Skip page header and navigation

Nododd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant 30 mlynedd o addysg arloesol mewn Hamdden a Thwristiaeth gyda digwyddiad a oedd yn tynnu sylw at leoliadau sy’n llunio gyrfaoedd, partneriaethau â diwydiant a chymuned cyn-fyfyrwyr ffyniannus — pob un ohonynt yn nodweddion diffiniol o raglen sydd bellach yn cael ei chydnabod fel Canolfan Ragoriaeth gyntaf yr ITT yng Nghymru ar gyfer Teithio a Thwristiaeth ac enillydd y Cwrs Digwyddiadau Gorau yn y DU am y ddwy flynedd ddiwethaf yng Ngwobrau Digwyddiadau Awyr Agored Cenedlaethol.

A group of alumni who contributed to the event
Cyn-fyfyrwyr yn y llun (o chwith i dde): Craig Jarrett, Mel Bourke, Ethan Scriven, Jonathan Quant, Debbie Jenkins, Dominic Jones, Ewan Rees, Heledd Williams

Wedi’i gynnal gan fyfyrwyr a staff rhaglenni Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth cyfredol y Drindod Dewi Sant, daeth y dydd â chyn-fyfyrwyr, staff, myfyrwyr, partneriaid o’r diwydiant a gwesteion nodedig ynghyd ar gyfer sgyrsiau, adfyfyrdodau ac ysbrydoliaeth oedd yn canolbwyntio ar ddathlu gorffennol, presennol a dyfodol twristiaeth.

Dechreuadau trochol ac adfyfyrdodau yn y diwydiant

Dechreuodd y dathliad yn yr Ystafell Drochi ar Gampws SA1 Glannau Abertawe Y Drindod Dewi Sant, man dysgu dynamig y gellir ei drawsnewid yn westai, parciau thema ac ystafelloedd rheoli stadiymau — gan ddarparu efelychiadau realistig i fyfyrwyr Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth heddiw ar gyfer rheoli argyfyngau a rhoi iddynt brofiad o’r byd go iawn wrth wneud penderfyniadau gweithredol.

Ar ôl croeso gan Jacqui Jones, Cyfarwyddwr Rhaglen Portffolio Rheolaeth Teithio, Twristiaeth, Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol, traddododd y cyn-fyfyriwr, Dominic Jones ‘99, Prif Swyddog Gweithredol Ymddiriedolaeth Mary Rose, yr anerchiad agoriadol, gan rannu mewnwelediadau o’i daith yrfa a myfyrio ar effaith drawsnewidiol y rhaglen. Fe wnaeth ei sylwadau osod y tôn ar gyfer diwrnod gan ganolbwyntio ar gyfleoedd, arloesi a llwyddiant cyn-fyfyrwyr. 

Mwynhaodd y gwesteion hefyd lansiad The Spark and A Sense of Wonder: A Manifesto for Tourism in the 21st Century gan yr Athro Terry Stevens, sylfaenydd y rhaglen wreiddiol, a myfyrdod pwerus gan yr Athro Ymarfer Andrew Campbell MBE ar y dylanwad y mae cyn-fyfyrwyr wedi’i gael ar y diwydiant hamdden a thwristiaeth fyd-eang. 

Cynhaliwyd cinio ar y thema dathlu - wedi’i baratoi’n fedrus gan fyfyrwyr Rheolaeth Gastronomeg Ryngwladol a’i weini gan fyfyrwyr Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol - yng Nghanolfan Dylan Thomas, a noddwyd yn hael gan Skyline Abertawe. Parhaodd y prynhawn gyda rhagor o adfyfyrdodau yn y diwydiant a thrafodaethau panel i gyn-fyfyrwyr.

Lleoliadau sy’n llunio gyrfaoedd

Wrth wraidd rhaglenni Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth y Drindod Dewi  Sant,  mae ymrwymiad i ddysgu yn y byd go iawn, dan arweiniad y diwydiant — thema a glywyd drwy gydol y dathliad. Mae lleoliadau, a gyflwynwyd yn gynnar yn hanes y rhaglen, wedi dod yn nodwedd ddiffiniol o brofiad y myfyriwr, gan roi’r hyder, y sgiliau a’r cysylltiadau i raddedigion i ffynnu.

Yn ystod y digwyddiad, rhoddodd siaradwyr o blith y cyn-fyfyrwyr glod dro ar ôl tro i’r cyfleoedd hyn fel rhai sy’n newid bywyd, gan dynnu sylw at sut mae profiad ymarferol a phartneriaethau cryf â’r diwydiant wedi llunio gyrfaoedd dros dri degawd.

Ymhelaethodd Dominic Jones ‘99 ar ei sylwadau agoriadol gan rannu sut roedd ei brofiad gradd “wedi newid ei fywyd,” gan fynd ag ef o interniaethau Disney i rolau arwain yn Thorpe Park, Virgin Atlantic Airways a Merlin Entertainments. 

Adfyfyriodd Craig Jarrett ‘04, a deithiodd o Chicago i fynychu’r digwyddiad, ar sut y gwnaeth astudio’n rhan-amser wrth weithio yng Nghanolfan Hamdden Abertawe ei helpu i “anelu’n uwch” a dilyn gyrfa fyd-eang gyda Royal Caribbean International cyn ennill ei rôl bresennol fel Is-lywydd Sodexo Live!, gan oruchwylio portffolio lolfeydd meysydd awyr American Express.

Alumnus, Craig Jarrett

Craig Jarrett '04

“Rwy’n dal i gymhwyso’r egwyddorion a ddysgais yn PCYDDS yn fy mhenderfyniadau rheoli heddiw.  Mae’r cwrs wedi fy helpu i ddatblygu’n bersonol ac yn broffesiynol.

Bydd unrhyw un sy’n ceisio gweithio yn y sector hwn yn cael llawer o fudd o’r rhaglen.  Mae’r cwricwlwm yn esblygu’n barhaus er mwyn cyd-fynd â thueddiadau yn y diwydiant, ac mae’r darlithwyr heb eu hail.”

Rhannodd Heledd Williams ‘95, Pennaeth Digwyddiadau Busnes Cymru ar gyfer Llywodraeth Cymru a Debbie Jenkins ‘94 sydd wedi dod yn ôl i’r dechrau fel darlithydd yn y Drindod Dewi Sant, sgwrs hiraethus am eu dyddiau fel myfyrwyr a’r darlithwyr a’u hysbrydolodd. Siaradodd y ddwy’n frwd am sut y rhoddodd y rhaglen hyder ac uchelgais iddynt, gan eu gosod ar lwybrau a fyddai’n arwain at yrfaoedd gwerth chweil. 

Aeth Ewan Rees ‘04 a’i radd o gylchdaith F1 Yas Viceroy Abu Dhabi, lle bu’n gweithio fel Cyfarwyddwr Gwerthiant Digwyddiadau, i sefydlu VIP Wales, cwmni teithiau a theithio pwrpasol yn ei sir enedigol, Sir Benfro. Siaradodd yn angerddol am werth lleoliadau, gan ddisgrifio sut y gwnaethant ei helpu i gymhwyso dysgu yn yr ystafell ddosbarth mewn lleoliadau byd go iawn a chyfoethogi ei astudiaethau. Ei gyngor i fyfyrwyr: “ewch amdani” a manteisiwch ar bob cyfle.

Rhannodd Mel Bourke ‘23 ac Ethan Scriven ‘24, graddedigion diweddar, sut roedd y cwrs wedi rhoi iddynt gysylltiadau i’r diwydiant a’r hyder i lwyddo. Disgrifiodd Ethan ei brofiad fel un “sy’n newid bywyd,” gan roi clod i’r cwrs am adeiladu gwytnwch ac agor drysau. Fe wnaethant ganmol darlithwyr am eu gwthio i chwilio am gyfleoedd a’u disgrifio fel ‘llwch aur’, gan dynnu sylw at ba mor brin yw cael addysgwyr sy’n buddsoddi cymaint yn llwyddiant eu myfyrwyr.

Dangosodd presenoldeb y cyfranwyr hyn gryfder y rhwydwaith cyn-fyfyrwyr a’i rôl wrth gefnogi myfyrwyr cyfredol drwy fentora, darlithoedd gwadd a chyfleoedd lleoliad - perthynas cwblhau’r cylch sy’n parhau i ddiffinio llwyddiant y rhaglen.

Dywedodd Jacqui Jones: “Heb ein cyn-fyfyrwyr, ni allem wneud yr hyn rydyn ni’n ei wneud. Maent yn chwarae rhan hanfodol wrth greu cyfleoedd ac agor drysau, ac rydym yn ddiolchgar iawn am y perthnasoedd anhygoel rydyn ni wedi’u hadeiladu. Mae ein cyn-fyfyrwyr yn helpu i lunio dyfodol y diwydiant, y cwrs, a’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr hamdden a thwristiaeth.”

Wrth edrych ymlaen, mae’r ddisgyblaeth Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth yn parhau i esblygu gan gynnig portffolio amrywiol o raglenni:


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
Ffôn: +447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon