Un o raddedigion Gwaith Ieuenctid PCYDDS yn gobeithio ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf
Mae un o’n graddedigion, y trawsnewidiwyd ei fywyd gan gefnogaeth gweithiwr ieuenctid, wedi dathlu cwblhau ei radd mewn Gwaith Ieuenctid ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), gydag uchelgais i ysbrydoli a chefnogi pobl ifanc sy’n wynebu eu heriau eu hunain.
Mae achlysur graddio Gethin Cardy yn nodi penllanw taith bersonol ryfeddol sydd wedi mynd ag ef o lencyndod anodd i yrfa sy’n ymroddedig i helpu eraill.
Wrth adfyfyrio ar ei flynyddoedd iau, dywedodd Gethin:
” Yn fy arddegau roeddwn i’n berson ifanc anniddig, yn gwneud beth oeddwn i eisiau pan oeddwn i eisiau. Roeddwn i’n ymwneud â throseddu ac ati i’r pwynt lle nad oeddwn yn poeni. Doeddwn i ddim yn berson pleserus iawn i fod o’i gwmpas a dyna sut yr oedd pethau. Newidiodd popeth pan wnes i gwrdd â’r gweithiwr ieuenctid Jo Price.”
Daeth Jo, oedd hefyd wedi graddio o PCYDDS, yn drobwynt ym mywyd Gethin, sy’n adlewyrchu nodwedd gyffredin o arfer gwaith ieuenctid.
“Newidiodd Jo fy mhersbectif, fy uchelgais a’m golwg ar fywyd yn llwyr. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, helpodd Jo fi i sylweddoli bod pobl yn naturiol yn cael eu denu at fy mhersonoliaeth ac anogodd fi i feddwl am waith ieuenctid fel gyrfa. Dyna oedd y sbarc.”
Ar ôl cwrdd ag Angharad Lewis, Rheolwr Rhaglen y cwrs Gwaith Ieuenctid yn PCYDDS, daeth uchelgais Gethin yn realiti.
“Gwnaeth y sgyrsiau hynny fy arwain at ble rydw i heddiw, yn graddio o PCYDDS.”
Ers dechrau ei astudiaethau, mae Gethin wedi gweithio gyda sefydliadau elusennol, Gwaith Ieuenctid Cyngor Sir Penfro a gwirfoddoli ar draws ystod o brosiectau cymunedol, gan adeiladu profiad gwerthfawr ochr yn ochr â’i astudiaethau academaidd.
Dewisodd astudio Gwaith Ieuenctid oherwydd ei fod eisiau cefnogi pobl ifanc sy’n wynebu’r mathau o heriau yr oedd ef ei hun wedi’u profi.
“Roeddwn i eisiau helpu pobl ifanc mewn sefyllfaoedd tebyg i’m profiadau fy hun. Mae’n rhoi balchder enfawr i mi fy mod yn eu hannog i dyfu a datblygu’n oedolion ifanc hyderus, yn union fel y gwnes i unwaith.”
Ac yntau’n byw gydag awtistiaeth a dyslecsia, mae Gethin yn cyfaddef nad oedd erioed wedi dychmygu y byddai’n mynd i brifysgol.
“Doedd gen i ddim disgwyliadau go iawn oherwydd roeddwn i’n ei chael hi’n anodd credu fy mod wedi sicrhau lle hyd yn oed. Roedd popeth am y brifysgol yn teimlo’n drech na mi ar y dechrau.”
Er iddo wynebu heriau academaidd sylweddol, dyfalbarhaodd Gethin, gan gwblhau ei radd dros bum mlynedd yn hytrach na’r tair blynedd traddodiadol. Trwy gydol ei astudiaethau, derbyniodd gefnogaeth amhrisiadwy gan uned Gwasanaethau Myfyrwyr a staff academaidd o raglen Gwaith Ieuenctid PCYDDS.
“Roedd pob blwyddyn yn dod â heriau ac roedd yna adegau pan oeddwn i’n amau fy ngalluoedd fy hun. Gwnaeth fy nhiwtor cymorth astudio, Fay, wahaniaeth anhygoel. Ni allaf ddiolch digon iddi am ei hamynedd, ei gofal a’r hyder y gwnaeth fy helpu i’w feithrin. Roedd y gefnogaeth gan y darlithwyr yr un mor rhagorol, roedden nhw’n dangos amynedd anhygoel ac yn credu ynof fi bob amser.”
Meddai Angharad Lewis:
“Rydym yn hynod falch o Gethin; mae ei wydnwch, ei ddilysrwydd a’i ymrwymiad di-ildio i werthoedd gwaith ieuenctid yn ei wneud yn esiampl ysbrydoledig o’r hyn y gellir ei gyflawni trwy benderfyniad ac ymdeimlad o bwrpas. Bydd pobl ifanc yn ffodus o gael Gethin yn weithiwr ieuenctid iddynt. Er bod gan y radd mewn gwaith ieuenctid y gallu i drawsnewid bywydau myfyrwyr, rhaid i ni hefyd gydnabod yr effaith sylweddol y bydd Gethin a’n graddedigion eraill yn ei chael ar bobl ifanc ac ar gymdeithas yn ehangach.”
Ymhlith uchafbwyntiau ei radd roedd dysgu am arfer gwaith ieuenctid proffesiynol, astudio seicoleg pobl ifanc a chymryd rhan mewn ymweliad astudio â’r Ffindir, lle bu myfyrwyr yn archwilio ymagweddau at waith ieuenctid, addysg a llesiant.
Chwaraeodd lleoliadau proffesiynol ran allweddol yn ei ddatblygiad hefyd, yn enwedig ei amser gyda Phrosiect Ieuenctid Dr Mz yng Nghaerfyrddin. Ychwanegodd:
“Yma rwy wedi gweld pobl ifanc yn profi llawer o sgiliau bywyd, yn adeiladu perthnasoedd ystyrlon a llawer mwy. Mae hyn wedi fy arwain i wirfoddoli, pan rwy’n gallu, hyd yn oed ar ôl cwblhau rhwymedigaethau gwaith maes fy astudiaethau.”
Wrth edrych yn ôl, dywed Gethin fod y radd wedi ei drawsnewid yn bersonol ac yn broffesiynol.
“Mae’r cyfleoedd rwy wedi’u cael trwy’r brifysgol wedi newid fy mywyd. Rwy wedi tyfu’n academaidd, yn bersonol ac yn broffesiynol, a byddaf bob amser yn ddiolchgar am bopeth y mae PCYDDS wedi’i roi i mi.”
Mae hefyd yn annog eraill sy’n ystyried addysg uwch i beidio â thanbrisio’r gefnogaeth sydd ar gael.
“Byddwn yn argymell PCYDDS yn fawr i unrhyw un sy’n ystyried mynd i addysg uwch. Nid yn unig am y cwrs y maent yn ei ddewis ond am y cyfle a’r gefnogaeth helaeth sy’n dod gan y brifysgol ei hun. O’r darlithwyr, y cymorth astudio, y gwasanaethau TG, y gwasanaethau llyfrgell - mae’r rhestr yn parhau o ran faint o gefnogaeth sydd ar gael yn PCYDDS sy’n gwneud y daith yn fwy pleserus a brwdfrydig.”
Wrth edrych ymlaen, mae Gethin yn bwriadu parhau i ddatblygu’n broffesiynol cyn cyfuno gwaith ieuenctid ag iechyd a ffitrwydd i gefnogi pobl ifanc mewn ffyrdd newydd ac arloesol.
“Fy nod yw cyfuno gwaith ieuenctid ag iechyd a ffitrwydd, gan helpu pobl ifanc na fyddai â mynediad at y cyfleoedd hyn fel arall. Rwy am roi’r un cyfle i eraill ag a roddwyd i mi a’u helpu i wireddu eu potensial eu hunain.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476