Un o raddedigion Abertawe ar restr fer Gwobr TEX+ mawr ei bri
Mae Sophie Drew sydd newydd raddio o Goleg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cael ei dewis ar gyfer TEX+ 26, rhaglen sbarduno gyrfa fawr ei bri a arweinir gan y diwydiant. Mae wedi cael ei dewis yn un o ddim ond 25 o ymgeiswyr yn y rownd derfynol i arddangos ei gwaith yng Ngholeg Celf Chelsea yn Llundain yr wythnos nesaf.
Graddiodd Sophie, 43, o Abertawe gyda BA (Anrh) Dylunio Patrymau Arwyneb a Thecstilau’r wythnos hon. Mae ei chasgliad graddedig, Glowgrove: The Understory, eisoes wedi denu cydnabyddiaeth sylweddol o’r diwydiant, gan ddilyn ei harddangosfa gyntaf lwyddiannus yn New Designers yn Llundain, lle derbyniodd wobr Ashley Loves a gwahoddiad i arddangos ei gwaith gyda Green Grads yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Mae TEX+ yn dathlu talent tecstilau sy’n dod i’r amlwg, gydag ymgeiswyr yn y rownd derfynol yn cyflwyno eu gwaith i weithwyr proffesiynol blaenllaw yn y diwydiant. Yn flaenorol, arddangosodd Sophie ei chasgliad yn Liberty Llundain fel rhan o’r broses feirniadu cyn cael ei dewis ar gyfer yr arddangosfa derfynol yng Ngholeg y Celfyddydau Chelsea.
Meddai Sophie: “Mae bod ar restr fer ar gyfer TEX+ a chael fy newis ar gyfer y rownd derfynol yn fraint anhygoel. Mae cyflwyno fy ngwaith i banel mor brofiadol a derbyn eu hadborth wedi bod yn brofiad gwirioneddol werthfawr. Mae arddangos fy ngwaith ochr yn ochr â chymaint o ddylunwyr talentog yng Ngholeg Celf Chelsea yn rhywbeth rwy’n hynod falch ohono.”
Roedd taith Sophie i fod yn raddedig arobryn ymhell o fod yn gonfensiynol. Yn fam i bump o blant ac yn gyn-gynorthwyydd addysgu, dychwelodd i addysg amser llawn ar ôl gwella o salwch difrifol yn ystod pandemig Covid, yn benderfynol o ddilyn ei hangerdd gydol oes dros gelf a dylunio.
“Ar ôl Covid, sylwais fod bywyd yn rhy fyr i beidio â dilyn yr yrfa roeddwn i wir ei heisiau,” meddai. “Mae astudio yng Ngholeg Celf Abertawe wedi newid fy mywyd yn llwyr. Mae wedi rhoi i mi’r hyder, y sgiliau a’r cyfleoedd i sefydlu fy hun yn ddylunydd patrymau arwyneb proffesiynol.”
Er bod y gydnabyddiaeth genedlaethol wedi bod yn uchafbwynt ei gyrfa, mae Sophie yn dweud mai un o agweddau mwyaf gwerth chweil ei gradd oedd dod yn rhan o gymuned glos Dylunio Patrymau Arwyneb a Thecstilau.
“Roeddwn i’n nerfus ar y dechrau gan fy mod i’n fyfyrwraig aeddfed, achos roedd rhai o’m gyd-fyfyrwyr yr un oedran a’m plant hynaf. Diflannodd y pryderon hyn yn gyflym. Ni allaf fod wedi gofyn am grŵp o bobl mwy croesawgar, cefnogol ac ysbrydoledig. Rwyf wedi gwneud ffrindiau bywyd, ac mae’r tiwtoriaid wedi bod yn ffynhonnell enfawr o anogaeth, arweiniad, a chyfeillgarwch trwy gydol fy nhaith. Rwyf wir yn meddwl na fyddaf wedi gallu cyflawni popeth rwyf wedi’i gyflawni hebddynt.”
Yn ogystal, derbyniodd Sophie gydnabyddiaeth yn y Gystadleuaeth Dylunio Patrymau Arwyneb I-Dott, cafodd fentoriaeth gyda Laura Ashley ar ôl cael ei dewis yn un o bump uchaf y brand ym Mrosiect SPTX Laura Ashely 100 Years of ân Icon, cafodd ei henwi’n Ail ar gyfer cydweithrediad Monki, ac arddangosodd waith yn Material Matters yn ystod Wythnos Ddylunio Llundain, yn ystod ei hamser yn astudio’r radd.
Mae bellach yn lansio ei busnes llawrydd, Sophie Drew Designs, ac yn gobeithio creu casgliadau patrymau arwyneb dychmygus ar gyfer y tu mewn, ffasiwn a nwyddau cartref ochr yn ochr â pharhau i gydweithio gyda brandiau trwy gyfleoedd trwyddedu.
Meddai Georgia McKie: “Mae TEX+ yn deillio o draddodiad arweinwyr creadigol eiconig y diwydiant sydd wedi ymrwymo i feithrin cenedlaethau’r dyfodol o ddylunwyr a gweledigaethwyr. Mae’n gyfle unigryw sy’n cynrychioli’r gorau o dalent tecstilau cenedlaethol graddedig. Rydym mor falch bod Sophie Drew a Lauren Stocks, dwy o’n myfyrwyr 3ydd blwyddyn wedi cael eu dewis ar gyfer yr anrhydedd hon, ac yn y pen draw dewiswyd Sophie fel rhan o’r garfan derfynol o 25 o ddylunwyr ar gyfer TEX+ 26.
“Bydd bod yn rhan o’r garfan unigryw hon a gwella ei rhwydwaith diwydiant creadigol a’i chymwysterau fel dylunydd o fudd mawr i Sophie ar y cam hwn yn ei gyrfa. Roedd yn foment falch iawn i’w gweld hi’n cynrychioli PCYDDS yn Arddangosfa TEX+26.
“Mae stori Sophie mor ysbrydol, mae wedi cyflawni cymaint dros ei thair blynedd gyda ni a gwybod ei bod wedi gwneud hyn ochr yn ochr â’i chariad a’i hymroddiad i’w theulu yn gwneud hyn yr un mor rhyfeddol. Mae mor werth chweil gweld y llwyddiant y mae wedi’i gyflawni: mae’n bwerdy o egni creadigol a llawenydd.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071