Skip page header and navigation

Mae ymchwilwyr sy’n gweithio ar brosiect Camau i’r Dyfodol wedi cyhoeddi adroddiad atodol sy’n ceisio helpu i wella dealltwriaeth o’r model cwricwlwm sy’n sail i Gwricwlwm i Gymru (CfW).

Dr Sonny Singh, Prif Ymchwilydd PCYDDS, yn siarad â grŵp o bobl yn y gweithdy 'Camau i'r Dyfodol' a gynhaliwyd gan PCYDDS yn gynharach eleni.
Dr Sonny Singh, Prif Ymchwilydd prosiect Camau i'r Dyfodol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn siarad ag athrawon yn ystod digwyddiad ymgynghori Camau i'r Dyfodol.

Cynhyrchwyd y dadansoddiad cynnwys yn dilyn cyhoeddiad adroddiad llawn Camau i’r Dyfodol yn gynharach eleni. Mae’r adroddiad atodol wedi’i gynllunio i helpu addysgwyr i greu cwricwlwm yn lleol mewn ffyrdd sy’n cyd-fynd â’r fframwaith cwricwlwm.

Canfu’r dadansoddiad fod fframwaith Cwricwlwm i Gymru, ar y cyfan, yn cyd-fynd â model dylunio cwricwlwm sy’n seiliedig ar broses (datblygiad y dysgwr). Fodd bynnag, tynnodd yr adroddiad sylw at nifer o feysydd lle’r oedd rhannau o’r cwricwlwm yn ymddangos fel pe baent yn cyd-fynd â modelau gwahanol. Cyflwynodd yr awduron nifer o argymhellion a gynlluniwyd i wella cysondeb ac aliniad mewnol.

Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, roedd prosiect ymchwil Camau i’r Dyfodol yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (UWTSD) a Phrifysgol Glasgow; fe’i cynlluniwyd i gefnogi gweithwyr proffesiynol ym maes addysg yng Nghymru i ddatblygu dealltwriaeth ymarferol o gynnydd mewn dysgu wrth iddynt weithio i wireddu Cwricwlwm i Gymru.


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon