Y brifysgol yn dathlu graddedigion cyntaf y Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Treftadaeth
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o ddathlu carreg filltir academaidd bwysig wrth i Dr Olatunji Offeyi raddio, ac ef yw’r myfyriwr cyntaf i dderbyn dyfarniad a graddio o’r Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Treftadaeth
Dyfarnwyd y Ddoethuriaeth Broffesiynol, mewn Treftadaeth yn ffurfiol i Dr Offeyi ar 19 Ionawr 2026, wedi iddo gyflwyno ei gywiriadau terfynol yn llwyddiannus. Roedd ymhlith y myfyrwyr cyntaf un i gofrestru ar y rhaglen pan lansiwyd hi ym mis Hydref 2022, gan ddewis y llwybr dysgu o bell, llawn amser.Arweinir y rhaglen gan Dr Katharina Zinn, Rheolwr Rhaglen, ac mae’n cyfuno dulliau a danategir yn ddamcaniaethol ym maes astudiaethau treftadaeth â ffocws cymhwysol a phroffesiynol cadarn.Cyfarwyddwr Astudiaethau Dr Offeyi oedd yr Athro Bettina Schmidt, a’i goruchwylydd oedd Ryan O’Byrne.
Mae ei Draethawd doethuriaeth, Nollywood: Challenges, Heritage Practice and Storytelling, yn archwilio treftadaeth Nigeria trwy lens ffilm, gan osod Nollywood yn faes ymholi academaidd ac yn archif diwylliannol byw. Mae’r ymchwil yn archwilio diwydiant ffilm Nigeria a diwydiannau cysylltiedig yn ffurfiau hanfodol o dreftadaeth ddiwylliannol, adrodd straeon a chof, wedi’u gwreiddio’n ddwfn ym mhrofiad byw a chefndir proffesiynol Dr Offeyi ei hun.
Gan adfyfyrio ar ei gyrhaeddiad, meddai Dr Olatunji Offeyi:
“Rwy’n eithriadol o falch o fod yn fyfyriwr graddedig cyntaf Doethuriaeth Broffesiynol mewn Treftadaeth PCYDDS. Mae’r rhaglen wedi fy symbylu’n ddeallusol, fy nghyfoethogi yn broffesiynol ac wedi bod yn ystyrlon yn bersonol.Mae astudio yn PCYDDS wedi bod yn brofiad gwirioneddol gadarnhaol ac fe wnaeth y cymorth academaidd, hyblygrwydd y llwybr dysgu o bell, yr anogaeth i ddilyn ymchwil sy’n cysylltu ysgolheictod ag arfer diwylliannol byd go iawn y daith hon yn un trylwyr a boddhaus. Rwy’n ddiolchgar tu hwnt i’m goruchwylwyr ac i dîm y rhaglen yn ehangach am eu harweiniad ac am gredu yn fy ngwaith.”
Yn newyddiadurwr-fardd Nigeraidd-Prydeinig sydd wedi ennill gwobrau ac yn Gymrawd Salzburg Global, ganed Dr Offeyi yn Lagos, Nigeria, ac mae e wedi adeiladu gyrfa nodedig ar draws meysydd newyddiaduraeth, llenyddiaeth, polisi cyhoeddus a sylwebaeth ddiwylliannol. Ef yw awdur Echoes from the Soul a Many People: Different Tales, ac mae ei waith wedi dylanwadu ar drafodaethau a pholisi cyhoeddus, gan gynnwys annog llywodraeth Nigeria i weithredu yn dilyn cyhoeddi ei stori fer Pleasures of the Night. O ganlyniad i’r gwaith cydweithredol â Television for the Enviri=onment (TVE) UK cyhoeddwyd Filming Against Poverty.
Mae Dr Offeyi yn meddu ar MA mewn Cysylltiadau Rhyngwladol o Brifysgol Swydd Stafford, BA mewn Llenyddiaeth o Lagos State University, a thystysgrifau ychwanegol o Brifysgol Rhydychen a Central European University. Bu’n arfer newyddiaduraeth am nifer o flynyddoedd yn Lagos, gan ysgrifennu’n bennaf i gylchgrawn The Week, ble cyfwelodd â ffigurau blaenllaw o fyd sinema, academia a diwydiant adloniant Nigeria, gan gynnwys actorion a chynhyrchwyr Nollywood. Hefyd, mae’n arbenigo mewn ymgynghori ar bolisi cyhoeddus a dadansoddi gwleidyddol, gyda ffocws ar wleidyddiaeth Gorllewin Affrica, Prydain ac Ewrop.
Wrth siarad am gyflawniad Dr Offeyi, meddai Dr Katharina Zinn, Rheolwr Rhaglen y Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Treftadaeth:
“Roedd cefndir academaidd, proffesiynol a chreadigol amlweddog Dr Offeyi yn golygu ei fod yn ymgeisydd eithriadol o gryf ac addas ar gyfer y Ddoethuriaeth Broffesiynol arloesol hon. Mae ei benderfyniad i ymchwilio i ffilm fel treftadaeth ddiwylliannol yn dangos ymagwedd eang a chynhwysol y rhaglen gan gydnabod ffilmiau yn gofnodion hanfodol o hanes dynol, gwerthoedd cymdeithasol a mynegiant artistig. Mae’r gwaith hwn yn dangos sut mae treftadaeth yn gallu cwmpasu hunaniaeth, cof, bywyd bob dydd a ffurfiau diwylliannol cyfoes. Yn un o ddim ond dwy Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Treftadaeth yn y DU, mae’n bleser gennym ddathlu ein myfyriwr graddedig cyntaf a llwyddiant y rhaglen ei hun.”
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467076