Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch i gyhoeddi llwyddiant Yutara Naido sydd wedi cwblhau Gradd Meistr yn y Celfyddydau mewn Hyfforddi a Mentora drwy’r Fframwaith Arfer Proffesiynol. Mae’r cyflawniad hwn yn arddangos ei rhagoriaeth academaidd a’i hymrwymiad i hyrwyddo hyfforddi yn y gweithle. 

Yutara with the VC and course tutors Lowri Harris and Sarah Loxdale

Penderfynodd Yutara astudio ar y rhaglen hon ar ôl iddi gwblhau cwrs ymarferwr hyfforddi gyda’r Canolfan Hyfforddi yn Ne Affrica.  Drwy ei modwl Cydnabod ac Achredu Dysgu (RAL), roedd hi’n gallu tynnu ar ei phrofiad ymarferol, cyfle mae’n ei ddisgrifio’n, 

 “ffordd wych i wella fy ngwybodaeth ymhellach mewn maes rwy’n ei fwynhau cymaint, ar yr un pryd â gwella fy nghymwysterau academaidd.”

Gan adfyfyrio ar ei phrofiad, mae Yutara yn nodi pwysigrwydd cydnabod gwybodaeth ymarferol a gafwyd drwy brofiad yn y byd go iawn. 

“Mae hyfforddi yn sgil ymarferol iawn. Roedd y rhaglen wedi fy nghaniatáu i adfyfyrio ar fy ymagwedd at hyfforddi a chasglu mewnwelediadau ar sut rwyf am symud hyn yn ei flaen yn y dyfodol.”

Mae’r broses adfyfyriol hon nid yn unig wedi cryfhau ei galluoedd ymarferol, ond mae wedi dyfnhau ei dealltwriaeth o sylfeini damcaniaethol hyfforddi hefyd. 

Roedd cwblhau ei phrosiect ymchwil seiliedig ar waith yn ei sefydliad wedi darparu mewnwelediadau ystyrlon i brofiadau gweithwyr o hyfforddi yn y gweithle. 

“Roedd hyn yn rhywbeth yr oedd y sefydliad yn chwilfrydig yn ei gylch gan nad oedd fframwaith neu ddull ffurfiol ar waith o ran sut roedd hyfforddi yn cael ei gynnal yn y gweithle.  

Ar lefel bersonol, mae’n disgrifio’r cymhwyster yn un sy’n newid bywyd: 

“Mae wedi rhoi’r hyder i mi ystyried camu o’m rôl bresennol ac efallai mynd ymlaen i ddewis hyfforddi yn yrfa llawn amser.”

Mae Yutara yn credydu’r rhaglen am wella ei hyder, ei hunan gred a’i gwydnwch personol yn sylweddol.

“Roedd hyn yn un o’r profiadau mwyaf heriol rwyf wedi’i wynebu yn fy mywyd, o ganlyniad i’r galw ar amser wrth weithio’n llawn amser. Yn ogystal, doeddwn i ddim yn siŵr a oeddwn yn gallu cwblhau cymhwyster Gradd Meistr, ac roedd angen adfyfyrio dwfn ynghlwm â hyn, nad yw’n sgil hawdd i’w feistroli.  Mae cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus wedi newid fy mywyd yn llwyr, mae wedi rhoi’r hyder i mi ystyried cymryd cyfleoedd bywyd a gwaith hollol wahanol.  Mae wedi fy ngwneud yn fwy dewr!”

Yn ogystal, mae wedi caffael galluoedd academaidd newydd, yn enwedig mewn arfer adfyfyriol ac ymchwil, sgiliau yr oedd yn teimlo’n ansicr amdanynt yn flaenorol, ond mae bellach yn eu cofleidio gyda hyder. 

“Roeddwn i’n meddwl fy mod i wedi deall “arfer adfyfyriol” gan ei fod yn agwedd mor arwyddocaol o’m rhaglen achredu hyfforddi, ond dysgais yn wahanol wrth ymgymryd â’m meysydd dysgu a’m traethawd adfyfyriol ar y cwrs.   Roeddwn yn troi’n gyson i ddull ac arddull ysgrifennu academaidd pur, ond roedd hyn yn gofyn am ddull adfyfyrio gwahanol a ddysgais ei werthfawrogi yn y pen draw! Yn ogystal, roedd cwblhau prosiect ymchwil yn sgil eithaf newydd i mi, a theimlais yn eithaf ofnus ar y dechrau. Fodd bynnag, gyda chymorth fy nhiwtoriaid academaidd, roeddwn i’n gallu llywio hyn yn llwyddiannus.  Bellach, mae wedi gwneud i mi deimlo fy mod i’n gallu ymgymryd â darnau o waith ymchwil newydd, rhywbeth, na fyddwn wedi’i wneud yn fy ngweithle yn y gorffennol.”

Mae Yutara yn eiriolwr cryf dros ddysgu seiliedig ar waith ac yn annog eraill i’w dilyn. 

“Yn aml, rydym yn tanamcangyfrif faint o ddysgu rydym yn ei gael o’n swyddi, ein gweithle neu brosiectau ymarferol, ond mae’n debygol mai dyma le mae’r dysgu mwyaf real, perthnasol yn digwydd ar yr adeg hon yn ein bywydau.  Yn ogystal, rwy’n credu bod y dysgu hwn yw’r hyn sy’n dod â’r newidiadau rydym angen eu gwneud yn y byd.  Felly, fy neges i eraill yw y dylech fanteisio ar y cyfle a pheidiwch â thanbrisio’r wybodaeth sydd gennych eisoes.  Bellach, gallwch gael eich cydnabod amdani yn ffurfiol!”

Wrth edrych yn ôl, mae Yutara, yn disgrifio bod y rhaglen wedi bod yn hollbwysig wrth lunio ei dyheadau gyrfa ar gyfer y dyfodol. 

“Mae’n agor drysau nad oedd ar gael i mi yn flaenorol. Mae’n rhoi rheolaeth lwyr i mi dros fy llwybr gyrfa, efallai y tu allan i’r byd corfforaethol hyd yn oed, i fan lle gallaf gyfrannu’n ystyrlon at ddatblygiad pobl.”

Meddai Sarah Loxdale, Arweinydd y Modwl Cydnabod ac Achredu Dysgu ac Uwch Ddarlithydd yn PCYDDS, 

“Mae taith Yutara drwy’r broses Cydnabod ac Achredu Dysgu yn enghraifft o bŵer gwerthfawrogi dysgu drwy brofiad.  Daeth â chyfoeth o fewnwelediad proffesiynol i’r rhaglen ac ymgysylltodd yn ddwfn â’r elfennau adfyfyriol ac academaidd a oedd eu hangen i drosi’r profiad hwnnw’n gyflawniad cydnabyddedig.  Roedd yn fraint i’w chefnogi wrth iddi lywio’r llwybr trawsnewidiol hwn.  Mae ei llwyddiant yn dangos yr hyn sy’n bosibl pan fydd dysgwyr yn cofleidio eu galluoedd eu hunain ac ymddiried yn y dysgu maent wedi’i gael drwy gydol ei gyrfaoedd.”

Meddai Lowri Harris, Uwch Ddarlithydd a Goruchwylydd Prosiect yn PCYDDS: 

“Mae wedi bod yn bleser pur cefnogi Yutara drwy ei phrosiect ymchwil seiliedig ar waith.  Mae ei hymroddiad i archwilio hyfforddi yn ei sefydliad wedi dangos chwilfrydedd deallusol ac angerdd gwirioneddol i greu newid ystyrlon.  Aeth Yutara ati i ymdrin â phob cam o’r prosiect gyda didwylledd, gwydnwch a meddylfryd adfyfyriol, ac mae wedi bod yn ysbrydol ei gweld yn tyfu mewn hyder fel ymarferydd.  Mae’n llwyr haeddu ei chyflawniad, ac nid oes gennyf unrhyw amheuon y bydd hi’n parhau i greu effaith sylweddol ym maes hyfforddi.”

Os hoffech chi ddysgu rhagor am y Fframwaith Arfer Proffesiynol, ewch i Fframwaith Arfer Proffesiynol | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant neu e-bostiwch ppf@uwtsd.ac.uk 


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon