Skip page header and navigation

Dathlodd Emma-Jane Wilson garreg filltir academaidd ysbrydoledig wrth iddi raddio gyda MA mewn Athroniaeth o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Seremoni Graddio’r Gaeaf a gynhaliwyd yn Neuadd Brangwyn, Abertawe.

Emma-Jane Wilson in the Brangwyn Hall in her graduation gown

Dychwelodd Emma i addysg fel myfyrwraig aeddfed ar ôl rhedeg busnes datblygu eiddo bach am bron i 20 mlynedd. Cafodd ei phenderfyniad i ddilyn astudiaeth ôl-raddedig ei yrru gan brofiad proffesiynol a’i hawydd i ddeall yn well yr heriau cymdeithasol yr oedd wedi’u gweld yn uniongyrchol.

“Roeddwn i wedi profi digartrefedd fel plentyn, a thrwy gydol fy ngwaith des i fwyfwy ymwybodol o’r diffyg tai diogel a fforddiadwy,” eglurodd Emma. “Caniataodd fy nhraethawd hir Meistr i mi archwilio rhai o’r materion cymhleth sy’n gyrru digartrefedd ar sail rhywedd, pwnc rwy’n gobeithio parhau ag ef nawr i lefel PhD.”

Canmolodd Dr Rebekah Humphreys, Darlithydd Athroniaeth yn Y Drindod Dewi Sant, ymrwymiad a chyfraniad academaidd Emma:

“Daeth Emma â dyfnder prin o fewnwelediad i’w hastudiaethau, gan dynnu’n feddylgar ar brofiad byw ac ymholiad athronyddol trylwyr. Dangosodd ei gwaith aeddfedrwydd deallusol, tosturi ac ymrwymiad gwirioneddol i gyfiawnder cymdeithasol. Rydym yn hynod falch o’r hyn y mae wedi’i gyflawni ac yn gyffrous i weld ble mae ei hymchwil yn ei harwain nesaf.”

Ar ôl symud yn ddiweddar i gefn gwlad Cymru gyda’i dau blentyn ifanc, dewisodd Emma astudio’n rhan-amser yn Y Drindod Dewi Sant i gyd-fynd â bywyd gwaith a theuluol.

“Rhoddodd y cwrs hwn yr hyblygrwydd yr oedd ei angen arnaf,” meddai. “Roedd y darlithwyr a’r staff bob amser yn deall fy nghyfyngiadau amser fel myfyriwr aeddfed, gweithiol. Roeddent yn gyfeillgar, yn hawdd mynd atynt ac yn gyson yn mynd yr ail filltir.”

Dywed Emma mai ei huchelgais hirdymor yw parhau yn y byd academaidd a gwneud cyfraniad ystyrlon trwy ymchwil.

“Byddwn wrth fy modd yn cwblhau PhD a chyfrannu rhywbeth parhaol a allai helpu eraill â phrofiadau tebyg.”

Wrth fyfyrio ar uchafbwyntiau ei chwrs, mae Emma’n cofio’n hoffus yr ymdeimlad cryf o gymuned ymhlith myfyrwyr.

“Roedd ein Caffi Athroniaeth nos Wener rheolaidd gyda chyd-fyfyrwyr, gwin a byrbrydau o gysur fy nghartref fy hun, yn uchafbwynt go iawn,” meddai.

Nid oedd cydbwyso astudio, gwaith a bywyd teuluol heb ei heriau, gydag amser yn bwysau mwyaf.

“Diffyg amser oedd yr her fwyaf, ond gwnaeth y gefnogaeth yn Y Drindod Dewi Sant hi’n bosibl i mi lwyddo.”

Mae Emma’n angerddol am annog eraill, yn enwedig myfyrwyr aeddfed, i gymryd y cam i addysg uwch.

“Byddwn yn argymell Y Drindod Dewi Sant yn llwyr i unrhyw un sy’n ystyried astudio, yn enwedig myfyrwyr aeddfed. Mae’n gyfeillgar, yn groesawgar ac yn ddiymhongar, ac ni fyddwch chi wir yn teimlo fel bod gennych chi syndrom y ffugiwr.”

Mae hi hefyd yn rhoi clod i’w hastudiaethau athroniaeth am gael effaith bersonol ddofn.

“Mae astudio Athroniaeth wedi fy helpu’n aruthrol. Mae angen herio cymaint o’r rhagdybiaethau moesol y mae cymdeithas wedi bod yn seiliedig arnynt os ydym am ddatrys problemau cymhleth fel newid hinsawdd, anghydraddoldeb cynyddol a difodiant. Nid eistedd mewn cadair freichiau gyda hen lyfrau llychlyd yn unig yw athroniaeth - mae’n rhoi’r offer i chi ddeall pam mae pobl yn meddwl yr hyn maen nhw’n ei feddwl a’r cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, cadarnhaol.”

Gan edrych ymlaen, mae uchelgeisiau Emma ar gyfer y dyfodol yn canolbwyntio’n gadarn ar astudiaeth bellach, a bydd hi nawr yn symud ymlaen i ymchwil lefel PhD.


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon