Un o raddedigion BA Dylunio a Chynhyrchu Set yn paratoi ar gyfer gyrfa greadigol mewn theatr a theledu
Mae Ashling Ryan, un o raddedigion y rhaglen BA Dylunio a Chynhyrchu Set ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn paratoi i ddechrau ei gyrfa yn y diwydiannau creadigol ar ôl ennill profiad diwydiant gwerthfawr, gan ddatblygu sgiliau arbenigol, ac adeiladu cysylltiadau proffesiynol trwy gydol ei gradd.
Roedd Ashling, sydd wedi mwynhau’r pynciau celf, dylunio a chreadigol erioed, yn gwybod ei bod eisiau gyrfa greadigol, ond, i ddechrau, nid oedd yn ymwybodol o’r ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael y tu ôl i’r llenni ym meysydd theatr, ffilm a theledu. Meddai:
“Rwyf erioed â diddordeb mewn cael swydd greadigol ac astudiais gelf a dylunio yn yr ysgol a’r coleg. Roeddwn i wrth fy modd â’r theatr a theledu, ond nid oeddwn yn gwybod am yr opsiynau gyrfa cefn llwyfan nes bod gwneud propiau a dylunio setiau wedi’u hawgrymu i mi.”
Er nad oedd hi’n sicr ar y dechrau ai prifysgol oedd y llwybr cywir iddi, roedd ymweld â PCYDDS wedi cadarnhau ei phenderfyniad.
“Roeddwn i wrth fy modd â threfn y cwrs, ac, ar ôl ymweld â’r campws, roeddwn yn gwybod mae hwn oedd lle roeddwn i eisiau astudio. Roedd maint dosbarthiadau llai yn golygu mwy o amser gyda’r darlithwyr ac roeddwn i’n hoffi nad oedd y campws mewn dinas fawr tra’n dal â mynediad hawdd i Abertawe a Chaerdydd.”
Roedd natur eang y cwrs wedi apelio at Ashling, gan ganiatáu iddi archwilio disgyblaethau gwahanol cyn penderfynu ble i ffocysu ei gyrfa.
“Roeddwn i’n hoffi’r ffaith fod y cwrs yn cwmpasu ystod eang o feysydd, felly roeddwn i’n gallu rhoi cynnig ar bethau gwahanol cyn arbenigo. Yn ogystal, roedd diddordeb gennyf ei fod yn cynnwys y theatr, ffilm a theledu, a’u bod yn profi pob cam o’r broses ddylunio a gwneud, o’r dyluniad cyntaf hyd at weld y set neu wisg orffenedig mewn perfformiad.”
Pan ddechreuodd hi’r cwrs, roedd Ashling yn gwybod ei bod eisiau gweithio yn y diwydiant, ond roedd hi’n dal i ddysgu pa rôl oedd yn gweddu orau iddi. Archwiliodd nifer o ddisgyblaethau cefn llwyfan, yn ystod ei hastudiaethau, gan ddatblygu diddordebau mewn celf golygfaol, gwneud propiau a rheoli llwyfan.
Daeth un o’i hatgofion mwyaf cofiadwy yn ystod ei blwyddyn olaf, pan gydweithiodd myfyrwyr o Ddylunio a Chynhyrchu Set ac Actio ar nifer o gynyrchiadau.
“Uchafbwynt y cwrs i mi oedd gweld pawb yn dod at ei gilydd i gwblhau ein sioeau terfynol. Roedd yn anhygoel gweld pa mor bell roedd pawb wedi dod ers i ni ddechrau ar y cwrs.”
Yn ogystal, darparodd y cwrs gyfleoedd helaeth ar gyfer profiad proffesiynol. Treuliodd Ashling dri mis yn Efrog Newydd mewn gwersyll celfyddydau perfformio arbenigol rhwng ei blwyddyn gyntaf a’i hail flwyddyn, lle peintiodd olygfeydd llwyfan a chyflwyno perfformwyr ifanc i dechnegau celf golygfaol.
Yn ddiweddar, gweithiodd gyda Theatr Cymru, yn peintio’r set ar gyfer Miss Prydderch cyn teithio Cymru gyda’r cynhyrchiad fel Cynorthwyydd Cynhyrchu (Propiau) gan gael profiad uniongyrchol o theatr deithiol.
Canolbwyntiodd brosiect ymchwil annibynnol Ashling ar gynaliadwyedd mewn gwneud propiau, gan archwilio opsiynau amgylcheddol cyfrifol i ddeunyddiau a dulliau traddodiadol, ochr yn ochr â gwaith ymarferol.
“Roedd yr ymchwil hwn wedi arwain at i mi gwblhau hyfforddiant Carbon Llythrennedd a fydd o fudd i mi wrth i mi ddechrau fy ngyrfa. Yn ogystal, mae wedi fy helpu i wneud cysylltiadau gwerthfawr o fewn y diwydiant sy’n rhannu fy niddordeb mewn cynaliadwyedd.”
Datblygodd Ashling yn bersonol yn ystod ei chyfnod yn astudio’r radd, gan oresgyn diffyg hyder a oedd wedi’i hatal rhag ymgymryd â heriau newydd yn flaenorol.
“Un o’r heriau mwyaf a wynebais oedd fy niffyg hyder. Roedd fy narlithwyr wedi fy annog yn barhau i gamu i tu allan i’r ffiniau sy’n gyfforddus i mi ac ymgymryd â rolau doeddwn i erioed wedi meddwl y gallwn eu gwneud.”
Erbyn ei blwyddyn olaf, derbyniodd Ashling rôl Rheolwr Llwyfan ar gyfer un o’r cynyrchiadau gradd, rhywbeth mae’n dweud y byddai byth wedi’i hystyried yn ystod ei blwyddyn gyntaf.
“Mae rheoli llwyfan un o’n sioeau olaf yn un o’r cyflawniadau rwy’n fwyaf balch ohono.”
Wrth adfyfyrio ar ei hamser yn PCYDDS, mae Ashling yn creu bod yr amgylchedd cefnogol a’r perthnasoedd agos â staff wedi gwneud gwahaniaeth arwyddocaol i’w phrofiad dysgu.
“Buaswn yn sicr yn argymell y cwrs hwn. Rwyt ti’n gallu archwilio llawer o feysydd gwahanol cyn arbenigo, a gan fod maint y dosbarthiadau’n fach, rwyt ti’n treulio llawer o amser gyda’r darlithwyr. Mae’n hawdd cysylltu â nhw hyd yn oed y tu allan i’r sesiynau sydd wedi’u hamserlenni ac maen nhw’n gwirio’n rheolaidd i weld os oes angen rhywbeth arnat ti.”
Mae’r cwrs wedi rhoi profiad diwydiant ymarferol i Ashling ochr yn ochr â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys trefnu, rheoli amser a hyder.
Wrth edrych tua’r dyfodol, mae Ashling yn bwriadu ail-leoli i Gaerdydd i ddilyn cyfleoedd fel arlunydd golygfaol neu wneuthurwr propiau, gan barhau i weithio cefn llwyfan neu hoffai weithio fel Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol.
“Rwyf wedi creu cysylltiadau gwerthfawr yn Ne Cymru ac wedi dysgu fy mod i wir yn mwynhau gwaith cynhyrchu cefn llwyfan hefyd. Rwy’n gyffrous i ddechrau fy ngyrfa a pharhau i ddatblygu’r sgiliau rwyf wedi’u hennill yn ystod fy amser yn PCYDDS.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476