Skip page header and navigation

Mae gwaith gwydr gan Arddangoswr Technegol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) Stacey Poultney wedi cael ei ddewis i’w gynnwys mewn arddangosfa genedlaethol a gynhelir gan y Gymdeithas Gwydr Cyfoes y mis hwn.

A creative glass work

Bydd yr arddangosfa, “It’s All in the Technique,” yn cael ei chynnal rhwng 14 Mawrth a 11 Ebrill 2026 yn The World of Glass. Mae’r arddangosfa’n dathlu sgiliau technegol ac arloesedd creadigol artistiaid gwydr o bob cwr o’r DU.

Mae gwaith Stacey yn archwilio posibiliadau strwythurol a cherfluniol gwydr trwy dechnegau adeiladu haenog sy’n cyfuno crefftwaith technegol dylanwadau artistig cyfoes.

Ac yntau’n ymarferydd ac addysgwr hirsefydlog,  mae Stacey wedi gweithio ym maes addysg uwch am y 15 mlynedd diwethaf, ochr yn ochr â chyflawni prosiectau gwydr masnachol ac addysgu ar draws ystod o dechnegau arbenigol gan gynnwys gwydr lliw, dalle de verre, gwydr pensaernïol, chwythu gwydr, ac arferion gwydr cyfoes.

Wrth siarad am gael ei ddewis, dywedodd Stacey: “Rwy’n teimlo’n freintiedig i fod yn aelod o’r Gymdeithas Gwydr Cyfoes a chael fy ngwaith wedi’i ddewis ar gyfer Arddangosfa’r Gymdeithas ‘It’s All in the Technique’ yn The World of Glass yn St Helens.

“Rwyf wedi bod yn angerddol am wydr ar hyd fy oes, a gwydr lliw yw fy ffordd gyntaf a mwyaf uniongyrchol o weithio’n greadigol gyda’r deunydd. Er fy mod yn parhau i ymgymryd â phrosiectau gwydr lliw a dalle de verre dethol o fewn fy arfer personol, mae fy ffocws yn bennaf ar wydr tri dimensiwn. Rwy’n credu’n gryf ym mhwysigrwydd ail-gyd-destunoli gwydr lliw, neu agweddau ohono, er mwyn cadw’r sgiliau hyn a chynnal eu perthnasedd heddiw.”

Mae gwaith Stacey ar gyfer yr arddangosfa yn canolbwyntio ar gerfluniau gwydr haenog a grëwyd trwy dechnegau bondio a gweithio’n oer. Gan dynnu ar ei gefndir mewn peirianneg fecanyddol, gwaith metel, peiriannu a gwaith coed, mae Stacey yn adeiladu darnau cymhleth sy’n archwilio dyfnder, strwythur a’r berthynas rhwng deunydd a’r amgylchedd.

Mae’r casgliad wedi’i ddylanwadu gan ddiwylliant graffiti, dirywiad trefol, pensaernïaeth friwtalaidd, a dylunio diwydiannol, gan archwilio’r tensiwn rhwng ffurfiau pensaernïol anhyblyg a phatrymau anrhagweladwy dirywiad dros amser. Gwydr nofiol, a ddefnyddir yn gyffredin mewn gwydr pensaernïol, yw sylfaen y gwaith, a ddewiswyd am ei arlliw cynnil a’i unffurfiaeth.

Meddai Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd Celf a’r Cyfryngau yn PCYDDS: “Mae dewis Stacey ar gyfer yr arddangosfa fawreddog hon gan y Gymdeithas Gwydr Gyfoes yn gydnabyddiaeth wych o’i arbenigedd fel artist ac addysgwr.Mae ei waith yn dangos dealltwriaeth eithriadol o wydr fel deunydd ac yn adlewyrchu’r dull arloesol, a arweinir gan arfer, yr ydym yn ei werthfawrogi yn ein rhaglenni creadigol yn PCYDDS.”

Gellir dilyn gwaith ac arfer Stacey ar Instagram hefyd: @staceypoultney.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon