Un o raddedigion PCYDDS yn dychwelyd i ysbrydoli'r to nesaf o beirianwyr chwaraeon moduro
Croesawodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) y cyn-fyfyriwr Nathanael Potts yn ôl i’r campws i rannu ei daith yrfa â myfyrwyr Peirianneg Chwaraeon Moduro presennol, gan bwysleisio sut lluniodd ei amser yn y Brifysgol ei lwybr i’r diwydiant modurol.
Ac yntau bellach yn gweithio yn Beiriannydd Dylunio ym Morgan Motor Company, dychwelodd Nathanael i siarad â myfyrwyr am ei brofiadau mewn addysg uwch, ei brofiad yn y diwydiant, a’r trawsnewidiad o fywyd myfyrwyr i yrfa broffesiynol mewn peirianneg.
Dechreuodd angerdd Nathanael am beirianneg yn yr ysgol pan ymunodd â thîm Greenpower ei ysgol. Rhaglen yw hon sy’n galluogi myfyrwyr i ddylunio, adeiladu a rasio ceir un sedd trydan ar gylchedau ledled y DU.
“O’r fan honno roeddwn i’n gwybod ei bod hi’n yrfa roeddwn i am ei dilyn ymhellach,” meddai.
Tyfodd ei ddiddordeb mewn Peirianneg Chwaraeon Modur hyd yn oed yn gryfach ar ôl mynychu Diwrnod Agored PCYDDS a gweld cyfleusterau ac adnoddau arbenigol y Brifysgol.
“Gwnaeth hyn fy narbwyllo i’n llwyr. O hynny ymlaen, roeddwn i’n benderfynol o astudio yn PCYDDS a gwneud yn fawr o’m profiad yn fyfyriwr,” meddai.
“Fy nodau a’m huchelgeisiau oedd, a dyma ydyn nhw o hyd, ymdrechu mewn gyrfa a diwydiant sy’n gwthio arloesedd ymlaen ac sy’n fy ngalluogi i fod y peiriannydd gorau y gallaf fod, gan ddatblygu dyluniadau newydd ac arloesol.”
Ers graddio, mae Nathanael, a anwyd yng Nghernyw, wedi parhau i adeiladu ar ei gyflawniadau academaidd a phroffesiynol. Wrth weithio ym Morgan Motor Company, cwblhaodd radd Meistr Ymchwil (MRes) yn PCYDDS yn llwyddiannus, gan arbenigo mewn CFD ac Aerodynameg, gan gryfhau ei arbenigedd a’i wybodaeth yn y sector peirianneg ymhellach.
Wrth adfyfyrio ar ei amser yn y Brifysgol, tynnodd Nathanael sylw at ddau brofiad amlwg a chwaraeodd ran sylweddol yn ei ddatblygiad yn beiriannydd.
“Y cyntaf oedd cael y cyfle i weithio gyda thîm rasio allanol sy’n datblygu aerodynameg y car i gynyddu perfformiad i’r eithaf. Ar ôl blwyddyn o weithio ar y car, erbyn hyn mae rhai o’r uwchraddiadau a ddyluniais i ar y cerbyd,” meddai.
“Yr ail oedd cael y cyfle i gynnal dadansoddiad aerodynamig ychwanegol ar gyfer Morgan Motor Company a theithio’r ffatri. Rhoddodd hyn ganfyddiad gwych i mi ar y diwydiant modurol a sut mae’r cwmni’n gweithredu. A nawr dyna ble rwy’n gweithio!”
Mae Nathanael yn cydnabod i natur ymarferol y cwrs Peirianneg Chwaraeon Moduro, ynghyd â mynediad at feddalwedd o safon y diwydiant a chymorth academaidd cryf, yn ffactorau allweddol yn ei lwyddiant.
“Byddwn i’n argymell y cwrs hwn i unrhyw un sydd â diddordeb mewn Peirianneg Chwaraeon Moduro. Mae’r profiad ymarferol rydych chi’n ei gael trwy gydol y cwrs yn anhygoel, yn ogystal â chael cyfle i ddatblygu sgiliau newydd gan ddefnyddio nifer o becynnau meddalwedd sy’n arwain y diwydiant. Mae’r cymorth a gewch chi gan ddarlithwyr heb ei ail.”
Ychwanegodd fod y cwrs wedi helpu i ddatblygu ei hyder a’i sgiliau technegol, gan ei alluogi i weithio’n effeithiol gyda thimau rasio a chefnogi datblygiad cerbydau ar y trac.
“Rhoddodd y cwrs hyder i mi yn fy maes penodol i fynd allan a chynorthwyo timau rasio i ddatblygu eu ceir ar y trac. Roeddwn i am barhau â’m hastudiaethau i gryfhau fy ngwybodaeth a’m dealltwriaeth ymhellach a’m paratoi fy hun yn well ar gyfer gyrfa mewn diwydiant.”
Mae dychweliad Nathanael yn dangos y cysylltiadau cryf rhwng PCYDDS a’r diwydiant, wrth roi canfyddiadau gwerthfawr i fyfyrwyr presennol ar y cyfleoedd sydd ar gael o fewn gyrfaoedd chwaraeon moduro a pheirianneg fodurol.
Meddai Dr Kerry Tudor, Uwch Ddarlithydd a drefnodd y ddarlith: “Mae bob amser yn werth chweil croesawu ein graddedigion yn ôl i rannu eu profiadau â’r to nesaf o beirianwyr.
“Mae taith Nathanael yn enghraifft wych o sut y gall y wybodaeth, y profiad ymarferol a’r cysylltiadau â diwydiant sy’n cael eu datblygu yn PCYDDS droi’n yrfa gyffrous mewn peirianneg. Gobeithio y bydd ei stori yn ysbrydoli ein myfyrwyr presennol i wneud yn fawr o’r cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071