Un o raddedigion PCYDDS yn profi nad yw hi byth yn rhy hwyr i wneud gradd yn y gyfraith
Mae mam i dri o blant o Abertawe wedi graddio o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yr wythnos hon, gan brofi nad yw hi byth yn rhy hwyr i gyflawni eich uchelgeisiau.
Graddiodd Teresa Kan, 39, o Abertawe, gyda gradd LLB yn y Gyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol ar ôl cydbwyso ei hastudiaethau â gwaith mewn gwasanaethau ariannol a magu ei theulu.
Ar ôl gadael yr ysgol uwchradd, aeth Teresa yn syth i waith heb ddilyn addysg uwch. Fodd bynnag, teimlai erioed ei bod hi wedi colli’r cyfle i astudio yn y brifysgol a phenderfynodd archwilio ei hopsiynau yn ddiweddarach mewn bywyd.
“Roeddwn i bob amser yn teimlo atyniad tuag at y Gyfraith oherwydd amrywiaeth y pwnc ac elfen ymarferol y cwrs,” meddai. “Fy nod i oedd ennill gradd yn y Gyfraith gan gydbwyso gwaith a magu teulu, gan ddangos hefyd i’m plant y gallwch chi gyflawni eich nodau ar unrhyw adeg mewn bywyd gyda phenderfyniad a gwaith caled.”
Dewisodd Teresa PCYDDS oherwydd natur ymarferol y cwrs ac enw da’r Brifysgol. Roedd ei gŵr wedi astudio yn y Brifysgol pan oedd dan yr enw Prifysgol Fetropolitan Abertawe, a dyma yntau hefyd yn ei hannog i gymryd y naid.
“Roedd fy ngŵr i wedi cael profiad wrth ei fodd, a rhoddodd ei atgofion cadarnhaol yr hyder i mi mai hwn oedd y lle iawn i mi ddechrau fy nhaith fy hun,” meddai.
Dechreuodd Teresa ei hastudiaethau yn ystod pandemig Covid-19, gan addasu i ddysgu ar-lein wrth addysgu dau o’i phlant gartref a gofalu am ei mab ieuengaf. Ar ôl cwblhau dwy flynedd gyntaf ei gradd, ataliodd ei hastudiaethau oherwydd ymrwymiadau gwaith cyn dychwelyd ym mis Hydref 2025 i gwblhau ei blwyddyn olaf.
“Roedd dychwelyd ar ôl sawl blwyddyn i ffwrdd yn frawychus, ond roeddwn i’n benderfynol o gwblhau beth roeddwn i wedi’i ddechrau,” meddai. “Roedd cydbwyso astudio amser llawn â gwaith rhan-amser a bywyd teuluol yn gofyn am wydnwch a threfniadaeth ond mae graddio wedi gwneud pob her yn werth chweil.”
Un o atgofion melysaf Teresa o PCYDDS oedd y croeso cynnes a gafodd gan ddarlithwyr pan ddychwelodd i gwblhau ei gradd.
“Ces i fy nghroesawu, yn llythrennol, â breichiau agored gan rai o’m cyn-ddarlithwyr, a dawelodd unrhyw bryderon oedd gen i ynglŷn â dychwelyd. Cadarnhaodd fy mod i wedi gwneud y dewis cywir, nid yn unig wrth ddod yn ôl i orffen fy astudiaethau ond hefyd wrth ddewis PCYDDS.”
Ochr yn ochr â datblygu ei gwybodaeth gyfreithiol, yn ôl Teresa, mae astudio wrth weithio mewn gwasanaethau ariannol wedi helpu i gryfhau ei sgiliau meddwl dadansoddol, cyfathrebu a datrys problemau, gan ganiatáu iddi ddefnyddio beth mae hi’n ei dysgu mewn lleoliad ymarferol.
Byddai’n annog eraill sy’n ystyried gyrfa yn y gyfraith i gymryd y cwrs.
“Mae’n cyfuno astudio academaidd â defnydd ymarferol, gan eich helpu chi i ddatblygu nid yn unig wybodaeth gyfreithiol ond hefyd yr hyder a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa yn y proffesiwn.”
Mae Teresa eisoes yn edrych ymlaen at gam nesaf ei haddysg. Bydd yn dychwelyd i PCYDDS ym mis Hydref i astudio ar gyfer MSc mewn Rheoli Ariannol, gyda’r nod o gyfuno ei harbenigedd cyfreithiol â’i phrofiad mewn gwasanaethau ariannol.
“Mae cwblhau fy ngradd wedi dangos i mi nad yw hi byth yn rhy hwyr i gyflawni eich uchelgeisiau, hyd yn oed os yw bywyd yn mynd â chi ar lwybr gwahanol am gyfnod. Rwy’n falch fy mod i wedi dal i lynu wrth fy nod i a nawr galla i ddathlu gyda fy nheulu. Rwy’n gyffrous i barhau â’m hastudiaethau a gweld ble bydd y bennod nesaf hon yn mynd â mi.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071