Cyfuno angerdd dros syrffio a dylunio graffig
Mae Lewys Davies o Lanelli yn graddio eleni o BA Dylunio Graffig yng Ngholeg Celf Abertawe y Drindod Dewi Sant. Cyn dechrau yn y brifysgol, treuliodd flwyddyn gap yn gweithio fel hyfforddwr syrffio addasol – profiad sydd wedi dylanwadu ar nifer o’r prosiectau creadigol a ddatblygodd yn ystod ei radd.
Ar ôl astudio Lefelau A mewn Mathemateg, Ffiseg a Chelf a Dylunio yn Ysgol y Strade, cymerodd Lewys flwyddyn allan i ennill ei gymwysterau fel hyfforddwr syrffio addasol a gweithio ar draethau ar draws Gŵyr. Byddai’r profiad hwnnw’n mynd ymlaen i ddylanwadu ar nifer o’r prosiectau a ddatblygodd yn ystod ei radd.
Yn awyddus i archwilio meysydd newydd o fewn Dylunio Graffig, gan gynnwys dylunio UX/UI a gweithio gyda chleientiaid, dewisodd Lewys astudio yng Ngholeg Celf Abertawe. Roedd y lleoliad yn caniatáu iddo aros yn agos at arfordir Gŵyr tra’n parhau i weithio fel hyfforddwr syrffio addasol ochr yn ochr â’i astudiaethau.
Daeth ei angerdd dros syrffio a dylunio ynghyd mewn prosiect unigryw a ysbrydolwyd gan ei waith ar y traeth a’i ymchwil i ddylanwad tonnau’r môr ar Ddylunio Graffig. Gan ddefnyddio patrymau a grëwyd o wrthrychau a olchwyd i’r lan ar draethau Gŵyr, datblygodd ddyluniad ar gyfer bwrdd syrffio addasol.
“Uchafbwynt y cwrs i fi oedd dylunio a chreu bwrdd syrffio addasol,” meddai Lewys. “Fel prosiect personol wnes i ddylunio bwrdd syrffio addasol, a roeddwn i’n ffodus iawn i dderbyn interniaeth o £1,000 gan y brifysgol i gydweithio gydag Arno Surfboards a chreu’r bwrdd syrffio ffisegol.”
Arweiniodd y prosiect at gyfle i Lewys arddangos ei waith yn New Designers yn Llundain, prif arddangosfa’r DU ar gyfer talent dylunio newydd.
“Roedd y profiad yn New Designers yn wych,” meddai. “Roedd hi’n ddiddorol iawn gweld gwaith pawb arall oedd yn cael ei arddangos ar yr un pryd, ac hefyd cael siarad am fy ngwaith a fy niddordebau gyda nifer o bobl wahanol. Roedd nifer o bobl yn hoffi’r bwrdd syrffio ac yn hoffi’r stori o gasglu gwrthrychau gwahanol ar draethau Gŵyr i greu’r dyluniad ac yna’r bwrdd ffisegol. Fi’n credu achos roedd y bwrdd yn rhywbeth byddech chi ddim yn disgwyl ei weld yn Llundain.”
Lewys yn arddangos yn New Designers yn Llundain
Yn ogystal â’r prosiect bwrdd syrffio, bu Lewys yn archwilio effaith syrffio ar iechyd a lles pobl drwy brosiect ymchwil, gan gwblhau gwaith ffotograffiaeth a datblygu ar draethau ar draws Gŵyr.
“Roedd yn ffordd ddiddorol iawn o weithio achos roeddwn i’n gallu cwblhau fy ymchwil a fy natblygiad ar draethau a ger y môr, yn hytrach mewn llyfrgell neu mewn swyddfa,” meddai. “Fel canlyniad, roeddwn i’n teimlo’n fwy awyddus a chyffrous i gwblhau a datblygu’r prosiect i’r gorau a gallai.”
Ymunodd Lewys â Choleg Celf Abertawe drwy’r broses Clirio ac mae’n disgrifio’r profiad fel un llyfn a phositif.
“Ges i brofiad da iawn gyda’r broses Clirio,” meddai. “Ar ôl cwblhau fy nghais ym mis Gorffennaf trwy UCAS, ges i alwad ffôn gan reolwr rhaglen y cwrs y mis nesaf yn gofyn am luniau o fy mhortffolio. Ar ôl hynny, ges i gynnig i ddechrau’r cwrs ym mis Medi. Er oedd hwn yn broses eithaf cyflym, wnaeth Clirio sicrhau bod popeth mewn trefn yn barod am fis Medi. Yn gyffredinol, roedd y broses yn llyfn iawn.”
Yn ogystal â datblygu ei sgiliau creadigol, cwblhaodd Lewys rai modiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg a bu’n Llysgennad Cymraeg, gan hyrwyddo manteision astudio drwy gyfrwng y Gymraeg i ddisgyblion chweched dosbarth ledled De Cymru.
Wrth edrych yn ôl ar ei gyfnod yn y brifysgol, dywedodd:
“Un o’r pethau gorau am y cwrs oedd cael gweithio ar brosiectau oedd yn seiliedig ar fy niddordebau fy hun. Dros y tair blynedd, rydych chi’n datblygu eich sgiliau dylunio ac academaidd wrth gwblhau prosiectau diddorol a newydd sydd yn ffocysu ar themâu o’ch diddordebau ar yr un pryd. Byddech chi’n gadael y cwrs â phortffolio sydd yn adlewyrchu eich diddordebau a sgiliau gwahanol yn gryf hefyd.”
Lewys yn Sioe Graddio'r Haf
Gwybodaeth Bellach
Mared Anthony
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk
Ffôn: +447482256996