Taith drwy Rufain yng Nghasgliadau Arbennig PCYDDS
Bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnal diwrnod agored arbennig i ddathlu Rhufain, y “ddinas dragwyddol,” drwy arddangosfa ryfeddol o lyfrau prin o’i Chasgliadau Arbennig.
Cynhelir y digwyddiad ddydd Mercher 18 Chwefror, gyda dwy sesiwn ar gael am 10am a 2pm, yn Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen ar gampws y Brifysgol yn Llambed. Bydd pob sesiwn yn dechrau gyda sgwrs ragarweiniol fer, ac yna cyfle i archwilio’r cyfrolau sy’n cael eu harddangos.
Caiff ymwelwyr gyfle i weld detholiad o gyfrolau a gyhoeddwyd rhwng yr 17eg a’r 19eg ganrif, gan gynnig cipolwg ar Rufain fel dinas o hanes gweladwy ac ysbrydoliaeth artistig. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae gwaith godidog Giambattista Piranesi, Le antichità romane, ynghyd â llyfrau a grëwyd ar gyfer teithwyr y Daith Fawr o’r 17eg ganrif, y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif. Hefyd yn cael ei arddangos bydd gwaith Edward Lear, Views in Rome and its Environs, llyfr teithio gan y bardd nonsens enwog.
Byddai llawer o’r gweithiau wedi cael eu prynu gan aristocratiaid ifanc fel cofroddion o’u Taith Fawr, tra bod eraill wedi’u cynhyrchu gan benseiri a ymwelodd â’r Eidal i arddangos a hyrwyddo eu gwaith.
Dywedodd Ruth Gooding, Llyfrgellydd Casgliadau Arbennig yn PCYDDS:
“Mae gennym ddetholiad gwych o lyfrau am Rufain. Yn ogystal â bod yn wirioneddol hardd, maent yn helpu i ddod â phrofiadau teithwyr Taith Fawr y 18fed ganrif yn fyw - tra hefyd yn codi awydd teithwyr yr 21ain ganrif sy’n breuddwydio am ymweld â’r ddinas dragwyddol.”
I wybod rhagor neu gadw lle, cysylltwch â Ruth Gooding yn r.gooding@uwtsd.ac.uk.
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476