Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi sicrhau ei lle ymhlith y 50 prifysgol orau yn y DU yng Nghanllaw Prifysgolion diweddaraf y Guardian 2027, gan godi 26 lle i gyrraedd ei safle uchaf erioed o 47 allan o 123 o sefydliadau.

A large group of graduates dressed in caps and gowns celebrating by throwing their hats into the air, standing outside a stone-coloured building with large windows in the background.

Mae’r canlyniadau’n tynnu sylw at gryfder y Drindod Dewi Sant o ran ansawdd addysgu, cymorth i fyfyrwyr, a chanlyniadau myfyrwyr, gyda’r Brifysgol ar y brig yng Nghymru am Foddhad ag Addysgu, Boddhad ag Adborth, a Gwerth Ychwanegol.

Cyflawnodd y Drindod Dewi Sant ganlyniadau rhagorol hefyd ar draws ystod o feysydd pwnc, gan ddod yn gyntaf yng Nghymru ar gyfer saith pwnc: Ffasiwn a Thecstilau, Drama a Dawns, Cynhyrchu Ffilm a Ffotograffiaeth, Celfyddyd Gain, Dylunio Cynnyrch, Seicoleg a Cherddoriaeth.

Yn genedlaethol, roedd y Drindod Dewi Sant yn cael ei rhestru: 

  • 1af yng Nghymru a 6ed yn y DU am Foddhad ag Addysgu 
  • 1af yng Nghymru a’r 4ydd yn y DU am foddhad ag Adborth 
  • 1af yng Nghymru a 12fed yn y DU ar gyfer Gwerth Ychwanegol

Cofnododd y Brifysgol lwyddiant sylweddol ar lefel pwnc, gyda saith maes pwnc yn y 10 uchaf yn y DU a 10 pwnc yn yr 20 uchaf yn y DU.

Ymhlith y perfformiadau rhagorol roedd:

  • 1af yn y DU ar gyfer Ffasiwn a Thecstilau
  • 1af yn y DU ar gyfer Drama a Dawns
  • 1af yn y DU am Gynhyrchu Ffilm a Ffotograffiaeth am yr ail flwyddyn yn olynol
  • 1af yng Nghymru a 3ydd yn y DU ar gyfer Celfyddyd Gain 
  • 1af yng Nghymru a 7fed yn y DU ar gyfer Dylunio Cynnyrch
  • 9fed yn y DU ar gyfer Gwyddor Chwaraeon
  • 9fed yn y DU ar gyfer Animeiddio a Dylunio Gemau
  • 1af yng Nghymru a 19eg yn y DU ar gyfer Seicoleg 
  • 1af yng Nghymru ac 20fed yn y DU ar gyfer Cerddoriaeth

Mae safle sefydliadol cyffredinol y Guardian University Guide yn seiliedig ar asesiad pwysol o berfformiad ar lefel pwnc. Mae perfformiad cryf y Drindod Dewi Sant ar draws ystod eang o ddisgyblaethau yn dangos ansawdd a chysondeb profiad y myfyrwyr ar draws y Brifysgol.

Dywedodd yr Athro Elwen Evans, CB, Is-Ganghellor y Drindod Dewi Sant:

“Mae cyrraedd ein safle uchaf erioed yn y Guardian University Guide yn anrhydedd aruthrol i’n holl gymuned Brifysgol. 

“Mae’n adlewyrchu ymroddiad cydweithwyr ar draws y Brifysgol a’n ffocws parhaus ar ddarparu profiad rhagorol i fyfyrwyr. Mae bod yn y brig yng Nghymru am foddhad addysgu, adborth a gwerth ychwanegol yn dangos ein hymrwymiad i ddarparu addysg o ansawdd uchel, sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr sy’n galluogi dysgwyr i gyflawni eu potensial llawn.

“Mae’r canlyniadau hyn yn tynnu sylw at y creadigrwydd, yr arbenigedd a’r uchelgais sy’n diffinio’r Drindod Dewi Sant ac yn atgyfnerthu ein henw da am drawsnewid addysg a thrawsnewid bywydau.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon