Skip page header and navigation

Mae prosiect ymchwil Camau i’r Dyfodol, sy’n fenter gydweithredol rhwng Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), Prifysgol Glasgow a Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Adroddiad Cam 3 yn ddiweddar, gan nodi cam mawr ymlaen wrth ddeall sut y gellir gwireddu’r Cwricwlwm i Gymru yn ymarferol. 

Dr Sonny Singh, Prif Ymchwilydd PCYDDS, yn siarad â grŵp o bobl yn y gweithdy 'Camau i'r Dyfodol' a gynhaliwyd gan PCYDDS yn gynharach eleni.

Canolbwyntiodd y cam hwn o ymchwil ar lunio cwricwlwm mewn ysgolion a lleoliadau gan ddefnyddio’r dull sy’n canolbwyntio ar brosesau i ddatblygu’r cwricwlwm yn ystod 2024 a 2025. Roedd hyn yn sail i gefnogi dealltwriaeth a rennir o’r cwricwlwm, asesu a dilyniant yn unol â fframwaith y Cwricwlwm i Gymru.  Yn ogystal, ystyriodd, ar y cyd â Phartneriaid Cymorth Addysgol, yr hyn y mae dull sy’n canolbwyntio ar brosesau yn ei olygu yn y Cwricwlwm i Gymru ar gyfer ansawdd yn y system, dysgu proffesiynol, a dysgu 14-16 oed. Ceisiodd ddeall hefyd sut mae Sefydliadau Addysg Athrawon yn gweithio gyda darpar athrawon i gefnogi eu dealltwriaeth o’r Cwricwlwm i Gymru.   

Grymuso ymarferwyr drwy ddull proses 

Adroddodd Athrawon am brofiadau cadarnhaol o weithio gyda dull sy’n canolbwyntio ar brosesau o lunio’r cwricwlwm.  Nododd fod y dull hwn wedi cefnogi mwy o arferion dysgu ac addysgu, ymatebol, cynhwysol, ac ysgogol, yn ogystal â mwy o ymgysylltiad ymhlith disgyblion. 

Yn ogystal, canfu’r ymchwil fod yr athrawon yn wneuthurwyr cwricwlwm galluog a brwdfrydig wrth ddefnyddio’r dull proses.   

Wrth adfyfyrio ar y canfyddiadau, dywedodd Dr Singh: 

“Mae’n ysbrydoledig i weld ymarferwyr ar draws Cymru yn cofleidio’r dull hwn a dod o hyd i egni a phwrpas o’r newydd yn eu gwaith.  Mae’r dystiolaeth yn dangos pan fydd athrawon yn cael eu grymuso i weithio ar y cyd, ac yn greadigol, mae dysgwyr yn ffynnu ac mae’r system addysg yn dod yn fwy cydlynol o ganlyniad.”

Disgrifiodd athrawon y dull hwn fel un sy’n caniatáu ar gyfer “dysgu arafach, dyfnach” a mwy o gyflawniad proffesiynol drwy gydweithredu ac arfer adfyfyriol.   Dywedodd un athro, “bellach, gallaf fod yr athro roeddwn i wastad eisiau bod.”Dywedodd un arall, “Beth mae’r plant hyn wedi’i gyflawni drwy’r prosiect hwn yn rhywbeth na fyddai wedi digwydd pe bawn i wedi cadw at fy nghynllunio fy hun.”

Gweithio drwy heriau systemig 

Er bod y canfyddiadau cyffredinol yn gadarnhaol, mae’r adroddiad yn nodi heriau parhaus.   Mae’n tynnu sylw at yr angen am gymorth parhaus, negeseuon clir a chydlynol ar draws y system addysg, ac amser a lle pwrpasol ar gyfer llunio cwricwlwm er mwyn cynnal cynnydd. 

Roedd canfyddiadau sy’n gysylltiedig â pherfformiad a ‘safonau’, yn ogystal â’r angen canfyddedig i gwmpasu cynnwys mewn amserlen dynn i baratoi ar gyfer cymwysterau cenedlaethol, ymhlith y rhwystrau a nodwyd i’w newid.  Yn ogystal, mae’r adroddiad yn pwysleisio pwysigrwydd arweinyddiaeth ysgol ac ymddiried proffesiynol wrth alluogi ffyrdd newydd o weithio gyda’r Cwricwlwm i Gymru. 

Adeiladu cydlyniant a gallu ar draws y system 

Daeth yr ymchwil i’r casgliad bod egluro bod Cwricwlwm i Gymru yn cyd-fynd â model proses o gwricwlwm wedi helpu i ddatrys rhai o’r heriau i wireddu cwricwlwm sy’n codi pan gaiff y cwricwlwm ei ddeall a’i wireddu mewn gwahanol ffyrdd. Roedd hyn wedi caniatáu ar gyfer llunio cwricwlwm sy’n gydlynol yn y system wrth barhau i gynnal sybsidiaredd. 

Darparodd Timau Dylunio Cwricwlwm ddull cydweithredol ac ystyrlon o lunio cwricwlwm gyda fframwaith Cwricwlwm i Gymru a ddaeth ag arbenigedd cyflenwol ynghyd a chryfhaodd hyder athrawon.

Gan ehangu ar y dulliau i lunio’r cwricwlwm, ychwanegodd Dr Kara Makara o Brifysgol Glasgow:  “Dysgom fod ffordd addawol o adeiladu dealltwriaeth a rennir a chefnogi’r broses o wireddu cydlynol gydag ymarferwyr yn y prosiect oedd drwy lunio cwricwlwm ar y cyd rhwng arbenigwyr ac ymarferwyr.  Roedd ysgolion yn gallu symud ymlaen i wireddu dull yn canolbwyntio ar broses ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru yn eu ystafelloedd dysgu drwy gymorth Timau Dylunio’r Cwricwlwm a chefnogaeth gweithdai dylunio’r cwricwlwm.  Gellir defnyddio’r dull hwn i ehangu capasiti a’i feithrin wrth lunio’r cwricwlwm ar draws y system.”

Gwelwyd bod rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon yng Nghymru yn chwarae rôl allweddol, gan roi’r sgiliau, y feirniadaeth a’r addasrwydd sydd eu hangen ar athrawon i ddeall y Cwricwlwm i Gymru yn ymarferol. 

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i ddarllen yr adroddiad llawn: 

https://www.uwtsd.ac.uk/research/camau-ir-dyfodol/camau-ir-dyfodol-phase-3 


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon