig MA Astudiaethau Addysg, y cerddi Tsieinëeg Clasurol, Dringo Tŵr y Storc Gwyn (登鹳雀楼) a Syllu ar Raeadr ar Fynydd Lu (望庐山瀑布), yn dathlu natur, dyheadau a dyfalbarhad.
Cynrychiolwyd PCYDDS hefyd gan Dr Mohamed Gabr, Uwch Ddarlithydd yn yr Ysgol Peirianneg, a gymerodd ran mewn trafodaeth banel o’r enw “Iaith Perthyn, Llais Cyfiawnder: Rôl Dwyieithrwydd mewn Cyflawni Cyfiawnder Diwylliannol mewn Dinas aml-ddiwylliannol.”
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467076