Skip page header and navigation

Mae’r Athro Sue Williams, Rheolwr Rhaglen Celfyddyd Gain: Stiwdio, Safle a Chyd-destun yng Ngholeg Celf Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), yn mwynhau un o gyfnodau prysuraf ei gyrfa nodedig. Yr haf hwn bydd hi’n rhan o chwe arddangosfa a chyhoeddiad pwysig, ochr yn ochr â’i rôl yn dethol ar gyfer arddangosfa fawreddog Abertawe Agored 2026.

A smiling lady wearing craft gloves wearing a scarf.

Tynna ei gweithgarwch proffesiynol helaeth sylw at bwysigrwydd bod gan brifysgolion staff sy’n ymwneud yn weithredol ag ymarfer celf gyfoes, gan ddod â phrofiad o’r byd go iawn, rhwydweithiau proffesiynol, a gwybodaeth gyfredol am y diwydiant yn uniongyrchol i’r amgylchedd dysgu.

Yr Athro Williams, sy’n byw a gweithio yng Nghymru ers dros ugain mlynedd, yw un o artistiaid benywaidd cyfoes mwyaf blaenllaw Cymru. Fe’i ganed yng Nghernyw, ac mae wedi adeiladu enw da rhyngwladol trwy hanes o arddangos ar draws pum cyfandir, a hynny mewn arddangosfeydd unigol a grŵp ledled y byd.

Mae ei hymarfer wedi’i wreiddio mewn hunanethnograffeg, gan gyfuno darluniau a thestun i archwilio cymhlethdodau perthnasoedd dynol yn y diwylliant cyfoes. Mae ei gwaith yn aml yn datgelu bregusrwydd trawiadol, gan ysgogi myfyrdod ar rywioldeb, agosatrwydd a phrofiad emosiynol, wrth gynnig archwiliad diysgog o freuder dynol.

Cydnabuwyd ei chyfraniad i gelf gyfoes â nifer o wobrau, gan gynnwys y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn yr Eisteddfod Genedlaethol a Gwobr Sefydliad Rootstein Hopkins am Baentio yn 2000. Yn 2006, cyrhaeddodd restr fer Gwobr Artes Mundi, sef cystadleuaeth sydd o fri rhyngwladol.

Yr haf hwn, gellir gweld gwaith yr Athro Williams ar draws ystod amrywiol o arddangosfeydd a phrosiectau, gan ddangos ehangder a pherthnasedd ei hymarfer.

Yn eu plith mae The Female Gaze, arddangosfa yn Fienna sy’n dwyn ynghyd artistiaid cyfoes sy’n archwilio safbwyntiau a chynrychiolaeth menywod.

Mae’r Athro Williams hefyd yn arddangos yn OH BONDAGE! UP YOURS! yn Oriel TEN, Caerdydd. Daw teitl yr arddangosfa o’r anthem bync eiconig gan X-Ray Spex, a chynulla artistiaid benywaidd y mae eu gwaith yn dathlu menywod wrth wynebu gwreig-gasineb cyfoes a rhethreg wrth-fenywod. Trwy ystod o gyfryngau, mae’r arddangosfa’n archwilio ffeministiaeth, hunaniaeth, gwrthsafiad a chynrychiolaeth, themâu sy’n taro tant cryf ag arfer Sue Williams hithau.

Mae hi hefyd yn cyfrannu i The Future Present is Here, sef cyhoeddiad uchelgeisiol a grëwyd gan yr artist-guradur o ogledd Cymru, Nick Davies. Casgla’r prosiect 52 o negeseuon i’r dyfodol gan unigolion sy’n gweithio ar draws y celfyddydau, gan greu capsiwl amser unigryw o syniadau creadigol cyfoes sy’n ysgogi’r meddwl.

Mae’r Athro Williams hefyd yn arddangos yn Agor Llyfr // Open a Book, a gyflwynir gan Short&Forward yng Nghapel Bethel, Cwmrheidol, ger Aberystwyth. Mae’r arddangosfa yn trawsnewid y capel hanesyddol yn llyfrgell dros dro sy’n arddangos llyfrau artistiaid a gweithiau celf sy’n gysylltiedig â llyfrau o Gymru a thu hwnt, a llawer o’r rhain wedi’u creu’n benodol ar gyfer y prosiect.

Gan arddangos ei hymrwymiad ymhellach i fywyd diwylliannol Cymru, mae’r Athro Williams yn cymryd rhan mewn arddangosfeydd sy’n gysylltiedig â’r Eisteddfod Genedlaethol a Gŵyl Grefft Cymru yn Aberteifi, gan ddathlu creadigrwydd ar draws disgyblaethau a dod â chelf gyfoes i gynulleidfaoedd newydd.

Ochr yn ochr â’i hymarfer creadigol ei hun, mae’r Athro Williams wedi ei dewis yn un o’r beirniaid ar gyfer Abertawe Agored 2026, un o arddangosfeydd agored pwysicaf y rhanbarth. Mae’r arddangosfa yn darparu llwyfan pwysig i artistiaid o bob cwr o Gymru a thu hwnt, gan gynnig cyfleoedd i ymarferwyr newydd a sefydledig arddangos eu gwaith.

I fyfyrwyr yng Ngholeg Celf Abertawe, mae cael darlithwyr ac arweinwyr rhaglenni sy’n parhau’n ymarferwyr gweithgar, yn gaffaeliad mawr. Caiff myfyrwyr gip ar realiti cynnal gyrfa greadigol broffesiynol, datblygu arddangosfeydd, ymateb i gomisiynau, gweithio gyda churaduron, ac ymgysylltu â dadleuon cyfoes yn sector y celfyddydau.

Meddai’r Athro Williams: “Mae cynnal ymarfer gweithredol yn hanfodol i’m hymwneud â’n myfyrwyr. Mae’n caniatáu imi ddod â phrofiadau, heriau a chyfleoedd cyfredol yn uniongyrchol i mewn i’r addysgu, gan helpu myfyrwyr i ddeall nid yn unig ddeunyddiau, cysyniadau a phroses, ond hefyd sut mae artistiaid yn llywio’r byd proffesiynol. Mae’r berthynas rhwng ymarfer ac addysgu yn cyfoethogi ei gilydd, ac mae myfyrwyr yn elwa o fod yn rhan o’r sgyrsiau parhaus hynny.”

Meddai Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd Celf a’r Cyfryngau: “Drwy barhau i arddangos yn rhyngwladol wrth arwain un o raglenni Celfyddyd Gain uchaf eu parch Cymru, mae’r Athro Williams yn enghraifft o rôl yr artist-addysgwr. Mae ei chyflawniadau yn atgyfnerthu ymrwymiad Coleg Celf Abertawe i sicrhau bod myfyrwyr yn dysgu gan ymarferwyr sy’n mynd ati i lunio diwylliant cyfoes, gan ddarparu profiad addysgol sy’n wybodus, sy’n berthnasol ac sy’n gysylltiedig â’r diwydiannau creadigol ehangach.”

A brightly coloured art work with figures.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon