Uwch Barafeddyg yn graddio o PCYDDS ar ôl arwain gwelliant diogelwch cleifion cenedlaethol
Mae Uwch Barafeddyg gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi graddio o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) ar ôl cwblhau’r rhaglen Arfer Proffesiynol (Arweinyddiaeth yn y Gwasanaethau Brys). Yn ystod ei hastudiaethau, datblygodd Nadine Thomson brosiect diogelwch cleifion sydd bellach wedi’i fabwysiadu’n genedlaethol ar draws Gwasanaeth Ambiwlans Cymru gan helpu i wella arfer clinigol rheng flaen ar draws Cymru.
Astudiodd Nadine Thomson, sydd wedi gweithio yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru ers sawl blwyddyn, ar y rhaglen fel rhan o’i datblygiad proffesiynol er mwyn cryfhau ei sgiliau arwain a gwella ei dealltwriaeth o newid sefydliadol.
Roedd y rhaglen a gefnogwyd gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru wedi galluogi Nadine i archwilio arweinyddiaeth, rheoli, y diwylliant sefydliadol a rheoli newid gan gymhwyso ei dysgu’n uniongyrchol i heriau gwirioneddol yn y gwasanaethau brys. Meddai:
“Fy nod oedd datblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyder a oedd eu hangen i ddod yn arweinydd mwy effeithiol yn y gwasanaeth ambiwlans. Roeddwn i eisiau cael dealltwriaeth well o sut y gellir gweithredu newid llwyddiannus o fewn sefydliadau cymhleth a sut y gall arweinyddiaeth ddylanwadu ar brofiadau staff a chanlyniadau cleifion. Yn ogystal, roeddwn i eisiau defnyddio’r cyfle i gyflwyno prosiect gwella ystyrlon a fyddai’n cael effaith gadarnhaol ar arfer rheng flaen.”
Fel rhan o’r rhaglen, datblygodd Nadine brosiect newid a ganolbwyntiodd ar weithredu rhestr wirio ataliad y galon yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru. Datblygodd y prosiect y tu hwnt i aseiniad academaidd i fenter gwella gweithredol gan dynnu ar theori arweinyddiaeth, arfer seiliedig ar dystiolaeth ac ymgysylltiad helaeth â rhanddeiliaid.
Ers hynny, mae’r rhestr wirio wedi’i mabwysiadu’n genedlaethol gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru, gan ddarparu dull cyson i glinigwyr rheng flaen o reoli digwyddiadau ataliad ar y galon gan ddangos sut y gall ymchwil academaidd ddylanwadu’n uniongyrchol ar ofal cleifion. Ychwanegodd:
“Mae’r hyn a ddechreuodd yn brosiect academaidd wedi datblygu’n fenter gwella ymarferol sydd wedi ennill cefnogaeth sefydliadol. Yna, ar ôl hynny, fe’i gweithredwyd yn genedlaethol ar draws Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Roedd gweld syniad yn symud ymlaen o waith cwrs i arfer cenedlaethol yn hynod werth chweil a dangosodd sut y gall arweinyddiaeth, cydweithio a newid seiliedig ar dystiolaeth ddylanwadu’n uniongyrchol ar ofal cleifion.”
Wrth adfyfyrio ar effaith y rhaglen, dywedodd Nadine fod y profiad wedi cryfhau ei galluoedd proffesiynol a’i hyder personol.
“Yn broffesiynol, rhoddodd y cwrs yr offer a’r hyder i mi arwain prosiect newid o’r cysyniad hyd at ei weithredu. Chwaraeodd yr wybodaeth a gafwyd ynghylch arweinyddiaeth, ymgysylltiad â rhanddeiliaid a rheoli newid rôl allweddol wrth gefnogi datblygiad llwyddiannus y prosiect rhestr gwirio ataliad y galon.
“Y canlyniad mwyaf sylweddol yw bod y rhestr wirio a ddatblygwyd fel rhan o’m hastudiaethau wedi cael ei mabwysiadu’n genedlaethol gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru. Mae gwybod bod prosiect a gynhaliwyd yn ystod y cwrs wedi dylanwadu ar arfer ar draws y sefydliad yn rhywbeth rwyf yn hynod falch ohono.
“Yn bersonol, mae’r cwrs wedi gwella fy hyder, fy meddwl beirniadol a’m gallu i fynd i’r afael â heriau cymhleth mewn ffordd strwythuredig sy’n seiliedig ar dystiolaeth.”
Rhoddodd Nadine glod i gefnogaeth ei chydweithwyr a’i mentoriaid am helpu i wneud y prosiect yn llwyddiant.
“Hoffwn ddiolch i Julie, ein harweinydd cwrs a’m rheolwyr Ieuan a Dai, am eu hanogaeth a’u cymorth trwy gydol y prosiect hwn. Hoffwn ddiolch i dîm yr Uwch Parafeddygon a’m cydweithwyr ar draws Gwyneth ac Ynys Môn a gymerodd yr amser i gwblhau fy arolwg a rhannu eu profiadau hefyd. Roedd eu mewnbwn yn amhrisiadwy wrth ddatblygu’r rhestr wirio.”
Meddai Julie Crossman, Arweinydd y Cwrs:
“Rwyf wrth fy modd i weld prosiect newid Nadine yn cael ei gydnabod a’i fabwysiadu gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Mae ei gwaith yn dangos y gorau o addysg arfer proffesiynol; sef adnabod her sefydliadol go iawn, dyfeisio cynllun rheoli newid cadarn a chymhwyso arweinyddiaeth a luniwyd gan dystiolaeth a dulliau rheoli newid i’r gweithle. Rwy’n credu bod gwaith Nadine wedi cyflwyno canlyniad a fydd yn cael effaith wirioneddol ar staff clinigol a gofal cleifion ar draws Cymru.
“Mae cyflawniad Nadine yn arbennig iawn, ac mae sefyll ochr yn ochr â gwaith llawer o Uwch Barafeddygon sydd wedi cwblhau’r rhaglen TystAU dros yr wyth carfan ddiwethaf. Mae pob myfyriwr wedi ymgymryd â phrosiect newid arwyddocaol sydd wedi’i gynllunio i wella arfer o fewn ei gyd-destun ei hun, ac rwy’n hynod falch o’r ymrwymiad, y creadigrwydd a’r proffesiynoldeb mae pob un wedi’u cyflwyno i’r broses honno, yn enwedig wrth ystyried natur hynod heiriol eu rolau proffesiynol. Mae llwyddiant Nadine yn dangos yr hyn sy’n bosibl pan fydd unigolion yn cael eu grymuso i arwain newid cadarnhaol yn eu sefydliadau, a hoffwn estyn fy llongyfarchiadau i Nadine a’i chyd Uwch Barafeddygon sy’n graddio eleni.”
Am ragor o wybodaeth am Fframwaith Arfer Proffesiynol PCYDDS, ymwelwch â’r dudalen hon, neu anfonwch e-bost at ppf@uwtsd.ac.uk
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476