Skip page header and navigation

Yng Ngholeg Celf Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mae myfyrwyr yn cael eu cefnogi i feithrin hyder, sgiliau a chyfeiriad creadigol.

Yn y blog hwn, mae Sarah Davies, myfyrwraig Patrymau Arwyneb a Thecstilau yn y drydedd flwyddyn, yn adfyfyrio ar ei thaith yn ôl i addysg ar ôl seibiant o 18 mlynedd. Wedi dychwelyd fel myfyrwraig aeddfed, mae hi’n rhannu sut mae’r cwrs, o friffiau diwydiant byw i gyfleoedd am interniaethau, wedi llunio ei harfer creadigol ac wedi rhoi iddi hyder o’r newydd. Wrth iddi baratoi ar gyfer Sioe Radd yr Haf a Graddio, mae Sarah yn cynnig cipolwg gonest ar brofiadau a chyffro’r cam hwn, a’i huchelgeisiau ar gyfer dyfodol yn y diwydiant creadigol.

A person sitting on chair in front of desk with drawings of flowers in front of them
Sarah Davies: awdur y blog a myfyrwraig trydedd flwyddyn BA Patrymau Arwyneb a Thecstilau

Dechreuodd fy nhaith i astudio BA Patrymau Arwyneb a Thecstilau wrth i mi chwilio ar-lein am gyrsiau creadigol. Yr hyn oedd yn sefyll allan i mi ar unwaith oedd pa mor amrywiol ydoedd; nid oedd yn teimlo fel cwrs oedd â chyfyngiadau o ran arddull na chyfeiriad. Roedd yr amrywiaeth yma’n apelio’n fawr ataf, yn enwedig fel rhywun sydd bob amser wedi bod â diddordeb mewn creadigrwydd mewn gwahanol ffurfiau.

Mae dilyn gyrfa greadigol bob amser wedi bod yn freuddwyd i mi, ond nid oedd y llwybr i gyrraedd yma yn un rhwydd. Ar ôl astudio Ffasiwn a Thecstilau yn y coleg, dechreuais ar gwrs Sylfaen Celf a Dylunio, ond yn fuan sylweddolais nad dyna oedd yr adeg iawn i mi. Roedd angen ysbaid arnaf i brofi bywyd y tu hwnt i addysg ac i dyfu mewn ffyrdd eraill. Yn ystod y cyfnod hwnnw, roeddwn i’n teithio, yn byw mewn gwahanol ddinasoedd ac yn gweithio mewn gwahanol rolau, pob un ohonynt yn siapio fy safbwynt.

Wedi bwlch o 18 mlynedd, dychwelais i fy nhref enedigol, Abertawe, gydag awydd cryf i ddilyn gradd greadigol. Ar y pwynt hwnnw, doedd gen i ddim cynllun clir; roeddwn eisiau profi i mi fy hun fy mod i’n gallu ei wneud, yn gallu datblygu sgiliau newydd, a herio fy hun.

O’r eiliad y dechreuais i’r cwrs, roeddwn i’n gyffrous i fod yn ôl mewn amgylchedd creadigol. Mae’n annog arbrofi a dull ymarferol, a wnaeth argraff gref arnaf yn gynnar.

Wrth edrych yn ôl, aeth fy mlwyddyn gyntaf heibio’n gyflym, ond mae’r gwahaniaeth yn fy sgiliau a fy hyder ers hynny wedi bod yn enfawr. Gallaf nawr gamu’n ôl a theimlo’n falch o’m gwaith, ond nid fel yna yr oedd hi bob amser ar y dechrau.

Yr hyn sy’n gwneud y cwrs yn wir arbennig yw ei amgylchedd. Mae’r darlithwyr a’r staff technegol yn hynod gefnogol, yn ein hannog i wthio ein hunain tra’u bod hefyd ar gael i ni trwy gyfnodau mwy heriol. Mae astudio ochr yn ochr â grŵp mor gryf o gyfoedion hefyd wedi bod yn rhan allweddol o’r profiad, gan greu awyrgylch ysgogol ac ysbrydoledig.

Rhan fawr o’r cwrs oedd y cyfle i weithio ar friffiau byw gyda brandiau gan gynnwys Monki, Anglepoise a Laura Ashley. Mae’r rhain wedi bod yn amhrisiadwy wrth fy helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir mewn rôl ddylunio broffesiynol. Mae ymateb i friffiau a dyddiadau cau go iawn wedi datblygu fy nealltwriaeth o sut mae’r diwydiant yn gweithredu a’r hyn y mae brandiau’n chwilio amdano, tra hefyd yn rhoi mynediad i ni at weithwyr proffesiynol y diwydiant.

Un uchafbwynt oedd cael fy newis fel enillydd briff byw Laura Ashley. Roeddwn i wedi gwneud ymdrech fawr i ddal hanfod y brand, felly roedd derbyn y gydnabyddiaeth honno yn golygu llawer iawn. Cefais gynnig mentoriaeth gan Helen Ashmore, Pennaeth Dylunio, a chefais wahoddiad i’r swyddfa yn Llundain fel rhan o’r ymgyrch ‘Laura Ashley: 100 Years of an Icon’.

Two people standing in front of designs on wall
Sarah gyda Helen Ashmore, Pennaeth Dylunio Laura Ashley a'i chasgliad a enillodd y briff fyw Laura Ashley, Regency Romance

Fe wnaeth treulio amser gyda’r tîm roi mewnwelediad i mi ar sut mae’r brand yn gweithredu ar draws dylunio, marchnata a’r cyfryngau cymdeithasol. Roedd hefyd yn gyfle i rannu fy ngwaith a derbyn adborth, a helpodd i fagu fy hyder ac atgyfnerthu fy nghyfeiriad. Mae cael y lefel honno o gefnogaeth gan rywun yn y diwydiant wedi bod yn hynod ystyrlon ac mae’n dal i deimlo’n eithaf swreal.

Roeddwn hefyd yn ffodus i sicrhau interniaeth gydag Elsie & Marj, cyfle a gododd drwy’r cwrs a roddodd brofiad i mi ddylunio ar gyfer brand annibynnol. Yr hyn a welais yn arbennig o werthfawr oedd faint y profiad wnaeth fy ngwthio i ddibynnu arnaf fy hun. Roedd yn teimlo fel fy ngham cyntaf i weithio’n annibynnol, lle nad oeddwn yn gallu troi at fy darlithwyr am arweiniad yn yr un modd, ac roedd yn rhaid i mi ymddiried yn fy ngreddf a’m penderfyniadau fy hun. Er ei fod yn heriol, roedd hyn hefyd yn grymuso, gan atgyfnerthu bod fy ngwaith yn gallu bodoli mewn cyd-destun proffesiynol a’m bod yn gallu cyfrannu’n ystyrlon mewn amgylchedd creadigol.

Wrth i mi baratoi ar gyfer Sioeau Graddio Haf, sef arddangosfa gyhoeddus flynyddol y Drindod Dewi Sant o waith myfyrwyr blwyddyn olaf, un o’r agweddau mwyaf gwerthfawr yw gweld pa mor bell rydw i wedi dod. Mae’r amser a’r ymroddiad sy’n mynd i ddatblygu casgliad yn anfesuradwy, ac mae arddangos y gwaith hwnnw yn hynod foddhaus. Ar yr un pryd, gall deimlo’n frawychus i roi eich gwaith allan yna, yn enwedig gan y gall pobl greadigol yn aml fod y beirniaid llymaf ar eu hunain. Fodd bynnag, mae cefnogaeth fy narlithwyr wedi fy helpu i ymddiried yn y broses ac i deimlo’n fwy hyderus yn fy nghyfeiriad.

Woman standing in front of prints on wall
Sarah gyda'i chasgliad blwyddyn olaf, Lore of Nature, yn y Sioe Graddio Haf

Wrth edrych y tu hwnt i’r Sioe Radd, mae’r posibilrwydd o arddangos yn New Designers yn rhywbeth rydw i’n gyffrous iawn amdano. Mae’n blatfform pwysig i raddedigion sy’n dod i’r amlwg, gan gynnig y cyfle i gyflwyno gwaith i weithwyr proffesiynol y diwydiant a chael amlygrwydd gwerthfawr.

Gall cyfleoedd fel hyn chwarae rhan bwysig wrth lansio gyrfa greadigol. Mae gweld enghreifftiau fel Anna Eynon, cyn-fyfyrwraig, a aeth ymlaen o New Designers i ennill interniaeth gyda Laura Ashley, yn hynod ysbrydoledig ac yn tynnu sylw at yr effaith y gall y profiadau hyn ei chael. 

Wrth i mi agosáu at raddio, rwy’n teimlo cyffro go iawn am yr hyn sy’n dod nesaf. Ni allaf ddychmygu bywyd heb ddylunio, ac rwy’n awyddus i ddod o hyd i fy lle yn y diwydiant. Fy nod yw gweithio fel dylunydd llawrydd, a fydd yn gofyn i mi barhau i wthio fy hun, i adeiladu cysylltiadau ac i gamu y tu hwnt i’r ffiniau sy’n gyfforddus i mi. 

Mae astudio yn y Drindod Dewi Sant wedi chwarae rhan enfawr yn fy llunio fel dylunydd. Mae wedi fy helpu i ddeall fy nghryfderau, i fireinio fy nghyfeiriad creadigol, ac i fagu hyder yn fy ngwaith. Yn fwy na hynny, mae wedi fy llunio fel person.

Am y tro cyntaf, roeddwn i’n teimlo fy mod i wir yn perthyn i amgylchedd addysgol, a wnaeth y profiad hyd yn oed yn fwy ystyrlon. Er bod y tair blynedd diwethaf wedi bod yn heriol ar adegau, mae dychwelyd i astudio wedi bod yn un o’r penderfyniadau gorau rydw i wedi’i wneud, ac yn un a ddaeth ar yr union adeg iawn yn fy mywyd.


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
Ffôn: +447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon