Tîm Staff PCYDDS i ymgymryd â Ras Gyfnewid Triathlon i Gefnogi Iechyd Meddwl a Llesiant
Bydd staff o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn cymryd rhan yn Triathlon Abertawe ar 24 Mai i godi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant.
Mae’r tîm yn cefnogi Sefydliad Jac Lewis, elusen sydd wedi ymrwymo i wella mynediad at gymorth iechyd meddwl mewn cymunedau trwy ymyrraeth gynnar, canolfannau lles, a rhaglenni cymorth cymunedol.
Daeth y syniad ar gyfer yr her o gydnabyddiaeth a rennir ymhlith y tîm bod ymarfer corff a symud yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi eu hiechyd meddwl a’u llesiant eu hunain, a bod y digwyddiad yn gyfle i roi rhywbeth yn ôl wrth godi ymwybyddiaeth o gymorth iechyd meddwl ledled Cymru.
Mae’r fenter hefyd yn cysylltu â phrosiect cydweithredol diweddar rhwng PCYDDS, Springfield Mental Health ac ysgolion ar draws clwstwr Port Talbot, yn archwilio ymagweddau mwy personol at iechyd meddwl a llesiant staff mewn lleoliadau addysg.
Dywedodd Laura Hutchings, Arweinydd Digidol yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau:
“Mae’r hyn a ddechreuodd fel sgwrs ysgafn wedi troi’n rhywbeth â synnwyr gwirioneddol o bwrpas. Mae cymryd rhan yn y ras gyfnewid triathlon nid yn unig yn ymwneud â chodi arian at achos pwysig, ond hefyd â pharhau i siarad am iechyd meddwl a llesiant mewn ffordd sy’n teimlo’n agored, yn onest ac yn berthnasol.”
Trwy brosiectau a mentrau fel hyn, mae PCYDDS yn parhau i weithio ar y cyd â sefydliadau ledled Cymru i gefnogi llesiant cymunedol, dysgu proffesiynol ac arfer cymhwysol sy’n gwneud gwahaniaeth cymdeithasol ystyrlon.
Mae gan y Brifysgol ymrwymiad sefydledig i lesiant, arweinyddiaeth, a gwytnwch cymunedol trwy ystod o gyfleoedd dysgu israddedig, ôl-raddedig a phroffesiynol sy’n gysylltiedig ag addysg, iechyd, arweinyddiaeth, a chynhwysiant cymdeithasol.
Mae’r ras gyfnewid triathlon wedi cael ei chefnogi gan PCYDDS, Springfield Mental Health ac RCS Teamwear, ac mae’r tîm yn gobeithio y bydd yr her yn helpu i godi ymwybyddiaeth ac arian hanfodol ar gyfer cymorth iechyd meddwl yng nghymunedau Cymru. Mae’r tîm triathlon yn addysgu ar draws pynciau Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg ac eisoes yn pwysleisio pwysigrwydd manteision cydweithredu, partneriaeth a llesiant wrth addysgu ym meysydd Plentyndod, Addysg a Gwaith Ieuenctid. Bydd y triathlon yn gyfle gwych i gael profiad uniongyrchol o’r cyfleoedd hyn.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071