Skip page header and navigation

Adfyfyrdod ar gyfer Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang 17 – 23 Tachwedd 2025 gan Rebecca Jones, Rheolwr Datblygu Menter ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS)

Gan ei bod yn Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang,  dyma’r amser perffaith i ddathlu’r gwahanol fusnesau y mae ein myfyrwyr a’n graddedigion yn eu lansio, fel ysgol goedwig Maria neu gwmni argraffu 3D Ken, yn ogystal â’r sgiliau entrepreneuraidd anhygoel y maent yn eu datblygu ar hyd y ffordd. 

Yn PCYDDS, rydym yn falch o feithrin talent entrepreneuraidd wrth i hunangyflogaeth ddod yn llwybr gyrfa go iawn i gymaint o’n myfyrwyr.

Rebecca Jones with light bulb on head
Mwy na dim ond dechrau busnes

Nid dim ond lansio’r busnes newydd mawr nesaf yw diben entrepreneuriaeth. Mae’n meithrin hyder, gwytnwch, creadigrwydd, a sgiliau datrys problemau - rhinweddau sydd o fudd i fyfyrwyr p’un a ydynt yn rhedeg eu menter eu hunain neu’n gweithio o fewn sefydliad. 

Yn Rheolwr Datblygu Menter yma yn y Drindod Dewi Sant, rwyf wedi cael y fraint o wylio ein myfyrwyr yn archwilio posibiliadau ar gyfer y dyfodol. Mae rhai yn angerddol am chwaraeon moduro neu waith dylunio, tra bod eraill yn breuddwydio am greu eu busnes bwyd eu hunain neu lansio ymgynghoriaeth greadigol. Yr hyn sy’n fy nharo fwyaf yw’r amrywiaeth o gymhellion sydd gan ein myfyrwyr - anaml y mae’n ymwneud ag un syniad gwych unigol. I lawer, hunangyflogaeth yw’r ffordd berffaith o fynd ar drywydd nifer o ddiddordebau ar unwaith. Beth bynnag yw’r rheswm, mae pob llwybr yn cynnig cyfle i lunio eu dyfodol a dod o hyd i’r peth sy’n gweddu gorau iddynt.

Mae’r sgiliau entrepreneuraidd a ddatblygir yn ein myfyrwyr yn amhrisiadwy, p’un a fyddant yn dechrau eu menter eu hunain neu’n cymhwyso dulliau meddwl entrepreneuraidd i fusnesau sefydledig. Yn fwy a mwy, mae cyflogwyr ar draws pob sector yn gwerthfawrogi graddedigion sy’n gallu gweithio ar y cyd, datrys problemau’n annibynnol, bod yn arloesol, a chymryd camau ar eu liwt eu hunain i wneud i bethau ddigwydd. Rydym yma i gefnogi myfyrwyr a graddedigion diweddar wrth iddynt ddatblygu’r sgiliau hanfodol hyn ar gyfer pa bynnag lwybr y maent yn ei ddewis. 

Pam bod graddedigion yn mentro ar eu pen eu hunain

Mae’r dirwedd gyflogaeth yn newid. Yn ôl y ystadegau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), roedd 4.4 miliwn o bobl yn hunangyflogedig yn y DU yn ystod mis Rhagfyr 2024. Mae hyn yn 13% o’r farchnad lafur. Mae data Hynt Graddedigion ar gyfer carfan 2022/23 yn dangos bod 12.3% o raddedigion gradd gyntaf sy’n hanu o’r DU yn hunangyflogedig 15 mis ar ôl graddio. Ni dim ond awydd i ddod yn unig fasnachwyr, gweithwyr llawrydd, gweithwyr asiantaeth, a sylfaenwyr busnes, sydd yma, ond hefyd awydd i wasanaethu cymunedau lleol a llenwi bylchau yn y farchnad nad yw cyflogwyr traddodiadol wedi mynd i’r afael â nhw.

Mae’r niferoedd yn adrodd stori ysbrydoledig. Yn 2022/23 nifer y busnesau newydd a ddechreuwyd gan fyfyrwyr diweddar gyda chefnogaeth ffurfiol gan eu prifysgol oedd 4,908. Mae pob un yn cynrychioli taith bersonol, dyhead proffesiynol, a chyfraniad at dwf economaidd. 

Daeth PCYDDS yn gyntaf yn y DU o 220 o brifysgolion ar gyfer busnesau newydd a ddechreuir gan raddedigion sy’n dal i fod yn weithredol ar ôl 3 blynedd ac am nifer y busnesau gweithredol, yn ôl arolwg HEBCI 2022/23.

Beth sy’n denu graddedigion i hunangyflogaeth?

Mae ein graddedigion yn dweud wrthym yn gyson eu bod yn gwerthfawrogi cysyniad ymreolaeth - y gallu i osod eu hamserlen eu hunain, gwneud penderfyniadau annibynnol, a rhoi eu sgiliau ar waith mewn ffyrdd sy’n bwysig iddynt. Mae llawer yn gwerthfawrogi’r hyblygrwydd a geir o fod yn fos eu hunain - siapio eu gwaith o amgylch eu ffordd o fyw a’u hymrwymiadau - tra bod eraill wrth eu bodd â’r rhyddid creadigol y mae’n ei roi iddynt. 

Rwy’n gwybod o fy mhrofiad fy hun o redeg busnes ers dros dri degawd, mai hyfrydwch y llwybr entrepreneuraidd yw ei fod yn darparu ar gyfer gwahanol arddulliau gweithio, diddordebau lluosog, a’i fod yn gallu cefnogi ffrydiau incwm amrywiol mewn ffyrdd nad yw cyflogaeth draddodiadol yn aml yn gallu ei wneud. I lawer o’n graddedigion, nid yn unig y mae’r hyblygrwydd hwn yn ddymunol, mae’n hanfodol er mwyn cyflawni’r yrfa a’r ffordd o fyw maen nhw’n dyheu amdanynt. 

Cymorth menter i fyfyrwyr a graddedigion

Pa bynnag lwybr y mae ein myfyrwyr yn ei ystyried, bydd Tîm Menter PCYDDS yn eu helpu i’w archwilio mewn amgylchedd cefnogol a gynlluniwyd i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt - ni waeth pa gyfeiriad y maent yn ei gymryd yn y pen draw. 

O sesiynau un-i-un i fireinio syniadau, cyrsiau hyfforddi i fagu hyder, a grant cychwynnol o £500 i gychwyn mentrau, rydym yn darparu offer ymarferol i droi uchelgais yn weithred. Nid ar gyfer myfyrwyr yn unig y mae’r gefnogaeth hon, oherwydd gall graddedigion diweddar ei gyrchu hefyd, gan sicrhau bod ganddynt yr arweiniad a’r adnoddau i barhau i symud ymlaen. 

Ac i’r rhai sy’n barod i gymryd y cam nesaf ar ôl graddio, nid dim ond cyngor sydd gennym i’w gynnig, rydym hefyd yn darparu lle i dyfu. Ar hyn o bryd gall cyn-fyfyrwyr o’r ddwy flynedd ddiwethaf gael mynediad at ddesgiau poeth am ddim ar ddau o’n campysau: sef Y Matrics Arloesi ar ein campws yn SA1 Glannau Abertawe, sy’n gymuned fywiog o fusnesau newydd ac ymchwilwyr, a Chanolfan S4C Yr Egin yng Nghaerfyrddin, sy’n gartref i gwmnïau creadigol blaenllaw. Mae’r mannau hyn yn rhoi cyfle i gyn-fyfyrwyr weithio mewn amgylcheddau ysbrydoledig, i gysylltu ag arloeswyr o’r un anian, ac i ddatblygu eu syniadau. 

Os ydych chi’n fyfyriwr presennol neu wedi graddio’n ddiweddar o’r Drindod Dewi Sant ac rydych yn ystyried hunangyflogaeth neu waith llawrydd, cysylltwch â’n Tîm Menter yma, enterprise@uwtsd.ac.uk.


Ffynonellau ystadegau: What do graduates do? 2024/25 (HESA/Luminate), HE-BCI Survey 2020/21 (HESA), UK Labour Market- December 2024 (ONS)) 

Ynglŷn â’r awdur

Rebecca Jones yw Rheolwr Datblygu Menter PCYDDS, a chanddi dros 30 mlynedd o brofiad entrepreneuraidd a dau ddegawd yn cefnogi menter ym maes addysg. Mae hi’n gweithio gyda thimau academaidd i ymgorffori entrepreneuriaeth yn y cwricwlwm, yn darparu sesiynau rhyngweithiol, ac yn cynnig arweiniad un-i-un i fyfyrwyr sy’n lansio busnesau trwy fentrau fel cwrs cychwyn busnes y Brifysgol.

Mae Rebecca yn Gymrawd o Enterprise Educators UK (EEUK), a gydnabuwyd am ei chyfraniad i addysg menter ac ysbrydoli arweinwyr busnes y dyfodol. Y tu hwnt i’w rôl yn y brifysgol, mae’n siaradwr, hyfforddwr ac awdur trwy ei hymgynghoriaeth Stretchy Thinking, gan helpu sefydliadau ac unigolion i feithrin arloesedd, hyder a thwf.


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
Ffôn: +447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon