Skip page header and navigation

Croesawodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) gynulleidfa frwdfrydig i’w prynhawn agored diweddar, Ships, Trees and Roof Trusses, a gynhaliwyd yn Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen ar gampws Llambed. 

DR Rod Bale sitting at the front of the room with large audience listening to his talk

Buodd y digwyddiad yn llwyddiant mawr, gan ddenu nifer dda o ymwelwyr oedd â diddordeb mewn hanesion cudd pren a’r straeon sydd wedi’u hymgorffori mewn adeiladau hanesyddol.

Cafodd y gwesteion fwynhau sgwrs ddiddorol a gwybodus gan yr archeolegydd Dr Rod Bale, a gyflwynodd ei ymchwil i goed llongau’n cael eu hailddefnyddio yn Abertawe cyfnod hwyr Sioraidd. Gan ddefnyddio’i waith yn Cambrian Place, esboniodd Dr Bale sut roedd adeiladwyr y 19eg ganrif gynnar yn cyfuno deunyddiau a achubwyd oddi ar longau â phren a fewnforiwyd, gan ddatgelu trawstoriad cyfoethog o ddiwydiant lleol a masnach fyd-eang.

Gan adfyfyrio ar ei ymchwil, meddai Dr Bale: 
“Mae ein gwaith yn Cambrian Place yn dyddio’n union gymysgedd o bren llongau a ailddefnyddiwyd a phren conwydd wedi’i fewnforio, sy’n datgelu sut y defnyddiodd adeiladwyr Abertawe iardiau torri llongau a chysylltiadau masnach bren byd-eang ar ddechrau’r 19eg ganrif. Mae’n gipolwg goleuedig ar orffennol y ddinas a’r straeon sydd wedi’u cuddio yn ei hadeiladau hanesyddol.” 

Fe wnes i fwynhau’n fawr y cyfle i rannu’r gwaith hwn wyneb yn wyneb â chynulleidfa mor frwdfrydig a’r drafodaeth fywiog a ddilynodd.”

Dr Roda Bale with guests at the lecture standing by a table discussing the timber samples

Cafodd y rhai a oedd yn bresennol hefyd y cyfle i weld amrywiaeth o samplau o bren a dysgu am y technegau gwyddonol a ddefnyddiwyd i’w dadansoddi, gan gynnwys dendrocronoleg. Amlygodd Dr Bale sut gall dyddio cylchoedd coed ddatgloi llinellau amser manwl gywir a dyfnhau ein dealltwriaeth o dreftadaeth bensaernïol, gan gynnig safbwyntiau ffres ar adeiladau hanesyddol cyfarwydd.

Gosododd y sgwrs ddatblygiad Abertawe mewn cyd-destun hanesyddol ehangach, gan olrhain trawsnewidiad y Twyni o gomin hynafol i ardal lan-y-môr ffasiynol ar ddechrau’r 19eg ganrif. Clywodd yr ymwelwyr sut y gwnaeth yr ardal ffynnu fel cyrchfan boneddigaidd, yn cynnal regatas, rasys a chasgliadau cymdeithasol, cyn datblygu ochr yn ochr â thwf diwydiant morol ac yn ymdrechion adfywio sy’n parhau i siapio’r glannau hyd heddiw.

Adfyfyriodd Sian Collins, Pennaeth y Casgliadau Arbennig yn PCYDDS, ar lwyddiant y digwyddiad:

“Roedd yn bleser gennym groesawu cynulleidfa mor arbennig i’r llyfrgell. Cafwyd prynhawn i’w gofio, diolch i sgwrs Rod a’i samplau pren diddorol. Yn siaradwr allanol cyntaf y gyfres hon o Ddiwrnodau Agored, fe osododd gynsail ardderchog, ac rydym yn edrych ymlaen at gynnal digwyddiadau pellach fel hyn yn y dyfodol.”

I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau sydd ar y gweill, cysylltwch â Ruth Gooding yn r.gooding@uwtsd.ac.uk 


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon