Un o academyddion Addysg Awyr Agored PCYDDS yn agor y Gynhadledd Ibero-Americanaidd 1af ar Ymyriadau Therapiwtig Seiliedig ar Natur
Gwahoddwyd Mache Treviño, Rheolwr Rhaglen ar yr MA mewn Addysg Awyr Agored ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), i gyflwyno’r brif araith agoriadol yn y Gynhadledd Ibero-Americanaidd Gyntaf ar Ymyriadau Therapiwtig Seiliedig ar Natur yn Valencia, Sbaen yn ddiweddar. Enillodd y gydnabyddiaeth hon yn sgil ei chyfraniad helaeth i Addysg Awyr Agored ac Antur, ynghyd â’i hymrwymiad i ddulliau seiliedig ar natur a phrofiadau mewn cyd-destunau cymunedol a dysgu.
Daeth y gynhadledd, a drefnwyd gan Terapia Aventura yn Universidad Católica de Valencia, â gweithwyr proffesiynol o ystod eang o feysydd ynghyd, gan gynnwys gwaith cymdeithasol, arfer awyr agored, therapi galwedigaethol, addysg a seicoleg, i archwilio disgyblaeth gynyddol arfer therapiwtig seiliedig ar natur.
Roedd prif araith Mache, o dan y teitl “Ail-lunio’r Map: Dilyn y Cwrs,” yn cynnig myfyrdod beirniadol a thrwy brofiadau ar y croestoriadau rhwng dulliau therapiwtig seiliedig ar natur ac addysg trwy brofiadau, gan fynd i’r afael â heriau o fewn modelau iechyd meddwl cyfredol. Gan ddefnyddio dyfrffyrdd fel trosiad, arweiniwyd cyfranogwyr trwy gysyniadau ac arferion lle mae gofal, llesiant, a natur yn cydgyfeirio, gan osod y naws ar gyfer penwythnos o ddysgu a chreu ar y cyd.
Yn dilyn ei chyflwyniad, rhannodd ymarferwyr o bob rhan o’r rhanbarth enghreifftiau o arfer da a modelau amrywiol o ymyrraeth therapiwtig. Mae’r gynhadledd yn darparu cyfleoedd gwerthfawr ar gyfer rhwydweithio ac ar gyfer archwilio dyfodol darpariaeth iechyd awyr agored, gan annog cyfranogwyr i fyfyrio ar sut y gall y dulliau hyn lywio eu rhaglenni.
Meddai Alexander Rose, arweinydd y tîm ymgynnull:
“Roedd prif araith Mache yn ysbrydoledig, gan roi fframwaith i ni leoli’r gwahanol ddamcaniaethau a dulliau sy’n llywio ymyriadau therapiwtig seiliedig ar natur, y manteision, a’r holl lenyddiaeth ac ymchwil yn y maes o bob cwr o’r byd. Fe’n llywiodd drwy’r afon o bosibiliadau ar gyfer therapïau natur ac antur.”
Myfyriodd Max Prieto, therapydd natur a wnaeth hefyd gyflwyno’r rhaglen arloesol ar gymorth therapiwtig o fewn El Camino de Santiago, ar y brif araith agoriadol:
“Rhannodd Mache weledigaeth ynghylch faint o elfennau rhyngddisgyblaethol sy’n cyfuno, gan edrych y tu hwnt i fethodolegau penodol, a phŵer rhannu a dysgu oddi wrth y nifer o ffyrdd o weithredu mewn ymyriadau therapiwtig seiliedig ar natur.”
Daeth y penwythnos i ben gyda diwrnod llawn o weithdai ymarferol yng Nghoedwig La Vallesa, dan arweiniad ymarferwyr profiadol. Yn y sesiynau archwiliwyd themâu fel adeiladu perthnasoedd therapiwtig gyda phobl ifanc trwy her, defnyddio natur i gefnogi galar, a cherdded fel math o weithredu cymunedol ar gyfer iechyd holistaidd. I Mache, roedd cymryd rhan yn y digwyddiad hwn yn hynod ystyrlon:
“Roedd y cyfle i gyflwyno yn y Gynhadledd gyntaf hon yn brofiad teimladwy a chyfoethogol, lle ymgasglodd llawer o weithwyr proffesiynol i archwilio a myfyrio ar sut i barhau i ehangu’r posibiliadau o feithrin cymunedau a pherthnasoedd iachach yn ein mysg ni a’r mwy na dynol. Mae’n anrhydedd i mi ddysgu o’r ymdrech gyfunol hon i drawsnewid sut rydym yn dychmygu iechyd ac yn hyrwyddo llesiant.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476