Troi Gwybodaeth yn Effaith: Elena yn Graddio gyda Chynlluniau i Gefnogi Pobl â Dementia
Pan symudodd Elena Vasinc o Rwmania i Loegr, roedd hi’n benderfynol o adeiladu dealltwriaeth ddyfnach o system iechyd a gofal cymdeithasol y wlad wrth ddilyn gyrfa yn helpu eraill. Wrth iddi raddio o PCYDDS Birmingham gydag MSc mewn Iechyd y Cyhoedd a Gofal Cymdeithasol ar Waith, mae’n adfyfyrio ar daith ddysgu a nodweddwyd gan benderfyniad, rhagoriaeth academaidd, arweinyddiaeth, ac angerdd cynyddol dros gefnogi pobl sy’n byw gyda dementia.
“Rwy wastad wedi mwynhau gweithio gyda phobl ac roeddwn i eisiau deall system gymdeithasol Lloegr yn well,” meddai Elena. “Pan argymhellodd ffrind PCYDDS ar ôl cael profiad mor gadarnhaol ei hun, penderfynais gofrestru ar y rhaglen BSc Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Roedd yn un o’r penderfyniadau gorau i mi eu gwneud erioed.”
Cafodd ymrwymiad Elena i’w hastudiaethau ei gydnabod gyda dwy wobr fawreddog yn 2024. Enillodd y Marc Cymedrig Uchaf yn ei charfan ar y Rhaglen BSc (Anrh) Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Lefel 6) a derbyniodd hefyd y wobr am y Marc Uchaf am y Traethawd Hir yn ei charfan. Yn ystod ei MSc, dangosodd ei hymrwymiad i’r gymuned fyfyrwyr ymhellach trwy wasanaethu fel Cynrychiolydd Myfyrwyr, gan helpu i gynrychioli barn a phrofiadau ei chyd-fyfyrwyr.
Ar ôl cwblhau ei hastudiaethau israddedig, dewisodd Elena barhau â’i haddysg gydag MSc mewn Iechyd y Cyhoedd a Gofal Cymdeithasol ar Waith, gan adeiladu ar y wybodaeth a’r sgiliau yr oedd eisoes wedi’u hennill.
“Rhoddodd y BSc a’r MSc ddealltwriaeth ddyfnach i mi o systemau iechyd a gofal cymdeithasol Lloegr,” meddai. “Gwnes i fwynhau’n arbennig astudio dulliau ymchwil, sicrhau ansawdd, a gwella gwasanaethau. Roedd pob modwl yn ychwanegu rhywbeth gwerthfawr at fy natblygiad proffesiynol.”
Un o uchafbwyntiau taith academaidd Elena oedd cyflwyno yn ei Chynhadledd Ymchwil gyntaf i Fyfyrwyr IICL yn Birmingham ym mis Gorffennaf 2025.
“Roedd yn foment falch i mi,” meddai. “Rhoddodd y gynhadledd gyfle i mi rannu syniadau, dysgu gan eraill a datblygu fy hyder fel ymchwilydd.”
Nid oedd cydbwyso astudio â chyfrifoldebau bob dydd bob amser yn hawdd. Roedd byw yn Crewe yn golygu teithio’n rheolaidd i Birmingham, tra bod astudio mewn ail iaith yn dod â heriau ychwanegol.
“Nid Saesneg yw fy iaith gyntaf, felly ar adegau roedd yn rhaid i mi weithio’n galetach i ddeall deunydd academaidd a mynegi fy syniadau,” esboniodd Elena. “Treuliais amser ychwanegol yn ymarfer Saesneg gyda fy meibion a defnyddio adnoddau ar-lein. Wrth edrych yn ôl, helpodd yr heriau hynny fi i dyfu’n bersonol ac yn academaidd.”
Heddiw, mae Elena yn gweithio gyda phobl sy’n byw gyda dementia ac yn dweud bod ei hastudiaethau wedi cael effaith uniongyrchol ar ei bywyd proffesiynol.
“Rwy’n defnyddio’r wybodaeth a gefais yn PCYDDS bob dydd,” meddai. “Mae gweithio gyda phobl â dementia wedi fy helpu i roi theori ar waith, ac rwy’n teimlo’n llawer mwy hyderus yn cefnogi cleifion a’u teuluoedd yn ystod amseroedd anodd.”
Roedd traethawd meistr Elena yn canolbwyntio ar Therapi Ysgogi Gwybyddol, maes sydd wedi ysbrydoli ei chynlluniau gyrfa ar gyfer y dyfodol. Ar ôl graddio, mae’n gobeithio lansio busnes bach sy’n darparu rhaglenni cymorth ac ysgogi gwybyddol i bobl sy’n byw gyda dementia.
“Fy nod yw helpu pobl i gynnal eu galluoedd gwybyddol a gwella ansawdd eu bywyd,” meddai. “Hoffwn hefyd weithio ochr yn ochr â darparwyr gofal iechyd i godi ymwybyddiaeth o fanteision ysgogi gwybyddol a gwasanaethau cymorth dementia.”
Dywed Elena y byddai’n hapus i argymell y ddau gwrs i eraill.
“Mae’r ddwy raglen yn gynhwysfawr iawn ac yn darparu llawer iawn o wybodaeth,” meddai. “Maen nhw wedi fy helpu i ddatblygu’n broffesiynol ac yn bersonol, ac maen nhw wedi rhoi’r hyder i mi ddilyn fy uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071