Skip page header and navigation

Mae tîm Chwaraeon Moduro Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn dathlu diweddglo hynod lwyddiannus  i dymor Chwaraeon 2000 2025, a nodweddwyd  gan orchestion ar y trac, ymgysylltiad myfyrwyr, a chydnabyddiaeth am ragoriaeth staff.

A man in a dinner suit holding a trophy in front of a racing branded banner.

Y penwythnos diwethaf, teithiodd aelodau o dîm Chwaraeon Moduro PCYDDS i Ddwyrain Canolbarth Lloegr i fynychu Cinio Gwobrwyo blynyddol Pencampwriaeth Chwaraeon 2000. Eleni, ymunodd sawl myfyriwr chwaraeon moduro â staff academaidd i ddathlu cyflawniadau’r tîm a bod yn rhan o’r gymuned chwaraeon moduro broffesiynol.

Un o uchafbwyntiau’r noson oedd y gydnabyddiaeth i Andrew Noble, un o ddarlithwyr PCYDDS a gafodd ei anrhydeddu â’r wobr “Un i’w Wylio”. Bu Andrew yn cystadlu y tymor hwn yn ei Loaded Gunn, ac er gwaethaf heriau mecanyddol cynnar, dangosodd sgil a penderfyniad eithriadol, a photensial clir ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mae ei wobr yn adlewyrchu cyflawniad personol a chryfder  yr addysgu ym maes chwaraeon moduro a gweithgarwch rasio PCYDDS.

Wrth adfyfyrio ar y Cinio Gwobrwyo, dywedodd Dr Kerry Tudor, Cyfarwyddwr Academaidd Cynorthwyol y maes Peirianneg yn PCYDDS: <0} Rhoddodd y digwyddiad gyfle i bawb rannu straeon, adfyfyrio ar y gwaith caled cyn pob penwythnos rasio, a mwynhau noson haeddiannol o gydnabyddiaeth. Mae ein myfyrwyr wedi dangos ymrwymiad a gwytnwch anhygoel y tymor hwn, ac ni allwn fod yn fwy balch o’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni.”

Gan ychwanegu at y dathliadau, daeth ras olaf Pencampwriaeth Chwaraeon 2000 2025 â diweddglo dramatig a gwerth chweil i’r tymor i dîm Chwaraeon Moduro PCYDDS. Ar ôl penwythnos hynod heriol, gan gynnwys cyfnewid injan mewn un car a’r crogiant mewn car arall yn methu ddwywaith, rhoddodd y gyrrwr Tim Tudor berfformiad rhagorol i gipio’r fuddugoliaeth yn ras olaf y tymor. Roedd ei fuddugoliaeth yn tanlinellu gwytnwch, gallu technegol, ac ysbryd cydweithredol y tîm.

Mae tîm Chwaraeon Moduro PCYDDS bellach yn symud ei ffocws i dymor 2026, gyda’r paratoadau eisoes ar y gweill. Mae myfyrwyr a staff yn gweithio ochr yn ochr wrth iddynt ddatblygu’r ceir, mireinio strategaethau perfformio, a chymhwyso sgiliau peirianneg ymarferol a enillwyd trwy gystadleuaeth yn y byd go iawn. Gyda momentwm o’r newydd yn sgil llwyddiannau diweddar a chyfranogiad parhaus y myfyrwyr, mae’r tîm yn barod am flwyddyn gref arall ar ac oddi ar y trac.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon