Un o radd-brentisiaid PCYDDS wedi'i enwi'n Brentis y Flwyddyn yng Ngwobrau Made in Wales 2026
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn dathlu llwyddiant y gradd-brentis Jacob Warren, sydd wedi’i enwi’n Brentis y Flwyddyn yng Ngwobrau mawreddog Made in Wales 2026, gan gydnabod ei gyflawniadau rhagorol mewn peirianneg, rhagoriaeth academaidd, ac ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol.
Mae Jacob, sy’n bedair ar bymtheg oed ac o Aberdâr, yn cael ei gyflogi gan Envases UK Ltd ym Mhort Talbot ac ar hyn o bryd mae’n astudio’r Radd-brentisiaeth BEng Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu yn PCYDDS.
Mae Gwobrau Made in Wales yn dathlu rhagoriaeth ar draws y maes gweithgynhyrchu yng Nghymru, gan gydnabod unigolion a sefydliadau sy’n helpu i yrru arloesedd, datblygu sgiliau, a thwf yn y diwydiant ledled Cymru.
Derbyniodd Jacob y wobr ar ôl datblygu system rheoli offer newydd a gynlluniwyd i wella cynllunio cynnal a chadw, rhannu gwybodaeth, a safoni prosesau ar draws y ffatri.
Dywedodd y beirniaid fod y wobr yn cydnabod ymroddiad Jacob i ddatblygu ei wybodaeth a’i sgiliau peirianyddol wrth gydbwyso’n llwyddiannus ofynion rôl amser llawn ag astudio yn y brifysgol.
Gan ddewis PCYDDS yn wreiddiol oherwydd enw da’r brifysgol a’r cyfle i gyfuno dysgu academaidd â phrofiad ymarferol yn y diwydiant, mae Jacob wedi sefydlu ei hun yn gyflym fel darpar beiriannydd addawol.
“Roeddwn i’n gweld PCYDDS fel cyfle gwych i ddatblygu’n academaidd wrth ennill profiad ymarferol gwerthfawr o fewn y diwydiant peirianyddol,” meddai.
Trwy ei brentisiaeth yn Envases UK Ltd, mae Jacob, a astudiodd hefyd yng Ngholeg Castell-nedd Port Talbot, wedi ennill profiad ar draws sawl maes o’r byd gweithgynhyrchu, gan ddatblygu dealltwriaeth eang o sut mae gwahanol adrannau a phrosesau’n gweithio gyda’i gilydd i gynnal effeithlonrwydd a pherfformiad ar draws y safle.
Ochr yn ochr â’i rôl o ddydd i ddydd, mae wedi cyfrannu at amrywiaeth o brosiectau gwelliant parhaus, gan gymhwyso egwyddorion peirianyddol i heriau’r byd go iawn wrth ddatblygu ei sgiliau datrys problemau a thechnegol.
Dywedodd Jacob mai un o agweddau mwyaf buddiol y rhaglen fu’r gallu i gysylltu theori academaidd â phrofiadau ymarferol yn y gweithle.
“Mae gallu deall y theori y tu ôl i’r prosesau a’r offer rwy’n dod ar eu traws yn y gwaith yn gwneud y dysgu’n arbennig o ddiddorol ac yn werth chweil,” meddai.
Canmolodd hefyd y cyfle i ddysgu ochr yn ochr â chyd-brentisiaid a chan ddarlithwyr â phrofiad helaeth yn y diwydiant.
“Mae’r cyfle i ddatblygu’n academaidd ac yn ymarferol ar yr un pryd wedi bod yn un o agweddau mwyaf gwerthfawr y cwrs.”
Mae cydbwyso terfynau amser prifysgol â chyfrifoldebau yn y gweithle wedi peri heriau, ond mae Jacob yn priodoli cynllunio gofalus, trefn a disgyblaeth am ei helpu i lwyddo.
“Mae rheoli terfynau amser academaidd ochr yn ochr ag ymrwymiadau yn y gweithle yn gofyn am drefniadaeth dda, rheoli amser, a disgyblaeth. Mae dysgu cydbwyso’r ddau wedi fy helpu i ddod yn fwy annibynnol, trefnus, a mwy hyderus yn fy ngallu fy hun.”
Mae’r brentisiaeth eisoes wedi cael effaith sylweddol ar ddatblygiad proffesiynol a phersonol Jacob, gan ehangu ei wybodaeth beirianyddol, cryfhau ei hyder, a gwella sgiliau megis rheoli amser a gweithio’n annibynnol.
Nod Jacob yw cwblhau ei radd gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf wrth barhau i ddatblygu ei brofiad o fewn Envases UK Ltd.
“Fy nod yw dod yn aelod hyderus a galluog o’r tîm peirianyddol, parhau i ehangu fy ngwybodaeth a’m profiad, a manteisio ar gyfleoedd i gymryd rhan mewn amrywiaeth o brosiectau ar draws y busnes,” meddai. “Yn y pen draw, gobeithiaf y bydd y cymhwyster yn agor cyfleoedd pellach i ddatblygu yn fy ngyrfa ac yn caniatáu i mi gyfrannu hyd yn oed mwy i’r cwmni.”
Dywedodd Mike Brown, Swyddog Cyswllt Prentisiaid PCYDDS: “Mae llwyddiant Jacob yn dyst i fanteision gradd-brentisiaethau a’r ymroddiad y mae wedi’i ddangos yn y gweithle ac yn ei astudiaethau. Mae cael ei enwi’n Brentis y Flwyddyn yng Ngwobrau Made in Wales yn gamp nodedig ac yn un sy’n adlewyrchu ei dalent, ei ymrwymiad a’i botensial fel darpar arweinydd ym maes peirianneg gweithgynhyrchu. Rydym yn hynod falch o’i gyflawniadau ac yn edrych ymlaen at weld ei yrfa’n parhau i ffynnu.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071