Skip page header and navigation

Mae Carl Daniels yn dathlu graddio gyda MA mewn Arfer Proffesiynol o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), gan nodi carreg filltir bwysig mewn gyrfa sy’n ymroddedig i addysg, chwaraeon, hamdden a gwasanaeth cyhoeddus. 

image of Carl Daniels

Mae cysylltiad Carl â’r Brifysgol yn ymestyn yn ôl dros ddau ddegawd.   Hyfforddodd fel athro yng Ngholeg y Drindod, cyn symud o addysgu i rolau chwaraeon a hamdden gyda’r awdurdod lleol.  Canolbwyntiodd ei waith ar gefnogi ysgolion a chymunedau i helpu mwy o bobl i ddod yn gorfforol egnïol.  

Wrth i’w yrfa ddatblygu i rolau arweinyddiaeth a rheoli, penderfynodd Carl ddatblygu ei sgiliau ymhellach trwy astudiaethau ôl-raddedig. Roedd dychwelyd i PCYDDS yn teimlo fel y cam nesaf naturiol iddo.  Meddai:  

“Dechreuais weithio mewn rolau arweinyddiaeth a rheoli, felly pan ddewisais ddatblygu fy hun ymhellach trwy astudio gradd Meistr, PCYDDS oedd y dewis naturiol.”  

Dewisodd Carl y cwrs MA mewn Arfer Proffesiynol oherwydd ei ddull hyblyg wedi’i bersonoli.  Yn hytrach na dilyn llwybr traddodiadol pwnc penodol, galluogodd y cwrs iddo deilwra ei ddysgu i’w rôl bresennol a’i uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol.  Ychwanegodd:  

“Roeddwn i’n hoffi’r ffaith bod yr MA mewn Arfer Proffesiynol yn canolbwyntio mwy ar fy anghenion unigol, gan alluogi’r modylau i gael eu teilwra i’m datblygiad yn fy rôl bresennol a’m dyheadau ar gyfer y dyfodol.”  

Ei nod canolog oedd datblygu dealltwriaeth ddyfnach o’i hun fel arweinydd a chryfhau ei alluoedd arweinyddiaeth.  Roedd Carl yn gobeithio y byddai’r datblygiad hwn yn fuddiol nid yn unig i’w yrfa ei hun, ond hefyd i’w dîm, y gwasanaethau maen nhw’n eu darparu ac yn y pen draw y cymunedau sy’n cael eu gwasanaethu trwy ei rôl yn yr awdurdod lleol.  

 Un o uchafbwyntiau’r cwrs oedd y cymorth a dderbyniodd gan ddarlithwyr wrth gydbwyso astudio’n rhan amser gyda swydd lawn amser a bywyd teuluol.  

“Roedd y darlithwyr wedi deall fy sefyllfa wrth i mi astudio’n rhan amser, gyda dyletswyddau plant ifanc a swydd lawn amser.  Nid wyf erioed wedi teimlo bod pwysau negyddol ar ran dyddiadau cau ac wrth i mi astudio ar y cwrs, roedd atebion cefnogol ar gael i mi bob amser. Roedd hyn wedi fy nghadw’n gysylltiedig a theimlo fy mod yn gallu rhoi o’m gorau.    

Meddai Sarah Loxdale, Uwch Ddarlithydd Fframwaith Arfer Proffesiynol PCYDDS: 

 Mae taith Carl yn enghraifft wych o sut y gall dysgu trwy brofiad rymuso gweithwyr proffesiynol i wneud newid ystyrlon yn eu sefydliadau eu hunain.  Mae wedi gallu cael mewnwelediadau gwerthfawr trwy ymgymryd ag ymchwil o fewn ei arfer ei hun, a gwella’r ffordd y mae gwasanaethau’n cael eu darparu i’r gymuned.  Rydym yn hynod falch o’i gyflawniadau a’r gwahaniaeth cadarnhaol y bydd ei waith yn parhau i’w wneud.” 

Profodd Prosiect Ymchwil Seiliedig ar Waith terfynol Carl i fod yn arbennig o heriol ac yn werth chweil.  Roedd y prosiect yn gofyn iddo ddatblygu sgiliau ymchwil newydd ac ymgymryd ag ymchwil o fewn ei wasanaeth ei hun, gan ddarparu mewnwelediad uniongyrchol i brofiadau cwsmeriaid.  

“Roedd yr ymchwil wedi fy ngalluogi i archwilio fy ngwasanaeth fy hun fel ymchwilydd mewnol, a roddodd fewnwelediad wyneb yn wyneb i mi gyda gwsmeriaid ynghylch sut rydym yn effeithio arnynt.   Cafodd hyn effaith ddofn arna i.” 

Roedd dychwelyd at astudiaethau academaidd ar ôl mwy nag 20 o flynyddoedd wedi cyflwyno heriau hefyd.  Roedd Carl wedi ei chael hi’n anodd ysgrifennu ei aseiniad cyntaf, yn enwedig gan nad oedd ei radd BA (Addysg) wreiddiol wedi’i strwythuro fel cwrs academaidd arferol.  Fodd bynnag, gyda chymorth gan ddarlithwyr a phenderfyniad dros lawer o nosweithiau hwyr, roedd yn gallu adeiladu hyder a chymryd balchder yn ei gyflawniadau.  

Wrth adfyfyrio ar effaith y cwrs, meddai Carl fod yr MA wedi cefnogi ei ddatblygiad proffesiynol o’r dechrau.  

“Roedd camau cynnar y cwrs yn ymwneud ag arweinyddiaeth, rheoli a newid, felly maen nhw’n sylfaenol.  Rwy’n meddwl ei fod yn allweddol deall eich hun, eich hoff arddulliau a’r hyn mae hynny’n ei olygu’n ymarferol.   Gallwch chi fod yn bwrpasol gyda’ch gweithredoedd, gan fod yn ddilys o hyd.  Rwyf wedi cymhwyso hyn yn barhaus ac yn teimlo fy mod yn arweinydd gwell oherwydd hynny.  

Byddai Carl yn argymell yr MA mewn Arfer Proffesiynol i’r rheiny sy’n barod cymryd perchnogaeth o’u dysgu.  

Mae’r cwrs yn cynnig dull adfywiol at ddysgu, gan roi’r hyblygrwydd i chi lywio eich datblygiad gyda chymorth darlithwyr rhagorol.  Mae’n annog meddwl annibynnol ac adfyfyrio gan eich helpu i adeiladu sgiliau sy’n uniongyrchol berthnasol i’ch rôl.  Os ydych yn cael eich cymell i dyfu a gwneud gwahaniaeth go iawn yn eich arfer, mae’n brofiad hynod werth chweil.” 

Meddai Lowri Harris, Rheolwr Rhaglen Fframwaith Arfer Proffesiynol yn PCYDDS: 

 “Rydym wrth ein boddau i weld Carl yn cyflawni’r garreg filltir arwyddocaol hon.  Mae’r MA mewn Arfer Proffesiynol wedi’i gynllunio i gefnogi gweithwyr proffesiynol profiadol i ddatblygu eu hunain mewn ffordd sy’n uniongyrchol berthnasol i’w rolau, ac mae Carl wedi cofleidio hynny’n llawn.  Mae ei ymrwymiad i ymchwil ac arfer adfyfyriol a’r ffordd mae’n cymhwyso ei ddysgu o fewn chwaraeon cymunedol a gwasanaeth cyhoeddus yn dangos wir effaith y rhaglen.” 

Os oes diddordeb gennych mewn datblygu eich arfer proffesiynol, mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer y cyfnod derbyn ym mis Hydref – anfonwch e-bost at ppf@uwtsd.ac.uk neu ewch i Fframwaith Arfer Proffesiynol | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant am ragor o wybodaeth. 


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon