Thomas Pennant yn 300: Sgwrs ac arddangosfa arbennig yn PCYDDS Llambed
Cynhelir digwyddiad arbennig sy’n dathlu bywyd ac etifeddiaeth y naturiaethwr, teithiwr ac awdur Thomas Pennant yn Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), Llambed, ddydd Mercher 17 Mehefin am 2pm.
Mae’r sgwrs, “Still Travelling: Thomas Pennant at 300 – New Directions for the Father of Cambrian Tourism”, yn nodi 300 mlynedd ers geni Pennant a bydd yn cael ei draddodi gan yr ysgolhaig blaenllaw ar Pennant, yr Athro Mary-Ann Constantine o Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru.
Meddai’r Athro Mary-Ann Constantine:
“Rydym yn falch iawn o allu cyflwyno rhifynnau digidol o deithiau Pennant yn yr Alban a Chymru i ddathlu ei drichanmlwyddiant. Mae archwilio’r ysgrifau haenog ac ar brydiau hynod y ‘Teithiwr Chwilfrydig hunan-gyhoeddedig hwn wedi bod yn dipyn o daith ei hun.”
Daeth Thomas Pennant a anwyd yn Sir y Fflint yn 1726 yn un o’r ffigurau mwyaf dylanwadol ym Mhrydain yn y ddeunawfed ganrif. Yn hanesydd natur, hynafiaethydd a theithiwr angerddol, efallai ei fod yn fwyaf adnabyddus am ei adroddiadau manwl o’i deithiau trwy’r Alban, Ynysoedd Heledd a Gogledd Cymru, a helpodd i ysbrydoli diddordeb cynyddol mewn teithio a thwristiaeth ledled Prydain.
Dechreuodd chwilfrydedd Pennant am y byd naturiol mewn plentyndod a datblygodd hyn yn ystod ei astudiaethau yn Rhydychen. Arweiniodd ei deithiau daearegol at ymchwil gyhoeddedig, tra bod ei waith diweddarach mewn sŵoleg wedi arwain at gyhoeddi’r British Zoology yn 1766. Roedd y gyfrol a gafodd ei dylunio’n helaeth yn arloesol am ei chyfnod a sefydlodd Pennant yn un o haneswyr naturiol mwyaf blaenllaw Prydain.
Mae ei ysgrifau teithio yn parhau i ddenu sylw haneswyr, ysgolheigion llenyddol ac ymwelwyr sydd â diddordeb yn nhirweddau a diwylliannau Cymru a’r tu hwnt. Tri chan mlynedd ar ôl ei enedigaeth, mae ymchwil newydd yn taflu goleuni newydd ar ei ddylanwad a’i berthnasedd heddiw.
Mae gan Lyfrgell ac Archifau Roderic Bowen gasgliad pwysig o waith Pennant, gan gynnwys cyfrolau o’i deithiau yn yr Alban, ei Voyage to the Hebrides, Tours in North Wales, a copi cain o British Zoology. Bydd y rhain yn cael eu harddangos yn ystod y digwyddiad.
Meddai Nicky Hammond, Archifydd Casgliadau Arbennig PCYDDS:
“Rydym yn edrych ymlaen at arddangos ein casgliad o deithlyfrau cyfareddol Thomas Pennant o’i deithiau ym Mhrydain, yn ogystal â’i deithiau yn Awstralia, Indonesia a Papua New Guinea.”
Yn ogystal, bydd ymwelwyr yn gallu gweld arddangosfa arbennig a grëwyd gan gyn Llyfrgellydd y Casgliadau Arbennig, Ruth Gooding sy’n archwilio bywyd, teithiau a chyfraniad Pennant at hanes diwylliannol Cymru.
Mae’r Athro Constantine wedi ysgrifennu’n helaeth ar ysgrifau teithio, Cymru yn ystod y cyfnod Rhamantaidd a Thomas Pennant. Arweiniodd yr Athro Constantine y prosiectau ymchwil o bwys, Curious Travellers a bellach, mae’n gweithio ar rifyn digidol o Tours in Wales gan Pennant.
Mae’r digwyddiad yn cynnig cyfle prin i weld gweithiau gwreiddiol gan un o awduron a fforwyr enwocaf Cymru gan roi cyfle i chi ddysgu am yr ymchwil ddiweddaraf i’w fywyd a’i gyflawniadau.
Mae’n hanfodol archebu lle ar gyfer y digwyddiad hwn. I gadw lle, cysylltwch â: n.hammond@uwtsd.ac.uk
Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach ar brosiect Curious Travellers yn <https://curioustravellers.ac.uk/tours-page/>
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476