Skip page header and navigation

Mae angerdd am beirianneg a chwaraeon moduro wedi helpu Harvey Levell un o fyfyrwyr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), i sicrhau rôl i raddedig yn dylunio rhannau perfformiad ar gyfer ceir Jaguar clasurol a modern.

A student dressed in a blue shirt standing proudly by an exhibition of his work.

Bydd Harvey, sy’n 22 oed, yn byw yn Abertawe ac yn dod yn wreiddiol o Swydd Amwythig, yn graddio o PCYDDS ym mis Gorffennaf cyn dechrau ar ei swydd newydd fel Peiriannydd CAD Iau gyda SNG Barratt UK ar 2 Mehefin.

Yn y rôl, bydd Harvey yn gweithio ar ddylunio a datblygu cydrannau perfformiad cerbydau Jaguar, gan gyfuno ei frwdfrydedd dros chwaraeon moduro â’r sgiliau technegol a ddatblygwyd yn ystod ei astudiaethau.

Ar ôl cwblhau ei arholiadau Safon Uwch, nid oedd Harvey yn siŵr i ba gyfeiriad i fynd yn broffesiynol, er ei fod yn mwynhau mathemateg a phynciau ymarferol. Trwy arweiniad cynghorydd chweched dosbarth y darganfu’r cwrs Peirianneg Chwaraeon Moduro yn PCYDDS

 “Roedd gen i rywfaint o brofiad o fusnesau a thimau sy’n gysylltiedig â chwaraeon moduro ond doeddwn i ddim yn siŵr sut i fynd i mewn i’r diwydiant gyda chymwysterau Safon Uwch yn unig,” meddai Harvey.

 “Dangosodd cynghorydd yn y chweched dosbarth y cwrs Peirianneg Chwaraeon Moduro yn PCYDDS i mi, ac ar ôl mynychu diwrnod agored, roeddwn i’n gwybod mai dyma oedd y lle i mi.”

Dywedodd Harvey fod cyfleusterau modern, staff cefnogol, a diwylliant chwaraeon moduro cryf y Brifysgol wedi gwneud argraff barhaol.

 “Y darlithwyr y siaradais â nhw oedd y rheswm fwyaf dros ddod yma. Roedden nhw i weld yn wirioneddol frwdfrydig i addysgu ac roedd ganddynt eu hangerdd eu hunain am beirianneg a chwaraeon moduro.”

Trwy gydol ei astudiaethau, canolbwyntiodd Harvey nid yn unig ar gyflawni canlyniadau academaidd cryf ond hefyd ar ennill profiad ymarferol trwy dîm Rasio Chwaraeon Moduro (MCR) PCYDDS.

 “Yn fuan ar ôl ymuno, roeddwn i’n gwybod fy mod eisiau bod yn brif beiriannydd ar gar rasio, felly dyna oedd fy nod o’r flwyddyn gyntaf ymlaen.”

Un o ddigwyddiadau mwyaf nodedig gradd Harvey oedd ei brosiect annibynnol yn y drydedd flwyddyn, lle dyluniodd a gweithredodd arae mewnchwilydd Kiel pwrpasol ar gyfer profion aerodynamig ar y  car rasio MCR.

“Roedd gweld fy ngwaith a’m hymchwil fy hun yn cael ei weithredu mewn sefyllfa rasio yn y byd go iawn er mwyn dilysu rhagfynegiadau dynameg hylif cyfrifiadurol (CFD) yn brofiad a roddodd lawer o foddhad i mi.”

Ochr yn ochr â’i astudiaethau, enillodd Harvey hefyd brofiad gwerthfawr yn y diwydiant yn gweithio gyda’r arbenigwr chwaraeon moduro hanesyddol Martin Stretton Racing fel peiriannydd rasys.

Mae Harvey yn argymell y cwrs yn gryf i fyfyrwyr y dyfodol.

 “Mae wedi datblygu fy ngwybodaeth am beirianneg, mecaneg, a realiti’r diwydiant yn enfawr. Mae’r darlithwyr yn gefnogol iawn yn academaidd ac yn broffesiynol, gan helpu myfyrwyr i ennill profiad gwaith a chyfleoedd cyflogaeth.”

Ychwanegodd: “Trwy gael mynediad i’r twnnel gwynt addysgol a’r offer labordy cefais brofiad ymarferol y mae cyflogwyr yn chwilio amdano.”

Ochr yn ochr â’i rôl i raddedigion newydd yn SNG Barratt, mae Harvey yn bwriadu parhau i weithio ar y penwythnosau gyda thîm rasio hanesyddol i ddatblygu ei sgiliau a’i wybodaeth am y diwydiant ymhellach.

 “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau fy ngyrfa yn gwneud rhywbeth rydw i’n wirioneddol angerddol amdano.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon