Skip page header and navigation

Mae gweithiwr proffesiynol profiadol ym maes  addysg yn Sir Gaerfyrddin wedi cryfhau ei arbenigedd mewn addysg gynhwysol ac Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ar ôl cwblhau gradd Meistr mewn Addysg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS). 

Jamer Barker in his cap and gown

Dywed James Barker, sydd â mwy na dwy flynedd ar hugain o brofiad mewn addysg, ac sydd bellach yn Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol parhaol yn un o ysgolion uwchradd mwyaf y sir, fod y rhaglen wedi cael effaith sylweddol ar ei arfer proffesiynol, ei ddatblygiad mewn arweinyddiaeth a’i ymrwymiad i wella deilliannau i ddysgwyr.

Mae profiadau James o addysg wedi bod yn ganolog i siapio ei yrfa a’i ymrwymiad i ddysgu cynhwysol. Ar ôl cael diagnosis ffurfiol o ddyslecsia yn ystod addysg uwch, datblygodd ddealltwriaeth gynyddol o’i anghenion dysgu ei hun a phwysigrwydd cymorth priodol wrth helpu pob dysgwr i wireddu ei botensial. 

Wrth adfyfyrio ar yr hyn mae wedi’i gyflawni, dywedodd James:

“Ni fyddai’r rhan fwyaf o bobl wedi disgwyl i fyfyriwr fel fi gwblhau gradd Meistr. Ond gyda phenderfyniad, cefnogaeth a gwytnwch, cyflawnais rywbeth y byddwn, ar un adeg, wedi tybio fyddai’n amhosibl.” 

Dechreuodd James ei daith Meistr yn PCYDDS wrth baratoi i ymgymryd â mwy o gyfrifoldebau arwain o fewn Anghenion Dysgu Ychwanegol. Ar ôl gweithio’n flaenorol fel Dirprwy Bennaeth Blwyddyn, roedd am ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o’r egwyddorion, y polisïau a’r arferion sy’n sail  i ddiwygio ADY yng Nghymru.

Bu’r cyfle i gyfuno astudiaeth academaidd â’i rôl broffesiynol yn arbennig o werthfawr.

Cwblhaodd yr ymchwil ar gyfer ei draethawd hir yn ei ysgol ei hun, gan ei alluogi i weithio ochr yn ochr â chydweithwyr ac archwilio’r ffactorau sy’n dylanwadu ar sut mae staff yn cefnogi dysgwyr ag anghenion ychwanegol. Ar yr un pryd, roedd yn symud i rôl CADY Dros Dro, gan ganiatáu iddo gymhwyso ei ddysgu’n uniongyrchol i’w arfer. Meddai: 

“Rhoddodd y rhaglen gyfle i mi adfyfyrio’n feirniadol ar fy arfer fy hun ac archwilio pa mor effeithiol mae ysgolion yn cefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.

“Roedd fy nod bob amser yn un ymarferol. Roeddwn i eisiau adnabod cryfderau a meysydd i’w datblygu o fewn fy lleoliad fy hun a chymhwyso’r hyn yr oeddwn yn ei ddysgu yn uniongyrchol i wella’r deilliannau i ddysgwyr.”

Fodd bynnag, roedd cwblhau’r radd ymhell o fod yn syml.

Roedd James yn cydbwyso cyflogaeth amser llawn ag astudiaeth ôl-raddedig, gyda llawer o hyn yn digwydd yn ystod pandemig COVID-19. Ynghyd â heriau dysgu o bell, newidiodd ei diwtor sawl gwaith, cwblhaodd gymhwyster ôl-raddedig ar wahân mewn trefniadau mynediad, symudodd dŷ bedair gwaith ac roedd yn ofynnol iddo ymgymryd â chyflwyniad helaeth i Gydnabod Dysgu Blaenorol drwy Brofiad (RPEL) yn ystod y rhaglen.

Wynebodd golled bersonol ddofn hefyd, gan golli ei riant a’i chwaer o fewn cyfnod o chwe mis.

Ar adegau, cwestiynai a fyddai’n gallu parhau.

Yr hyn a’i helpodd yn y pen draw i gwblhau’r rhaglen oedd y gefnogaeth a gafodd gan ei deulu, ei gydweithwyr a PCYDDS.

Dywed James bod y brifysgol yn darparu cefnogaeth arbennig, gan dynnu sylw at ba mor agos atoch a charedig yw’r staff, yn ogystal â’r adnoddau ymarferol sydd ar gael i fyfyrwyr.

Mae hefyd yn rhoi clod i’w wraig a’i deulu am eu hanogaeth a’u hyder a’i cariodd drwy rai o gyfnodau anoddaf ei astudiaethau.

Cyflwynodd ei draethawd ymchwil i’w deulu, ac yn arbennig i’w wraig, i gydnabod eu cefnogaeth.

James on the stage with the VC

Mae cwblhau’r radd Meistr wedi cryfhau hyder ac arfer proffesiynol James, gan ei helpu i ddod yn ymarferydd mwy adfyfyriol ac yn arweinydd cryfach ym maes Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Mae hefyd wedi atgyfnerthu neges y mae’n ei rhannu’n rheolaidd gyda’r bobl ifanc y mae’n gweithio gyda nhw. Meddai:

“Rwy’n dweud wrth bobl ifanc fod rhai pobl yn fy amau i, ar un adeg,  pan oeddwn i’n blentyn. Rwy hefyd yn dweud wrthyn nhw am yr athrawon, aelodau’r teulu a’r gweithwyr proffesiynol a fuddsoddodd amser ynof i ac a helpodd fi i wireddu fy mhotensial.

“Nid yw llwyddiant yn golygu peidio â wynebu rhwystrau. Mae’n golygu parhau er gwaethaf y rhwystrau hynny.”

Mae James bellach yn edrych ymlaen at ddatblygiad proffesiynol pellach, gan gynnwys cyfleoedd i arwain drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n gobeithio yn y pen draw ymgymryd â’r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP)  a dilyn ei uchelgais o ddod yn bennaeth ysgol gynradd.

I James, bydd graddio’n cynrychioli llawer mwy na chwblhau cymhwyster.

“Bydd yn foment arbennig, nid yn unig i mi, ond i’m plant a’m hwyrion. Mae’n cynrychioli penllanw blynyddoedd o waith caled ac yn dangos bod dysgu yn daith gydol oes.”

Dywedodd Dr Nanna Ryder, Cyfarwyddwr Rhaglen yr MA mewn Addysg (Cymru) yn PCYDDS:

“Mae wedi bod yn fraint wirioneddol cefnogi James ar ei daith tuag at radd Meistr. Mae wedi dangos gwydnwch, penderfyniad a dyfalbarhad aruthrol trwy gydol y cwrs, er gwaethaf heriau personol a phroffesiynol sylweddol. Mae ei lwyddiant yn deillio o ymrwymiad di-sigl i’w astudiaethau, gan fanteisio ar bob cyfle dysgu a gynigiwyd o fewn y cwrs,  gan gynnwys mynychu’r Gweithdy Ymchwil Cenedlaethol blynyddol,  yn ogystal â defnyddio cymorth ychwanegol gan y tiwtoriaid rhagorol yn yr Adran Gwasanaethau Myfyrwyr. Fel staff ar y rhaglen MA mewn Addysg (Cymru), a ariennir gan Lywodraeth Cymru, hoffem ei longyfarch ar ei lwyddiant ysgubol wrth gyrraedd ei nod o raddio ar y llwybr Anghenion Dysgu Ychwanegol. Dymunwn y gorau iddo hefyd yn ei yrfa yn y dyfodol.”

Mae James yn gobeithio y bydd ei stori yn ysbrydoli dysgwyr eraill, yn enwedig y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, i gredu yn eu potensial eu hunain.

“Mae’r cwrs yn eich herio i feddwl yn wahanol, datblygu’n broffesiynol ac ymdrechu’n barhaus i wella. Mae’n eich paratoi nid yn unig ar gyfer arweinyddiaeth a rolau arbenigol, ond hefyd ar gyfer dod yn addysgwr mwy meddylgar ac effeithiol.

“Nid yw eich amgylchiadau’n diffinio ble byddwch yn cyrraedd yn y pen draw. Nid yw llwyddiant yn ymwneud â pha mor gyflym rydych chi’n cyrraedd yno na hyd yn oed y radd rydych chi’n ei hennill. Yr hyn sydd bwysicaf yw eich bod yn parhau i symud ymlaen, yn goresgyn y rhwystrau o’ch blaen, ac yn gorffen y daith.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon