Y Drindod Dewi Sant yn cynnal Diwrnod Her Gwasanaethau Cyhoeddus a Chyfreithiol i fyfyrwyr Blwyddyn 12
Croesawodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant chwe thîm o fyfyrwyr Blwyddyn 12 o ysgolion a cholegau lleol i’w Champws y Glannau yn Abertawe yn ddiweddar i gymryd rhan mewn ystod o heriau cystadleuol.

Pwrpas y diwrnod oedd dod â myfyrwyr sy’n astudio gwasanaethau cyhoeddus ar hyn o bryd at ei gilydd neu sydd â diddordeb brwd mewn astudio Plismona Proffesiynol, Troseddeg neu’r Gyfraith yn y dyfodol. Roedd hefyd yn gyfle i fyfyrwyr ymweld â champws y Brifysgol i gael dealltwriaeth o beth allai bywyd Prifysgol fod.
Trefnwyd y diwrnod gan dîm Ehangu Mynediad y Brifysgol gyda chefnogaeth ar gyfer yr heriau gan ddarlithoedd a chynrychiolwyr o Heddlu De Cymru. Roedd yr ystod o weithgareddau yn cynnwys ystafell ddianc ymgdrochol, tasg stopio a chwilio a gweithgaredd ystafell llys lle cymerodd myfyrwyr rolau gweithwyr proffesiynol mewn lleoliad ystafell llys i ennill pwyntiau i’w tîm.
Dilynwyd y rhain gan sesiwn Holi ac Ateb a oedd yn caniatáu i fyfyrwyr gwestiynu’r academyddion niferus a oedd yn bresennol am gyrsiau a llwybrau’r dyfodol. Cafwyd ymweliad gan yr Heddlu Marchogol ar ddiwedd y dydd i groesawiad cynnes iawn gan gyfranogwyr a threfnwyr fel ei gilydd.
Myfyrwyr o Ysgol yr Esgob Vaughan a Choleg Gŵyr oedd yn fuddugol ar y diwrnod, a brofodd bod cyfathrebu a chydweithio yn allweddol i lwyddiant! Cyflwynwyd cwpan yr enillydd iddynt gan Bronwen Williams, Cyfarwyddwr Academaidd yr Academi Golau Glas, a ddywedodd:
“Mae’r digwyddiad hwn bellach yn ei ail flwyddyn ac rwy’n falch iawn o weld pa mor frwdfrydig oedd y myfyrwyr ym mhob un o’r tasgau. Mae’r tîm wedi gweithio’n galed i lunio sesiynau rhyngweithiol i’r myfyrwyr gael rhywfaint o fewnwelediad i’r gyfraith, troseddeg a phlismona ac i ddatblygu sgiliau allweddol sy’n ofynnol ar gyfer proffesiynau o’r fath. Llongyfarchiadau i’r tîmau buddugol.”
Dywedodd Steven Thomson, Darlithydd Gwasanaethau Cyhoeddus o Goleg Castell-Nedd Port Talbot:
“Roedd yn ddigwyddiad pleserus dros ben i’r myfyrwyr a llwyddwyd i ddefnyddio’r sgiliau y maent wedi bod yn dysgu amdanynt yn y Gwasanaethau Cyhoeddus mewn digwyddiad trefnus iawn i’r myfyrwyr addysg bellach.”
Dywedodd Erin, myfyriwr o Goleg Castell-Nedd Port Talbot:
“Roedd hi’n ddiwrnod pleserus yn y Brifysgol. Cawsom lwyth o gyffro a phrofiadau bywyd go iawn gydag ystafell y llys a phrofiad ymdrochol.”
Dywedodd Rebecca Mugford, Darlithydd Gwasanaethau Cyhoeddus o Goleg Gŵyr:
“Roedd y Diwrnod Gwasanaeth Cyhoeddus a Chyfraith yn gyfle gwych i’n dysgwyr. Roedd y profiadau ymarferol yn dysgu llawer iddynt am yr hyn y gall Y Drindod Dewi Sant ei gynnig a’r elfen gystadleuol yn ei gwneud yn bleserus”.
Dywedodd Amanda Morgan, Darlithydd Gwasanaethau Cyhoeddus o Goleg Sir Gâr:
“Roedd y diwrnod yn bleserus iawn ac yn brofiad da i’n dysgwyr ddarganfod mwy am rôl ynadon, pwerau stopio chwilio’r heddlu yn ogystal â chael y cyfle i drochi eu hunain yn y cyfleusterau sydd gan y brifysgol i’w cynnig pe baent yn penderfynu symud ymlaen i addysg uwch”.
Dywedodd Owen sy’n fyfyriwr yng Ngholeg Sir Gâr: “Roedd yn dda gweld arddangosiadau gan swyddogion yr heddlu ac mae pawb yn gyfeillgar yn y Brifysgol”.
Dywedodd Carl Walker, pennaeth cynorthwyol Ysgol Bishop Vaughan:
“Roedd ein myfyrwyr yn gweld y diwrnod yn addysgiadol iawn. Fe wnaethon nhw fwynhau’r profiad trochi a chael cipolwg gwerthfawr ar waith yr heddlu a’r system gyfreithiol”.
Dywedodd Nia ac Eva, myfyrwyr Ysgol Bishop Vaughan:
“Mae gan y ddwy ohonom ddiddordeb mewn gwasanaethau cyhoeddus ac mae’r profiad hwn wedi rhoi gwybodaeth i ni a’n helpu i lunio ein dyfodol”.
Oriel









Gwybodaeth Bellach
Eleri Beynon
Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07968 249335