Skip page header and navigation

I nodi Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth (16-20 Mawrth 2026), mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn falch o rannu gwaith ysbrydoledig Sandra Richards-Davies, cyn-fyfyrwraig, y mae ei menter gymdeithasol arloesol yn trawsnewid mynediad at chwarae cynhwysol i blant a phobl ifanc yng Ngorllewin Cymru.

Owner of Bubbles Bounce and Sensory Play CIC, Sandra Richards-Davies

Yn ddiweddar, mae Sandra, a raddiodd yn 2022 gyda BA (Anrh) mewn Rheolaeth Menter Wledig ac sydd bellach yn astudio ar gyfer MBA mewn Arweinyddiaeth Cynaliadwyedd, wedi lansio Bubbles Bounce and Sensory Play CIC ym Mharc Dewi Sant, Caerfyrddin – canolfan arloesol yng Nghymru sydd wedi ei gynllunio o gwmpas saith profiad synhwyraidd. Mae’r ganolfan yn darparu cyfleoedd ar gyfer chwarae hygyrch, sesiynol i bob plentyn, gyda ffocws penodol ar y rheini sy’n niwroamrywiol neu sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Gyda gyrfa sy’n rhychwantu bron i dri degawd mewn nyrsio iechyd meddwl a gofal cymunedol i oedolion iau ag anghenion cymhleth, mae gyrfa Sandra wedi canolbwyntio erioed ar gefnogi pobl a chryfhau cymunedau. Fodd bynnag, bu’n rhaid iddi gamu’n ôl o’r gwaith yr oedd hi’n ei garu oherwydd newid sydyn yn ei hiechyd.

“Allwn i ddim bod gartref heb wneud rhywbeth,” meddai Sandra. “Felly, wrth i mi jyglo fy anawsterau iechyd ynghyd â cholli rôl a hunaniaeth, fe wnaeth dychwelyd i addysg roi cyfeiriad a chyfle i mi yn ystod cyfnod anodd iawn.”

Er bod dychwelyd i addysg yn newid mawr, daeth Sandra o hyd i amgylchedd dysgu PCYDDS oedd yn gefnogol ac yn rhoi hwb i’w hyder.

“Roedd mynd yn ôl i’r brifysgol fel myfyriwr aeddfed yn bendant yn wahanol… roedd yna lawer o gymryd rhan a llawer o dechnoleg newydd – dyna oedd fy her fwyaf,” meddai.

“Roedd bod mewn grŵp astudio â chymysgedd eang o oedrannau yn ysbrydoledig ac yn hynod o ddefnyddiol – yn enwedig o ran help gyda thechnoleg! Roedd fy nhiwtoriaid hefyd yn wych – yn gyfeillgar ac yn hawdd siarad â nhw ac yn hapus i wrando a thrafod - yn wahanol iawn i pan oeddwn i’n fyfyriwr nyrsio yn y 90au.”

Yn ystod ei gradd, dechreuodd syniad a oedd wedi bod yn ffurfio’n dawel ers sawl blwyddyn ddod i’r golwg. Anogodd ei hastudiaethau hi i fyfyrio ar ei phrofiadau ei hun fel rhiant plentyn ag awtistiaeth, yn enwedig y diffyg mannau synhwyraidd‑gyfeillgar a oedd ar gael pan oedd ei mab yn iau - her sydd, meddai hi, yn parhau hyd heddiw.”

“Mae gan bob plentyn yr hawl i chwarae,” meddai Sandra, “ond mae gormod wedi’u heithrio oherwydd nad yw eu hanghenion wedi’u hystyried.”

Ar sail ei phrofiad bywyd, ei mewnwelediad proffesiynol a’i hastudiaethau academaidd, sefydlodd Sandra Bubbles Bounce and Sensory Play CIC - Cwmni Buddiant Cymunedol sy’n ymwneud ag amgylcheddau cynhwysol, sy’n canolbwyntio ar blant. Mae’r ganolfan yn cyfuno mannau sy’n ymgysylltu â’r synhwyrau gyda chwarae rôl dychmygus a gweithgareddau sy’n seiliedig ar symud, gan gynnwys technoleg Pod Play drochol, ynghyd â mannau chwarae sydd wedi’u gorchuddio ac yn yr awyr agored sy’n cefnogi archwilio a hunanreoleiddio.

Mae Sandra yn rhoi clod i Dîm Menter y Brifysgol  am ei helpu i gymryd y camau nesaf wrth adeiladu’r busnes. adeiladu’r busnes. Trwy’r gwasanaeth hwn, cafodd arweiniad arbenigol, cyngor un-i-un a chyfleoedd i ddatblygu ei chynllunio busnes a’i gallu digidol. Fe wnaeth y gefnogaeth hon ei galluogi i groesawu myfyriwr intern o Ysgol Fusnes Abertawe y Drindod Dewi Sant, sydd bellach yn helpu i gryfhau hunaniaeth ddigidol a phresenoldeb ar-lein y ganolfan.

“Rhoddodd Tîm Menter y Drindod Dewi Sant gyfle i mi weithio’n uniongyrchol gyda’r swyddogion ac ymuno â’u gweithdai ar gyfer dechrau busnes yn rhad ac am ddim. Rydw i hefyd yn ffodus iawn i gael intern Busnes – rhywun sydd â llygaid ffres a dawn ar gyfer marchnata, gwefannau a’r cyfryngau cymdeithasol. Mae cael intern gyda’r sgiliau sydd ddim gen i, ac sy’n rhannu angerdd am niwrogynhwysiant, yn help mawr i’r busnes.”

Wrth i Bubbles Bounce a Sensory Play barhau i sefydlu ei hun o fewn y gymuned, mae Sandra eisoes yn edrych ymlaen at ddatblygu a chydweithio pellach. Mae ei chymhelliant yn parhau i fod yr un fath ag y mae wedi bod trwy gydol ei gyrfa:

“Y cyfan roeddwn i eisiau ei wneud ers pan oeddwn i’n fy arddegau oedd gwneud gwahaniaeth… Gallwn weld cyfle i wneud hyn trwy fusnes, nid er hunan-fudd neu elw, ond i wneud gwahaniaeth ac ar gyfer effaith gymdeithasol.”


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
Ffôn: +447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon