Y Drindod Dewi Sant yn penodi Arweinydd Seiberddiogelwch Rhyngwladol Elliott Atkins yn Athro Ymarfer
Mae’n bleser gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gyhoeddi penodiad Elliott Atkins, Rheolwr Gyfarwyddwr Exercise3 Limited, yn Athro Ymarfer. Mae’r penodiad hwn yn cryfhau ymgysylltiad y Brifysgol ag arweinwyr diwydiant ac yn darparu mynediad uniongyrchol i fyfyrwyr at arbenigedd arloesol mewn seiberddiogelwch a gwytnwch digidol.
Dyfernir y teitl Athro Ymarfer i gydnabod unigolion o ragoriaeth academaidd a phroffesiynol sylweddol y mae eu harbenigedd yn ategu bwriadau strategol a chenhadaeth y Brifysgol. Mae penodiad Elliott yn adlewyrchu ei gyfraniad eithriadol i faes seiberddiogelwch a’i ymrwymiad i hyrwyddo ymarfer proffesiynol, addysg a chydweithrediad yn y diwydiant.
Un o Gymrodyr Cymdeithas Gyfrifiadurol Prydain yw Elliott ac fe’i penodwyd gan Ei Mawrhydi y Frenhines yn Brif Swyddog Diogelwch Gwybodaeth cyntaf ar Weision y Frenhines yn 2021. Ers 2014, mae wedi gwasanaethu’n Rheolwr Gyfarwyddwr Exercise3 Limited, yn un o ddarparwyr sicr y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) ym maes ymarfer seiberachosion. Mae’r cwmni’n defnyddio efelychiadau realistig, sy’n seiliedig ar senarios i helpu sefydliadau i brofi a chryfhau eu parodrwydd ar gyfer seiberachosion a’u gwytnwch.
Meddai Kapilan Radhakrishnan, Cyfarwyddwr Academaidd (Cyfrifiadura Cymhwysol): “Mae penodiad Elliott yn Athro Ymarfer yn adlewyrchu ein hymrwymiad i bontio rhagoriaeth academaidd ag arweinyddiaeth broffesiynol yn y byd go iawn. Mae ei brofiad ar y lefelau uchaf o seiberddiogelwch cenedlaethol a rhyngwladol, o’r llywodraeth i seilwaith critigol a chymunedau ymateb i ddigwyddiadau byd-eang, yn dod â chanfyddiad eithriadol i’n myfyrwyr a’n staff.
“Rydyn ni’n falch o groesawu Elliott i’r Brifysgol ac edrychwn ymlaen at yr effaith y bydd ei arbenigedd yn ei chael ar ein partneriaethau addysgu, ymchwil a diwydiant.”
Meddai Elliott: “Rwy’n falch iawn o gael fy mhenodi’n Athro Ymarfer ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at rannu canfyddiadau a phrofiad o’r byd go iawn â myfyrwyr, academyddion ar ddechrau gyrfa, a staff, yn ogystal â chyfrannu i ddatblygu’r cwricwlwm ar draws y rhaglenni Cyfrifiadura Cymhwysol, Seiberddiogelwch, a Fforensig Digidol.”
Cyn sefydlu Exercise3, roedd gan Elliott sawl rôl uwch arweiniol ar draws y llywodraeth a’r diwydiant. Yn eu plith mae Pennaeth Tîm Ymateb Argyfwng Cyfrifiadurol Llywodraeth y DU yn GCHQ, Pennaeth Seiberguddwybodaeth yn QinetiQ, a Phennaeth Ymateb i Ddigwyddiadau yn Nominet, cofrestrfa parth lefel uchaf y DU.
Gyda bron 30 mlynedd o brofiad mewn seiberddiogelwch ac ymateb i ddigwyddiadau, mae Elliott wedi’i gydnabod yn rhyngwladol yn ei faes. Sefydlodd y London Access Point (LONAP), mae wedi rhoi prif anerchiadau yng Nghanolfan Ragoriaeth Seiberamddiffyn Cydweithredol NATO. Ar hyn o bryd mae’n gwasanaethu yn aelod cyswllt y DU o Fforwm Timau Ymateb i Ddigwyddiadau a Diogelwch (FIRST).
Y tu allan i’w waith proffesiynol, mae Elliott yn cymryd rhan weithredol mewn cadwraeth awyrennau ac yn gwasanaethu’n Gadeirydd Ymddiriedolwyr Grŵp Cadwraeth Tornado Panavia, elusen gofrestredig sy’n ymroddedig i addysgu ac ysbrydoli cenedlaethau o awyrenwyr a pheirianwyr y dyfodol.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071