Yr Academi Brydeinig yn Dyfarnu dwy Gymrodoriaeth Ryngwladol i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn ymfalchïo o fod wedi ennill dwy Gymrodoriaeth Ryngwladol o’r Academi Brydeinig.
Nod y cynllun hynod gystadleuol hwn yw caniatáu i ymchwilwyr gyrfa gynnar o dramor ymgymryd ag ymchwil ôl-ddoethurol mewn sefydliad ym Mhrydain, gan feithrin cydweithio rhyngwladol a rhagoriaeth mewn ymchwil.
Bydd Dr Elisabeth Chatel, a gwblhaodd ddoethuriaeth yn ddiweddar yn yr Université de Bretagne Occidentale, Llydaw, yn ymuno â Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru am ddwy flynedd, o dan oruchwyliaeth yr Athro Heather Williams. Pwnc ei phrosiect, ‘Sorbonne Geltaidd’, yw’r rhwydwaith deallusol trawsgenedlaethol sy’n cysylltu Paris, Llydaw a Chymru yn yr ugeinfed ganrif, a phwysigrwydd hwnnw yn natblygiad y cysyniad modern o’r ‘Celtaidd’. Bydd yn astudio’r cysylltiadau rhwng tri ysgolhaig allweddol – y Cymry Cymraeg Mary Williams a Morgan Watkin, a’r Llydäwr Pol Diverrès – a astudiodd gyda’i gilydd ym Mhrifysgol y Sorbonne ym Mharis, canolbwynt deallusol y ddisgyblaeth ar y pryd, cyn siapio’r maes o’u prifysgolion yng Nghymru. Bydd prosiect Dr Chatel yn cyfuno ymchwil archifol ym Mharis ac yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth gyda dulliau’r dyniaethau digidol er mwyn gwella ein dealltwriaeth o ddatblygiad cymunedau deallusol trawsgenedlaethol a datblygiad astudiaethau Celtaidd yn yr ugeinfed ganrif.
Meddai’r Athro Heather Williams, a fydd yn goruchwylio’r gymrodoriaeth: ‘Rwy’n arbennig o falch i allu croesawu arbenigwr Llydaweg i Aberystwyth. Mae fy ymchwil fy hun yn canolbwyntio ar Lydaw ac ar gysylltiadau rhwng Cymru a Llydaw, ac felly mae prosiect Dr Chatel yn cynnig cyfle cyffrous inni graffu ar y cyfnewid diwylliannol a deallusol sydd wedi siapio astudiaethau Celtaidd a hunaniaethau Celtaidd ar draws ffiniau cenedlaethol, tra’n cryfhau cysylltiadau academaidd rhwng Cymru a Ffrainc.’
Esboniodd Dr Chatel: ‘Gyda’r prosiect hwn byddaf yn mynd y tu hwnt i’r stori gyfarwydd am y canol a’r cyrion er mwyn gofyn: beth oedd canfyddiad yr ysgolheigion hyn a oedd yn perthyn i’r cyrion o’r hyfforddiant a gawsant yn y canol metropolitaidd, ac i ba raddau y gwnaeth eu dwyieithrwydd diwylliannol herio fframweithiau cenedlaethol ieitheg gymharol?’
Dywedodd yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd:
‘Rydym wrth ein bodd yn croesawu Dr Chatel i’r Ganolfan trwy Gymrodoriaeth Ryngwladol nodedig yr Academi Brydeinig. Mae ei phrosiect yn dwyn sylw at bwysigrwydd rhwydweithiau ysgolheigaidd rhyngwladol yn natblygiad disgyblaethau, tra bod y gymrodoriaeth ei hun yn creu cyfleoedd gwerthfawr i feithrin cysylltiadau academaidd newydd rhwng Cymru, Llydaw a Ffrainc. Edrychwn ymlaen yn fawr at weithio gyda hi dros y ddwy flynedd nesaf ac at y partneriaethau a’r canfyddiadau newydd fydd yn deillio o’r ymchwil’.
Bydd Dr Bianca Zacarias França, a gwblhaodd ei doethuriaeth mewn anthropoleg ddiwylliannol ym Mhrifysgol Ffederal Minas Gerais (UFMG), un o’r prifysgolion uchaf eu bri ym Mrasil, yn ymuno â’r Ganolfan Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol ar gampws Caerfyrddin am ddwy flynedd, o dan oruchwyliaeth yr Athro Bettina Schmidt.
Bydd ei phrosiect: ‘Trychineb Cymdeithasol Dechnegol Brumadinho (Brasil): Trosedd, Tiriogaeth ac Adfer ymhlith Cymunedau Crefyddol Affricanaidd Brasilaidd’, yn canolbwyntio ar effaith cwymp yr argae yn Brumadinho (Brasil) yn 2019 ar gymunedau lleol. Mae’n archwilio sut mae dinistr amgylcheddol ar raddfa fawr yn ad-drefnu awdurdod, arferion defodol ac ymgyrchu gwleidyddol mewn pobloedd a chymunedau o draddodiad crefyddol hynafol o darddiad Affricanaidd. Bydd y prosiect yn astudio ymhellach yr hyn y gellir ei ddysgu o drychineb Aberfan a’r mentrau adfer amgylcheddol yng Nghwm Tawe Isaf.
Mae Dr França yn esbonio bod cyd-destun Cymru yn cryfhau’r prosiect fel pwynt cyfeirio cymharol pwysig sydd wedi’i seilio ar hanesyddiaeth o ran cof, llywodraethu, atebolrwydd ac adferiad cymunedol.
Bydd cyfuno’r ymchwil ethnograffig ym Mrasil â deunyddiau archifol, cofnodion ymchwiliadau cyhoeddus a dogfennaeth treftadaeth sy’n ymwneud â thrychineb Aberfan yn rhoi canfyddiadau a dealltwriaeth newydd o sut y caiff trychineb ei adrodd, ei droi’n sefydliad a’i ymgorffori mewn cyfundrefnau polisi a threftadaeth. Mae’r dull hwn yn galluogi deialog gymharol ystyrlon rhwng cymunedau lleol mewn dwy wlad.
Mynegodd yr Athro Bettina Schmidt ei llawenydd am ddyfarnu Cymrodoriaeth Ryngwladol i Dr França. ‘Rwy’n edrych ymlaen at groesawu Dr França i’r Drindod Dewi Sant. Mae ei hymchwil ar effaith trychinebau ar gymunedau lleol yn hynod bwysig heddiw. Er bod trychinebau fel yr un ym Mrasil ond hefyd yr un yn Aberfan yn denu sylw, yn aml, dim ond ar y bywydau a gollwyd y mae’r ffocws. Caiff y goroeswyr yn aml eu hanwybyddu. Bydd prosiect Dr França yn rhoi canfyddiadau pwysig i ni ar adferiad cymunedau lleol ar ôl i drychinebau daro.
Nodiadau i Olygyddion
Cyswllt: Dr Angharad Elias (Swyddog Gweinyddol) a.elias@cymru.ac.uk
1. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol.
2. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk
3. Y Ganolfan yw cartref Geiriadur Prifysgol Cymru: https://www.geiriadur.ac.uk/
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467076